Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 126 (Cy. 41)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022

Gwnaed

am 2.56 p.m. ar 10 Chwefror 20222

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 4.45 p.m. ar 10 Chwefror 2022

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 11 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a dirymu

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 11 Chwefror 2022.

(3Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu dirymu.

(4Mae Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021(3) wedi ei dirymu.

Dehongli cyffredinol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cerbyd nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods vehicle” yn adran 192 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(4);

mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

ystyr “darparwr prawf” (“test provider”) yw darparwr prawf cyhoeddus neu ddarparwr prawf preifat;

ystyr “darparwr prawf cyhoeddus” (“public test provider”) yw person sy’n darparu neu’n gweinyddu prawf gan arfer pwerau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(5), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(6), neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(7);

ystyr “darparwr prawf preifat” (“private test provider”) yw darparwr prawf ac eithrio darparwr prawf cyhoeddus;

ystyr “dyfais” (“device”) yw dyfais feddygol ddiagnostig in vitro o fewn yr ystyr a roddir i “in vitro diagnostic medical device” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 2002(8);

ystyr “GIG” (“NHS”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(9);

mae i “gwas i’r goron” yr ystyr a roddir i “crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(10);

ystyr “gweithiwr cludiant ffyrdd” (“road haulage worker”) yw—

(a)

gyrrwr cerbyd nwyddau sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo nwyddau, ac eithrio nwyddau at ddefnydd personol anfasnachol y gyrrwr, neu

(b)

person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1072/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor(11), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth;

ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw—

(a)

pan fo P yn deithiwr cymwys, yr wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1;

(b)

pan na fo P yn deithiwr cymwys, yr wybodaeth a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1;

mae “gyrrwr” (“driver”) yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn;

ystyr “penodolrwydd” (“specificity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad negatif yn gywir;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” (“adult”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “prawf cymhwysol” (“qualifying test”) yw prawf sy’n brawf cymhwysol at ddibenion rheoliad 7;

ystyr “prawf diwrnod 2” (“day 2 test”) yw prawf sy’n cydymffurfio â rheoliad 8(5) a pharagraff 1 o Atodlen 4;

ystyr “prawf gweithlu” (“workforce test”) yw prawf a gymerir ar gyfer canfod y coronafeirws, a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “prawf gweithlu arall” (“replacement workforce test”) yw prawf a gymerir ar gyfer canfod y coronafeirws, a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a gymerir yn unol â rheoliad 9(4) neu reoliad 11(3);

ystyr “Rheoliadau 2020” (“the 2020 Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;

ystyr “y Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws” (“the Coronavirus Restrictions Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(12);

ystyr “sensitifrwydd” (“sensitivity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad positif yn gywir;

ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(13);

mae i “teithiwr cymwys” (“eligible traveller”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” (“EU Digital COVID Certificate”) yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino.

(2At ddiben y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989(14)).

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae i—

“yr ardal deithio gyffredin”(15);

“cerbyd awyr”(16);

“llong”(17);

“porthladd”(18),

yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n teithio ar gerbyd awyr neu long i’w drin fel pe bai wedi bod mewn man oni bai—

(a)bod y person yn dod oddi ar y cerbyd awyr neu’r llong pan fo yn y man, neu

(b)pan na fo’r person yn dod oddi ar y cerbyd awyr neu’r llong pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y cerbyd awyr neu’r llong yn y man.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person wedi dechrau ei daith i Gymru y tu allan i’r ardal deithio gyffredin os oedd y man ymadael gwreiddiol y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, pa un a oedd y man ymadael diwethaf ar y daith honno o fewn yr ardal deithio gyffredin ai peidio.

Esemptiadau ar gyfer teithwyr cymwys

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) yn deithiwr cymwys os yw P yn bodloni gofynion paragraff (2) ac unrhyw un neu ragor o’r gofynion ym mharagraffau (3) i (7) o’r rheoliad hwn.

(2Mae P yn cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(3O ran P—

(a)mae wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,

(b)os yw’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin, mae’n gallu darparu prawf ei fod yn bodloni’r gofyniad yn is-baragraff (a) ar ffurf—

(i)pàs COVID y GIG, neu bàs cyfatebol oddi wrth GIG yr Alban, GIG Cymru neu’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon,

(ii)tystysgrif COVID Ddigidol yr UE,

(iii)tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd,

(iv)Tystysgrif Gogledd America,

(v)cerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau, neu

(vi)tystysgrif brechlyn, ac

(c)mae wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o frechlyn awdurdodedig gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1).

(4O ran P—

(a)mae wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan, mewn treial clinigol o frechlyn awdurdodedig ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(19),

(b)mae’n gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac

(c)mae wedi datgan bod P wedi cymryd rhan neu yn cymryd rhan mewn treial clinigol o’r fath gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1).

(5O ran P—

(a)mae wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan, mewn treial clinigol yn Unol Daleithiau America gan y Weinyddiaeth Bwyd a Diod o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws, a

(b)mae’n gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw drwy gerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(6Mae P o dan 18 oed pan fo’n cyrraedd Cymru.

(7O ran P—

(a)mae wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,

(b)mae’n gallu darparu prawf, os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo, ei fod yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (a), ac

(c)mae wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn fel y’i disgrifir yn is-baragraff (a) gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1).

(8At ddibenion paragraff (3), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—

(a)yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu

(b)yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(20) ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.

(9At ddibenion paragraff (3)—

(a)pan fo P wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;

(b)pan fo P wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw un o’r brechlynnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (d) o’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig.

(10At ddibenion paragraff (7), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau o’r brechlyn fel y’i pennir yng nghanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn hwnnw.

(11At ddibenion paragraff (7), pan fo P wedi cael—

(a)dos o frechlyn awdurdodedig, a

(b)dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor,

bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.

(12At ddibenion paragraff (7), pan fo P wedi cael—

(a)dos o un brechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a

(b)dos o frechlyn gwahanol o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor,

bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.

(13At ddibenion y rheoliad hwn, mae plentyn i’w drin fel pe bai’n gwneud datganiad gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1), ac yn darparu unrhyw brawf sy’n ofynnol, os gwneir y datganiad hwnnw, ac os darperir y prawf, gan berson sy’n teithio gyda’r plentyn hwnnw ac sydd â chyfrifoldeb drosto.

(14Yn y rheoliad hwn—

mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “the licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

ystyr “awdurdodiad marchnata” (“marketing authorisation”)—

(a)

mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth, yw’r ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(b)

mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (15) ac eithrio Aelod-wladwriaeth, yw awdurdodiad marchnata a roddwyd gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;

ystyr “brechlyn awdurdodedig” (“authorised vaccine”) yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws—

(a)

mewn perthynas â dosau a geir yn y Deyrnas Unedig—

(i)

a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu

(ii)

a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(b)

mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (15), a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y wlad honno yn dilyn gwerthusiad gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;

(c)

mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (16)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (a)(i) neu (ii) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;

(d)

mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—

(i)

wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11, 12, 13 neu 14 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 23 Rhagfyr 2021, a

(ii)

wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (16);

ystyr “GIG yr Alban” (“NHS Scotland”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

ystyr “GIG Cymru” (“NHS Wales”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “gwlad berthnasol” (“relevant country”) yw gwlad neu diriogaeth a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (15) neu wlad neu diriogaeth a restrir ym mharagraff (16);

ystyr “pàs COVID y GIG” (“NHS COVID pass”) yw’r cofnodion COVID-19 ar ap ffôn clyfar y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy’r wefan ar NHS.uk neu drwy lythyr ar ôl brechiad COVID-19 a geir oddi wrth y GIG;

ystyr “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” (“United Kingdom vaccine roll-out overseas”) yw gweinyddu’r brechlyn yn erbyn y coronafeirws i—

(a)

gweision i’r goron, contractwyr y llywodraeth neu bersonél arall sydd wedi eu lleoli neu eu seilio dramor a’u dibynyddion o dan y cynllun o’r enw rhaglen frechu COVID-19 staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, neu

(b)

personél milwrol neu sifilaidd, contractwyr y llywodraeth a’u dibynyddion mewn lleoliadau milwrol tramor, gan gynnwys y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, o dan y cynllun brechu a ddarperir neu a gymeradwyir gan Wasanaethau Meddygol Amddiffyn y DU;

ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”), mewn perthynas â gwlad berthnasol, yw’r rheoleiddiwr a nodir yn y rhes gyfatebol o ail golofn y tabl ym mharagraff (15), ac mae cyfeiriad at reoleiddiwr yn y tabl hwnnw yn gyfeiriad at yr awdurdod rheoleiddiol sy’n dwyn yr enw hwnnw a ddynodwyd yn Awdurdod Rheoleiddiol Llym gan Sefydliad Iechyd y Byd yn unol â gweithrediad Cyfleuster COVAX;

mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004;

ystyr “tystysgrif brechlyn” (“vaccine certificate”) yw tystysgrif mewn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg a ddyroddir gan awdurdod iechyd cymwys gwlad berthnasol, ac eithrio gwlad neu diriogaeth Ewropeaidd a restrir yn y tabl ym mharagraff (15) neu Unol Daleithiau America, sy’n cynnwys—

(a)

enw llawn P;

(b)

dyddiad geni P;

(c)

enw a gweithgynhyrchydd y brechlyn y mae P wedi ei gael;

(d)

y dyddiad y cafodd P bob dos o’r brechlyn;

(e)

manylion ynghylch naill ai pwy yw dyroddwr y dystysgrif neu’r wlad y rhoddwyd y brechlyn ynddi, neu’r ddau;

ystyr “Tystysgrif Gogledd America” (“North American Certificate”) yw—

(a)

Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);

(b)

Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);

(c)

WA Verify (talaith Washington).

(15Mae’r tabl y cyfeirir ato yn y diffiniadau o “gwlad berthnasol” a “rheoleiddiwr perthnasol” yn dilyn—

Gwlad berthnasolRheoleiddiwr perthnasol
Aelod-wladwriaethYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
AndorraYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
AwstraliaY Weinyddiaeth Nwyddau Therapiwtig
CanadaIechyd Canada
Gwlad yr IâYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Gwladwriaeth Dinas y FaticanYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
LiechtensteinYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
MonacoYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
NorwyYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
San MarinoYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Y SwistirSwissmedic
Unol Daleithiau AmericaGweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau

(16Y gwledydd a’r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “gwlad berthnasol” yw—

  • Yr Aifft

  • Albania

  • Algeria

  • Angola

  • Anguilla

  • Antigua a Barbuda

  • Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus

  • Yr Ariannin

  • Armenia

  • Azerbaijan

  • Y Bahamas

  • Bahrain

  • Bangladesh

  • Barbados

  • Belarws

  • Belize

  • Bermuda

  • Bhutan

  • Bolivia

  • Bosnia a Herzegovina

  • Botswana

  • Brasil

  • Brunei

  • Cambodia

  • Cameroon

  • Chile

  • Colombia

  • Costa Rica

  • Cote d’Ivoire

  • De Affrica

  • De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De

  • De Korea

  • De Sudan

  • Djibouti

  • Dominica

  • Dwyrain Timor

  • Ecuador

  • Yr Emiradau Arabaidd Unedig

  • Eswatini

  • Fietnam

  • Ffiji

  • Y Gambia

  • Georgia

  • Ghana

  • Gibraltar

  • Gogledd Cyprus

  • Gogledd Macedonia

  • Grenada

  • Guatemala

  • Guernsey

  • Guyana

  • Gweriniaeth Dominica

  • Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo

  • Gwlad yr Iorddonen

  • Gwlad Thai

  • Honduras

  • Hong Kong

  • India

  • Indonesia

  • Irac

  • Iran

  • Israel

  • Jamaica

  • Japan

  • Jersey

  • Kazakhstan

  • Kenya

  • Kosovo

  • Kuwait

  • Kyrgyzstan

  • Laos

  • Lesotho

  • Libanus

  • Liberia

  • Libya

  • Madagascar

  • Malawi

  • Malaysia

  • Maldives

  • Mali

  • Mauritania

  • Mauritius

  • Mecsico

  • Moldofa

  • Mongolia

  • Montenegro

  • Montserrat

  • Morocco

  • Mozambique

  • Namibia

  • Nepal

  • Niger

  • Nigeria

  • Oman

  • Pacistan

  • Palau

  • Panama

  • Papua Guinea Newydd

  • Paraguay

  • Periw

  • Qatar

  • Rwanda

  • Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Macao

  • Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha

  • Samoa

  • Sao Tome a Principe

  • Saudi Arabia

  • Seland Newydd

  • Senegal

  • Serbia

  • Seychelles

  • Sierra Leone

  • Singapore

  • Sri Lanka

  • St Kitts a Nevis

  • St Lucia

  • St Vincent a’r Grenadines

  • Suriname

  • Taiwan

  • Tanzania

  • Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig

  • Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India

  • Tiriogaethau Meddianedig Palesteina

  • Tonga

  • Trinidad a Tobago

  • Tsieina

  • Tunisia

  • Turkmenistan

  • Twrci

  • Uganda

  • Uruguay

  • Uzbekistan

  • Vanuatu

  • Wcrain

  • Ynys Manaw

  • Ynysoedd Cayman

  • Ynysoedd Falkland

  • Ynysoedd Philippines

  • Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno

  • Ynysoedd Prydeinig y Wyryf

  • Ynysoedd Solomon

  • Ynysoedd Turks a Caicos

  • Zambia

  • Zimbabwe.

(17Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y Rhan hon—

  • Albania

  • Armenia

  • Cape Verde

  • El Salvador

  • Gogledd Macedonia

  • Israel

  • Morocco

  • Panama

  • Togo

  • Twrci

  • Wcrain

  • Ynysoedd Ffaro.

(18Pan fo cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig wedi ei weinyddu i berson (“P”) gan berson sy’n gweithredu ar ran y Cenhedloedd Unedig ac sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu’r brechlyn yn y rhinwedd honno, mae P i’w drin fel pe bai wedi cael y dosau hynny mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (16), ac mae unrhyw gyfeiriad at berson o wlad berthnasol yn y Rheoliadau hyn i’w ddehongli yn unol â hynny.

Darpariaeth drosiannol

4.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol i berson (“P”), yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, beidio ag ymadael â mangre benodedig yng Nghymru, neu beidio â bod y tu allan i’r fangre benodedig honno, yn unol â rheoliad 7(1) neu reoliad 8(1) o Reoliadau 2020 (“y gofyniad i ynysu”), a

(b)pan na fyddai’r gofyniad i ynysu wedi bod yn gymwys i P pe bai’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir ym mharagraff (3) wedi eu cynnwys yn rheoliad 2A(12) o Reoliadau 2020 yn union cyn i P gyrraedd Cymru.

(2Mae’r gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3Y gwledydd a’r tiriogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—

  • Algeria

  • Cape Verde

  • De Sudan

  • Dwyrain Timor

  • El Salvador

  • Guatemala

  • Iran

  • Kazakhstan

  • Kyrgyzstan

  • Mecsico

  • Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Macao

  • Sao Tome a Principe

  • Togo

  • Tonga

  • Tsieina

  • Turkmenistan.

RHAN 2Gofyniad i ddarparu gwybodaeth

Personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin

5.—(1Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “P” yn gyfeiriadau at berson sy’n cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys person a ddisgrifir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 1 i 11 o Atodlen 5.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr

6.—(1Rhaid i P gyflwyno’r wybodaeth a ganlyn i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig heb fod yn fwy na 3 diwrnod cyn cyrraedd Cymru, gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwn—

(a)gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P, a

(b)pan fo P yn cyrraedd Cymru gyda phlentyn y mae gan P gyfrifoldeb drosto, gwybodaeth am deithiwr ar gyfer y plentyn.

(2Pan fo P yn cyrraedd Cymru drwy borthladd—

(a)rhaid i P gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gadael y porthladd, a

(b)rhaid i swyddog mewnfudo yn y porthladd ddarparu i P unrhyw gynhorthwy y mae’r swyddog yn ei ystyried yn angenrheidiol i alluogi P i gydymffurfio â pharagraff (1).

(3Rhaid i P ddarparu tystiolaeth i’r swyddog mewnfudo bod yr wybodaeth am deithiwr wedi ei darparu, os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog.

(4Pan fo P yn blentyn y mae gwybodaeth am deithiwr mewn cysylltiad ag ef wedi ei darparu gan berson sydd â chyfrifoldeb dros P yn unol â pharagraff (1)(b), nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P.

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth am deithiwr os nad yw’r wybodaeth ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth.

RHAN 3Gofynion profi

Gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negatif

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)teithiwr cymwys;

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 3(1) o Atodlen 2;

(c)person a ddisgrifir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 2, 3, 4, 6, 8, 9, 10, 11, 12 neu 18 o Atodlen 5.

(3Rhaid i P, wrth gyrraedd, feddu ar hysbysiad dilys o ganlyniad negatif o brawf cymhwysol a gymerwyd gan P.

(4Rhaid i P ddangos yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), naill ai’n ffisegol neu’n ddigidol, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo.

(5At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae prawf yn brawf cymhwysol os yw’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 2;

(b)mae hysbysiad o ganlyniad prawf negatif yn ddilys—

(i)os yw wedi ei ddarparu drwy Dystysgrif COVID Ddigidol yr UE, neu

(ii)os yw’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2.

Gofyniad i archebu a chymryd prawf diwrnod 2

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)teithiwr cymwys;

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a) i (i) o Atodlen 5 sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;

(c)person a ddisgrifir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 2 i 18 o Atodlen 5.

(3Rhaid i P, wrth gyrraedd Cymru, feddu ar archeb am brawf diwrnod 2 wedi ei drefnu gyda darparwr prawf.

(4Rhaid i P gymryd y prawf diwrnod 2.

(5Nid yw prawf diwrnod 2 i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r rheoliad hwn oni bai—

(a)bod P yn cymryd y prawf heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru,

(b)bod y person sy’n trefnu’r prawf wedi hysbysu darparwr y prawf fod y profion yn cael eu trefnu at ddibenion y rheoliad hwn, ac

(c)bod yr wybodaeth yn Atodlen 3 wedi ei darparu i ddarparwr y prawf mewn perthynas â P.

(6Pan fo prawf diwrnod 2 wedi ei drefnu, rhaid i ddarparwr y prawf ddarparu cyfeirnod prawf i’r canlynol—

(a)P, a

(b)unrhyw berson sy’n trefnu profion ar ran P.

(7Pan fo P yn oedolyn sy’n cyrraedd Cymru heb feddu ar y prawf diwrnod 2 sy’n ofynnol o dan baragraff (3), rhaid i P gael y prawf hwnnw neu’r profion hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(8Pan na fo P yn cymryd prawf fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol (gweler rheoliad 13(2) a (4)), rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf (“prawf arall”) sy’n cydymffurfio â’r gofynion (ac eithrio’r gofyniad ym mharagraff (5)(a)) sy’n gymwys i’r prawf nas cynhaliwyd.

(9Pan gymerir prawf arall, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn.

(10Rhaid i berson sydd wedi trefnu prawf diwrnod 2 ddarparu tystiolaeth ohono os yw swyddog mewnfudo neu gwnstabl yn gofyn amdani.

Profion gweithlu ar gyfer gweithwyr cludiant ffyrdd

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sy’n weithiwr cludiant ffyrdd, a

(b)a ddechreuodd ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys teithiwr cymwys.

(3Rhaid i P gymryd—

(a)prawf gweithlu cyn diwedd diwrnod 2,

(b)prawf gweithlu ar ôl diwrnod 2 ond cyn diwedd diwrnod 5, ac

(c)prawf gweithlu ar ôl diwrnod 5 ond cyn diwedd diwrnod 8.

(4Pan na fo P yn cymryd unrhyw un neu ragor o’r profion gweithlu fel sy’n ofynnol gan baragraff (3) am fod ganddo esgus rhesymol (gweler rheoliad 13(2) a (5)), rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf gweithlu arall neu brofion gweithlu eraill.

(5Pan fo P yn cymryd prawf gweithlu arall yn unol â pharagraff (4), mae P i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â pharagraff (3).

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “diwrnod 2” (“day 2”) yw’r ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

ystyr “diwrnod 5” (“day 5”) yw’r pumed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

ystyr “diwrnod 8” (“day 8”) yw’r wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.

Dyletswyddau ar gyflogwyr gweithwyr cludiant ffyrdd i hwyluso profion gweithlu

10.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo cyflogwr (“E”) yn cyflogi mwy na 50 o bersonau, a

(b)pan fo rhaid i unrhyw berson y mae E yn ei gyflogi gymryd profion gweithlu yn unol â rheoliad 9.

(2Rhaid i E gymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd y profion gweithlu hynny.

(3Wrth gyflawni’r ddyletswydd ym mharagraff (2), rhaid i E roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “cyflogi” yn cynnwys bod â chyfrifoldeb dros weithwyr asiantaeth;

(b)mae gan berson gyfrifoldeb dros weithwyr asiantaeth—

(i)os yw’r gweithiwr asiantaeth yn cael ei gyflenwi neu i’w gyflenwi gan berson (“asiant”) i’r cyflogwr o dan gontract neu drefniadau eraill a wneir rhwng yr asiant a’r cyflogwr, a

(ii)os nad yw’r gweithiwr asiantaeth—

(aa)yn weithiwr oherwydd absenoldeb contract gweithiwr rhwng y gweithiwr asiantaeth a’r asiant neu’r cyflogwr, neu

(bb)yn barti i gontract y mae’r gweithiwr asiantaeth yn ymrwymo oddi tano i wneud y gwaith ar gyfer parti arall i gontract y mae ei statws, yn rhinwedd y contract, yn statws cleient neu gwsmer i unrhyw broffesiwn neu ymgymeriad busnes a gynhelir gan y gweithiwr asiantaeth.

Goblygiadau cael canlyniad amhendant

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”) wedi cymryd prawf yn unol â rheoliad 8 neu reoliad 9 a bod canlyniad y prawf hwnnw yn amhendant.

(2Pan fo’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 8, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drefnu a chymryd prawf pellach sy’n cydymffurfio â gofynion prawf diwrnod 2, ac eithrio’r gofyniad yn rheoliad 8(5)(a).

(3Pan fo’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 9, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drefnu a chymryd prawf gweithlu arall.

Goblygiadau cael canlyniad positif

12.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo canlyniad prawf a gymerwyd gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 8, rheoliad 9 neu reoliad 11 yn bositif.

(2Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws yn gymwys i P fel pe bai P wedi cael ei hysbysu gan swyddog olrhain cysylltiadau fod P wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(3O ran canlyniad positif P o dan baragraff (1)—

(a)pan ddaeth o brawf gweithlu neu brawf gweithlu arall, a

(b)pan nad oedd y prawf gweithlu neu’r prawf gweithlu arall hwnnw yn brawf adwaith cadwynol polymerasau,

rhaid i P gymryd prawf sy’n cydymffurfio â gofynion prawf diwrnod 2, ac eithrio’r gofyniad yn rheoliad 8(5)(a).

(4Pan fo canlyniad prawf a gymerwyd yn unol â pharagraff (3) yn negatif, mae paragraff (2) yn peidio â bod yn gymwys i P.

(5Mae i “swyddog olrhain cysylltiadau” yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws.

RHAN 4Gorfodi a throseddau

Troseddau

13.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn rheoliad—

(a)6(1),

(b)6(3),

(c)7(3),

(d)7(4),

(e)8,

(f)9,

(g)10(2) neu

(h)11,

yn cyflawni trosedd.

(2Ond nid yw person yn cyflawni trosedd pan fo ganddo esgus rhesymol dros dorri rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3At ddibenion trosedd o dan baragraff (1)(c), mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—

(a)pan oedd person yn credu’n rhesymol ar adeg torri’r gofyniad fod hysbysiad o ganlyniad negatif yn ei feddiant yn ymwneud â’r person yn ddilys ac o brawf cymhwysol (at ddibenion rheoliad 7);

(b)pan oedd person yn anffit yn feddygol i ddarparu sampl ar gyfer prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru a’i fod yn meddu ar ddogfen, wedi ei llofnodi gan ymarferydd meddygol sydd â hawlogaeth i ymarfer yn y wlad neu’r diriogaeth y mae’r ymarferydd hwnnw wedi ei leoli ynddi, i’r perwyl hwnnw;

(c)pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru oherwydd—

(i)anabledd;

(ii)yr angen i gael triniaeth feddygol frys;

(d)pan oedd person yn mynd gyda pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (b) er mwyn darparu cymorth (boed yn feddygol neu fel arall) a phan nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r person a oedd yn mynd gydag ef gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru;

(e)pan ddechreuodd person ei daith i Gymru mewn gwlad neu diriogaeth lle nad oedd prawf cymhwysol ar gael i’r cyhoedd (gyda thaliad neu hebddo) neu lle nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol oherwydd diffyg mynediad rhesymol i brawf cymhwysol neu gyfleuster profi ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf os oedd hwnnw yn wahanol i’r man lle y dechreuodd ei daith;

(f)pan oedd yr amser y mae wedi ei gymryd i berson deithio o’r wlad neu’r diriogaeth lle y dechreuodd ei daith i wlad neu diriogaeth ei fan ymadael diwethaf cyn cyrraedd Cymru yn golygu nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo fodloni’r gofyniad ym mharagraff 1(1)(c) o Atodlen 2, ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf.

(4At ddibenion trosedd o dan baragraff (1)(e), mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—

(a)pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson archebu prawf oherwydd anabledd;

(b)pan oedd person yn ystyried yn rhesymol cyn cyrraedd Cymru na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person ddarparu sampl ar gyfer prawf oherwydd anabledd;

(c)pan oedd angen triniaeth feddygol ar berson â’r fath frys fel nad oedd archebu prawf yn rhesymol ymarferol;

(d)pan oedd person yn mynd gyda pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (c), er mwyn darparu cymorth iddo, boed yn feddygol neu fel arall, pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r person a oedd yn mynd gydag ef archebu prawf;

(e)pan ddechreuodd person ei daith i Gymru mewn gwlad neu diriogaeth lle nad oedd gan y person fynediad rhesymol i’r cyfleusterau neu’r gwasanaethau sy’n ofynnol i archebu prawf, gyda thaliad neu hebddo, ac nad oedd cyfleusterau neu wasanaethau o’r fath yn rhesymol hygyrch yn ei fan ymadael diwethaf os oedd hwnnw yn wahanol i’r man lle y dechreuodd ei daith;

(f)pan fo prawf yn cael ei ganslo am resymau y tu hwnt i reolaeth P;

(g)pan fo darparwr prawf wedi cymryd pob cam rhesymol i ddarparu cyfeirnod prawf i P ac i unrhyw berson sy’n trefnu prawf ar gyfer P.

(5At ddibenion trosedd o dan baragraff (1)(f), mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—

(a)pan nad yw’n rhesymol ymarferol i P gymryd prawf oherwydd anabledd;

(b)pan fo angen triniaeth feddygol ar P â’r fath frys fel nad yw’n rhesymol ymarferol cymryd prawf;

(c)pan fo P wedi gadael Cymru.

(6Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 6—

(a)pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(7Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan baragraff (6) os oes ganddo esgus rhesymol dros ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol.

(8Mae person sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(9Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(10Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(21) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) o’r adran honno yn cynnwys—

(a)cynnal iechyd y cyhoedd;

(b)cynnal trefn gyhoeddus.

Erlyn

14.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau cosb benodedig

15.—(1Caiff swyddog mewnfudo ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd—

(a)o dan reoliad 13(1) neu (6), mewn perthynas â gofyniad yn rheoliad 6(1) neu (3), neu

(b)o dan reoliad 13(8), pan gredir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person a oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny.

(2Caiff cwnstabl ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(3Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(4Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(5Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,

(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd,

(c)pennu swm y gosb benodedig,

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(6Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd o dan reoliad 13(1)(c) neu (d), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod—

(a)yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a geir, yn £500;

(b)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £1000;

(c)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £2000;

(d)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £4000.

(7Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd a ddisgrifir yn rheoliad 13(1)(e) yna rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod—

(a)yn achos hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i drefnu profion yn unol â rheoliad 8(3), yn £1000;

(b)yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i gymryd prawf yn unol â rheoliad 8(4), yn £1000;

(c)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig wedi hynny, a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i gymryd prawf yn unol â rheoliad 8(4), yn £2000.

(8Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd (“trosedd gwybodaeth neu hysbysu”)—

(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 6(1) neu (4), neu

(b)o dan reoliad 13(8) pan gredir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person a oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny,

rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10)).

(9Caiff hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.

(10Ond os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno—

(a)nid yw paragraff (9) yn gymwys, a

(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £120;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £240;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £480;

(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £960;

(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £1920.

(11Pa ddull bynnag arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y datgenir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a ddatgenir.

(12Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (11), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(13Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3)(b), a

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.

RHAN 5Rhannu gwybodaeth

Defnyddio a datgelu gwybodaeth

16.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 17, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—

(a)gwybodaeth am deithiwr o Gymru;

(b)gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig.

(2At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o Gymru” yw—

(i)gwybodaeth am deithiwr a ddarperir i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben rheoliad 6;

(ii)pan fo person yn trefnu neu’n cymryd prawf o dan reoliad 8—

(aa)gwybodaeth a gynhyrchir pan fo’r person yn trefnu neu’n cymryd prawf;

(bb)gwybodaeth a gaiff darparwr prawf o dan reoliad 8;

(cc)canlyniad y prawf;

(dd)gwybodaeth a gofnodir gan ddarparwr prawf wrth weinyddu prawf a gymerir yn unol â rheoliad 8 (gan gynnwys cadarnhad bod y prawf wedi ei gymryd, manylion o ran pryd ac ymhle y’i cymerwyd, unrhyw resymau dros beidio â chymryd prawf a manylion unrhyw brawf arall sydd i’w gymryd yn ei le);

(iii)gwybodaeth a ddarperir i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 8(10);

(iv)pan fo sampl a gymerwyd mewn cysylltiad â phrawf diwrnod 2 o dan reoliad 8 wedi ei dilyniannu, y ffeil BAM wedi ei didoli sy’n ymwneud â’r sampl honno sy’n cynnwys yr holl ddarlleniadau sy’n alinio i’r genom cyfeirio ar gyfer y coronafeirws gyda’r darlleniadau heb eu halinio a dynol wedi eu hepgor;

(b)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig” yw gwybodaeth a ddarperir i berson o dan ddarpariaeth mewn rheoliadau a wnaed o ran Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i ddarpariaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddeiliad gwybodaeth yn gyfeiriad at—

(a)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)person y datgelwyd yr wybodaeth iddo o dan baragraff (4) neu (5);

(c)darparwr prawf;

(d)swyddog mewnfudo.

(4Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o Gymru ddatgelu’r wybodaeth i berson arall (“y derbynnydd”) o dan amgylchiadau pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth—

(a)at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r derbynnydd o dan—

(i)y Rheoliadau hyn, neu

(ii)rheoliadau a wnaed o ran Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn;

(b)at ddiben—

(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws,

(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)rhoi effaith i unrhyw gytundeb neu drefniant rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws;

(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(5Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig ddatgelu’r wybodaeth i berson arall (“y derbynnydd”) o dan amgylchiadau pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth—

(a)at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn;

(b)at ddiben—

(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd yng Nghymru o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws,

(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws yng Nghymru, neu

(iii)rhoi effaith yng Nghymru i unrhyw gytundeb neu drefniant rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws;

(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(6Ni chaiff deiliad gwybodaeth berthnasol ddefnyddio’r wybodaeth ac eithrio—

(a)at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r deiliad o dan y Rheoliadau hyn;

(b)yn achos gwybodaeth am deithiwr o Gymru, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (4)(b);

(c)yn achos gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b);

(d)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(7Er gwaethaf paragraffau (4), (5) a (6), nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth yn gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(8Nid yw datgeliad a awdurdodir gan y rheoliad hwn yn torri—

(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (ym mha fodd bynnag y’i gorfodir).

(9Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi datgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(10Ym mharagraff (9), mae i “data personol” a “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyron â “personal data” a “the data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(22).

Hunanargyhuddo

17.—(1Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.

(2Pan fo’r wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn achos o’r fath—

(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a

(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw’r achos ar gyfer—

(a)trosedd o dan y Rheoliadau hyn,

(b)trosedd o dan adran 5 o Ddeddf Anudon 1911 (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)(23),

(c)trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006 (twyll)(24), neu

(d)trosedd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Twyll a Ffugio 1981 (trosedd o gopïo neu ddefnyddio offeryn ffug)(25).

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu

(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.

RHAN 6Adolygu a dod i ben

Adolygu’r gofynion

18.  Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, ac a yw’r gofynion hynny’n gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

(a)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 11 Chwefror 2022;

(b)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 28 o ddiwrnodau.

Y Rheoliadau’n dod i ben

19.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd 31 Mai 2022.

(2Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn yn dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 2.56 p.m. ar 10 Chwefror 2022

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1

RHAN 1Gwybodaeth am deithiwr sydd i’w darparu gan deithwyr cymwys a phersonau nad ydynt yn deithwyr cymwys

1.  Manylion personol—

(a)enw llawn;

(b)dyddiad geni;

(c)rhif basbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol), dyddiadau dyroddi a dod i ben a’r awdurdod dyroddi;

(d)rhif ffôn;

(e)cyfeiriad cartref;

(f)cyfeiriad e-bost.

2.  Manylion y daith—

(a)y gweithredwr y mae P yn teithio gydag ef, neu wedi teithio gydag ef, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd P i archebu’r daith;

(b)rhif y goets;

(c)rhif yr hediad neu enw’r llestr;

(d)y lleoliad yn y Deyrnas Unedig y bydd P yn ei gyrraedd neu’r lleoliad yn y Deyrnas Unedig y mae wedi ei gyrraedd;

(e)y wlad y mae P yn teithio ohoni neu wedi teithio ohoni;

(f)unrhyw wlad neu diriogaeth arall y bydd P ynddi, neu y mae P wedi bod ynddi, fel rhan o’i daith i’r Deyrnas Unedig;

(g)pan fo is-baragraff (f) yn gymwys, y dyddiadau yr oedd P yn y wlad arall neu’r diriogaeth arall neu y bydd P yn y wlad arall neu’r diriogaeth arall;

(h)y dyddiad a’r amser y bydd P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig neu y mae’n bwriadu cyrraedd y Deyrnas Unedig, fel y bo’n briodol;

(i)a yw P yn teithio drwy’r Deyrnas Unedig fel rhan o siwrnai gysylltu i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac, os felly—

(i)y lleoliad lle y bydd P yn ymadael â’r Deyrnas Unedig,

(ii)y wlad sy’n gyrchfan derfynol i P,

(iii)y gweithredwr y mae P yn teithio gydag ef ar y daith sy’n dilyn neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd P i archebu’r daith sy’n dilyn, a

(iv)rhif yr hediad, enw’r llestr neu rif y goets ar gyfer y daith sy’n dilyn.

3.  Pan fo P yn bwriadu manteisio ar esemptiad fel teithiwr cymwys—

(a)cadarnhad bod P yn bodloni un o’r esemptiadau yn rheoliad 3, a

(b)manylion ynghylch pa esemptiad yn rheoliad 3 y mae P yn dod odano.

4.  Pan fo P yn teithio gyda phlentyn y mae ganddo gyfrifoldeb drosto, enw llawn a dyddiad geni’r plentyn hwnnw.

RHAN 2Gwybodaeth ychwanegol am deithiwr sydd i’w darparu gan bersonau nad ydynt yn deithwyr cymwys

5.  Enw darparwr prawf diwrnod 2 P.

6.  Cyfeirnod y prawf a ddarperir i P gan ddarparwr y prawf yn unol â rheoliad 8(6).

Rheoliad 7

ATODLEN 2Profion cyn cyrraedd Cymru

1.—(1Mae prawf yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)os yw’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws, sydd—

(i)yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)yn brawf a gynhaliwyd gan ddefnyddio dyfais y mae’r gweithgynhyrchydd yn datgan bod ganddi—

(aa)sensitifrwydd o 80% o leiaf,

(bb)penodolrwydd o 97% o leiaf, ac

(cc)terfyn canfod o lai na 100,000 copi coronafeirws y mililitr neu’n hafal i hynny,

(b)os nad yw’n brawf a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978, neu Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, ac

(c)os cymerir sampl y prawf o’r person ddim mwy na 48 awr cyn—

(i)yn achos person sy’n teithio i Gymru ar wasanaeth trafnidiaeth masnachol, yr amser a amserlennwyd ar gyfer ymadawiad y gwasanaeth, heb gynnwys unrhyw daith dramwy, neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, amser ymadael gwirioneddol y llestr neu’r cerbyd awyr y mae’r person hwnnw yn teithio arni neu arno i Gymru, heb gynnwys unrhyw daith dramwy.

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person yn tramwyo drwy wlad neu diriogaeth os yw’n cyrraedd y wlad honno neu’r diriogaeth honno at ddiben parhau â thaith i Gymru, ac at y diben hwnnw yn unig—

(a)ar gludiant ac eithrio’r cludiant y cyrhaeddodd arno, neu

(b)ar yr un cludiant, ar ôl dod oddi arno dros dro.

2.  Rhaid i hysbysiad o ganlyniad prawf negatif gynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—

(a)enw’r person y cymerwyd y sampl ohono,

(b)dyddiad geni neu oedran y person hwnnw,

(c)canlyniad negatif y prawf,

(d)y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf sampl y prawf,

(e)datganiad—

(i)bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf, ac

(f)enw darparwr y prawf.

3.—(1Y personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(2)(b) (nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r rheoliad hwnnw) yw—

(a)person a ddisgrifir yn—

(i)paragraff 13(1)(b) o Atodlen 5 pan fo’r Adran berthnasol, cyn i’r person ymadael i’r Deyrnas Unedig, wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiad hwn ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7, neu

(ii)paragraff 14 o Atodlen 5 pan fo’r Adran berthnasol, cyn i’r person ymadael i’r Deyrnas Unedig, hefyd wedi ardystio nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7;

(b)gwas i’r goron neu gontractwr llywodraeth (“G”) y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol neu blismona hanfodol yn y Deyrnas Unedig neu sy’n dychwelyd o wneud gwaith o’r fath y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan fo’r Adran berthnasol, cyn i G ymadael i’r Deyrnas Unedig, wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiad hwn ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7;

(c)cynrychiolydd (“C”) i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig pan fo, cyn i C ymadael i’r Deyrnas Unedig—

(i)pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd neu’r swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig, neu Lywodraethwr i diriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar ei awdurdod, yn cadarnhau yn ysgrifenedig i’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ei bod yn ofynnol i C wneud gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig, a

(ii)y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi cadarnhau yn ysgrifenedig wedi hynny i’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn is-baragraff (i)—

(aa)ei bod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(bb)bod C yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7;

(d)aelod o griw cerbyd awyr sy’n cael ei gludo ar hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r cerbyd awyr, er budd diogelwch y cerbyd awyr, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2Yn is-baragraff (1)—

mae i “gwaith llywodraeth hanfodol” (“essential government work”) a “plismona hanfodol” (“essential policing”) yr ystyron a roddir ym mharagraff 13(2) o Atodlen 5;

mae i “swyddfa gonsylaidd” (“consular post”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1(3) o Atodlen 5.

Rheoliad 8(5)

ATODLEN 3Gwybodaeth archebu ar gyfer profion diwrnod 2

1.—(1Manylion personol—

(a)enw llawn;

(b)rhyw;

(c)ethnigrwydd;

(d)dyddiad geni;

(e)rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol);

(f)rhif GIG (os yw’n hysbys ac yn gymwys);

(g)rhif ffôn;

(h)cyfeiriad cartref;

(i)cyfeiriad e-bost.

(2Manylion y daith—

(a)y dyddiad y bydd P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig;

(b)rhif y goets, rhif yr hediad neu enw’r llestr;

(c)y dyddiad yr oedd P y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ddiwethaf, neu y bydd wedi bod y tu allan iddi ddiwethaf;

(d)enw’r wlad neu’r diriogaeth y bydd P yn teithio ohoni pan fydd P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, ac enw unrhyw wlad neu diriogaeth y bydd P wedi bod ynddi fel rhan o’r daith honno.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 4Gofynion ar gyfer profion diwrnod 2

Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol

1.—(1Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraffau (2) a (3).

(2Mae’r prawf diwrnod 2—

(a)yn cael ei ddarparu gan ddarparwr prawf cyhoeddus, neu

(b)yn cael ei ddarparu gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 2.

(3Mae’r prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn—

(a)pan fo’n brawf lled-feintiol ar gyfer canfod y coronafeirws—

(i)sy’n targedu o leiaf ddau enyn coronafeirws y gellir gwahaniaethu rhyngddynt ac eithrio’r genyn S a rheolaethau cyfeirio perfformiad,

(ii)sy’n cynnwys rheolwaith sicrwydd in silico yn erbyn pob amrywiolyn sy’n destun pryder, a

(iii)sy’n cynhyrchu toddiant prawf sy’n darparu asid niwclëig a echdynnwyd sy’n addas ar gyfer dilyniannu genom cyfan gan ddefnyddio dull penodedig,

(b)pan fo gweithgynhyrchydd unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn datgan—

(i)bod y ddyfais yn defnyddio dull sefydledig o ganfod moleciwlau,

(ii)bod gan y ddyfais benodolrwydd a sensitifrwydd sy’n fwy na 99% neu’n hafal i hynny (neu gyfwng hyder dwyochrog o 95% sydd uwchben 97% yn llwyr),

(iii)bod gan y ddyfais derfyn canfod o lai na 1,000 copi coronafeirws y mililitr neu’n hafal i hynny, a

(iv)bod y ddyfais yn addas ar gyfer canfod pob amrywiolyn sy’n destun pryder, ac

(c)pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf—

(i)yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig, a

(ii)wedi ei dilysu ddim mwy na 18 mis cyn gweinyddu’r prawf neu ei ddarparu i P.

Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol o ran darparwyr preifat

2.—(1At ddibenion paragraff 1(2)(b), mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)pan fo’n darparu profion diwrnod 2 mewn un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd (pa un a yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X ddarparu un neu ragor o elfennau’r gwasanaeth ar ei ran ai peidio);

(b)pan fo ymarferydd meddygol cofrestredig yn goruchwylio ac yn cymeradwyo arferion meddygol a gyflawnir gan y darparwr prawf preifat, ac yn gyfrifol am roi gwybod am faterion meddygol;

(c)pan fo ganddo system effeithiol o lywodraethu clinigol yn ei lle sy’n cynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol priodol mewn perthynas â chynnal profion diwrnod 2;

(d)pan fo gwyddonydd clinigol cofrestredig yn goruchwylio arferion clinigol a gyflawnir gan y darparwr prawf preifat, ac yn gyfrifol am roi gwybod am faterion clinigol;

(e)pan fo ganddo systemau yn eu lle i nodi unrhyw ddigwyddiadau andwyol neu faterion rheoli ansawdd mewn perthynas â phrofion diwrnod 2 a gallu rhoi gwybod i Weinidogion Cymru amdanynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol;

(f)os yw’r darparwr prawf preifat yn labordy sy’n cynnal gwerthusiadau profion diagnostig ar gyfer profi yn unol â’r Atodlen hon, pan fo wedi gwneud datganiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn cyrraedd y safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat ar https://support-covid-19-testing.dhsc.gov.uk/InternationalTesting;

(g)pan fo wedi darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi neu i gynnal dilyniannu genomaidd, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;

(h)pan fo’r person sy’n gyfrifol am gymryd y samplau yn bodloni’r gofynion perthnasol ar gyfer achrediad i safon ISO 15189 neu safon ISO/IEC 17025 mewn cysylltiad â chymryd samplau;

(i)pan fo’r labordy a ddefnyddir gan y darparwr prawf preifat i brosesu samplau yn bodloni’r gofynion perthnasol ar gyfer safon ISO 15189 neu safon ISO/IEC 17025 mewn cysylltiad â gwerthuso’r dull sefydledig o ganfod moleciwlau a dilyniannu genomaidd ar samplau;

(j)pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 8(5)(b) ac (c), ac yn gweinyddu neu’n darparu’r prawf i P heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(k)pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—

(i)am nifer y profion a werthodd ar y diwrnod hwnnw, a

(ii)mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—

(aa)am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig;

(bb)am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 8(6);

(l)pan fo’n dilyniannu pob sampl gyda throthwy cylch o lai na 30 (sy’n cyfateb i 1,000 copi genom firysol y mililitr);

(m)pan—

(i)bo sampl i’w dilyniannu yn unol â pharagraff (l), a

(ii)bo’r dilyniannu i ddigwydd mewn labordy (“y labordy dilyniannu”) ac eithrio’r labordy y proseswyd y sampl ynddo yn y lle cyntaf (“y labordy diagnostig”),

pan fo’n sicrhau bod y labordy dilyniannu yn cael y sampl heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r labordy diagnostig ddod i wybod am ganlyniad y prosesu cychwynnol;

(n)mewn cysylltiad â dilyniannu samplau, pan fo rhaid iddo sicrhau lled rhychwant genom cyfeirio o 50% o leiaf a rhychwant o 30 o weithiau o leiaf;

(o)pan fo, ar gais gan Weinidogion Cymru neu Gonsortiwm Genomeg COVID-19 y DU, yn rhoi samplau ar gael at ddiben dilyniannu deuol;

(p)pan fo’n cadw ac yn cludo samplau mewn modd sy’n galluogi dilyniannu genomau;

(q)pan fo ganddo broses yn ei lle i ddileu darlleniadau dynol o unrhyw ddata a gyflwynir mewn hysbysiad i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unol â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010(26);

(r)os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf preifat yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y bônt yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno—

(i)paragraffau (b) i (e) ac (g) i (q) o’r is-baragraff hwn;

(ii)paragraff 4(2) a (3).

(2At ddibenion is-baragraff (1)(h) ac (i), mae person neu labordy (yn ôl y digwydd) yn bodloni’r gofynion perthnasol ar gyfer achrediad i safon pan fo’r person sy’n weithredwr y labordy yn cydymffurfio â gofynion paragraff 3.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “gwyddonydd clinigol cofrestredig” yw person sydd wedi ei gofrestru fel gwyddonydd clinigol â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(27).

Achrediad UKAS

3.—(1Cyn darparu prawf diwrnod 2, rhaid i ddarparwr prawf preifat fod wedi ei achredu gan UKAS i’r safon ISO berthnasol.

(2Os yw’r darparwr prawf preifat yn trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r gwasanaeth profi ar ei ran, rhaid i’r darparwr prawf preifat—

(a)sicrhau bod X yn cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y paragraff hwn sy’n berthnasol i gyflawni’r elfen honno, a

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), beidio â darparu profion o dan drefniant ag X os yw X yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(3Nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i brawf a weinyddwyd cyn y dyddiad y methodd X â chydymffurfio â’r paragraff hwn.

(4Yn y paragraff hwn—

ystyr “y safon ISO berthnasol” (“the relevant ISO standard”) yw—

(a)

yn achos prawf y mae’n ofynnol ei brosesu mewn labordy, safon ISO 15189 neu safon ISO/IEC 17025, a

(b)

yn achos prawf yn y man lle y rhoddir gofal, safon ISO 15189 a safon ISO 22870, ac at y diben hwn ystyr “prawf yn y man lle y rhoddir gofal” yw prawf a brosesir y tu allan i amgylchedd labordy;

ystyr “UKAS” (“UKAS”) yw Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig, cwmni cyfyngedig drwy warant sydd wedi ei gorffori yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif 3076190.

Hysbysu am ganlyniadau profion gan ddarparwyr preifat

4.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr prawf preifat sy’n gweinyddu neu’n darparu prawf diwrnod 2 i P.

(2Rhaid i’r darparwr prawf preifat, o fewn yr amserlen berthnasol—

(a)hysbysu P a, phan fo’n gymwys, unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy e-bost, llythyr neu neges destun, am ganlyniad prawf P, neu

(b)rhoi canlyniad prawf P ar gael i P a, phan fo’n gymwys, i unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy borthol diogel ar y we,

yn unol ag is-baragraff (3).

(3Rhaid i’r hysbysiad o ganlyniad prawf P gynnwys enw, dyddiad geni, rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol) P, enw a manylion cyswllt y darparwr prawf preifat a chyfeirnod prawf P, a rhaid ei gyfleu mewn modd sy’n rhoi gwybod i P a oedd y prawf yn negatif, yn bositif, neu’n amhendant.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “amserlen berthnasol” yw heb fod yn hwyrach na 48 awr ar ôl i’r labordy diagnostig gael y sampl a gymerwyd at ddibenion y prawf.

Dehongli

5.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “amrywiolyn sy’n destun pryder” (“variant of concern”) yw amrywiolyn o’r coronafeirws a nodwyd mewn dynodiad a wnaed gan y Grŵp arbenigol perthnasol yn y DU(28) at ddibenion y Rheoliadau hyn ac a gyhoeddir mewn ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol;

ystyr “dull penodedig” (“specified method”) yw dull dilyniant wedi ei dargedu sy’n benodol i’r coronafeirws neu—

(a)

dull amplicon cyfatebol, neu

(b)

dull cipio abwyd dilyniant cyfatebol;

ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd” (“single end-to-end testing service”) yw gwasanaeth sy’n cwmpasu derbyn yr archeb gan y person sydd i’w brofi, casglu a phrosesu’r sampl sydd i’w phrofi, cynnal dilyniannu genomaidd a darparu canlyniad y prawf i P;

ystyr “wedi ei dilysu” (“validated”), mewn perthynas â dyfais, yw y cadarnhawyd bod gan y ddyfais sensitifrwydd o 97% o leiaf a phenodolrwydd o 99% o leiaf ar gyfer o leiaf 150 o samplau positif a 250 o samplau negatif, gan—

(a)

Gweinidogion Cymru,

(b)

y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, neu

(c)

labordy sydd wedi ei achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (“UKAS”) i safon ISO 15189 neu safon ISO/IEC 17025, ac eithrio labordy sy’n prosesu profion a ddarperir gan ddarparwr y prawf at ddibenion yr Atodlen hon, neu sy’n eiddo i ddarparwr y prawf.

Rheoliadau 5(2), 7(2) ac 8(2)

ATODLEN 5Personau esempt

1.—(1Person (“P”)—

(a)sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig;

(b)sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol;

(d)a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigwr neu ar genhadaeth;

(e)sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol;

(f)a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn ei swyddogaethau neu barhau â hwy ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn swyddfa gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd;

(g)sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig;

(h)sy’n gynrychiolydd i lywodraeth tiriogaeth dramor Brydeinig;

(i)sy’n gludydd diplomyddol neu’n gludydd consylaidd;

(j)sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (i).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(2)(b) (personau nad yw rheoliad 8 yn gymwys iddynt) yw—

(a)bod pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig neu Lywodraethwr i diriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar ei awdurdod, yn cadarnhau yn ysgrifenedig i’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu—

(i)ei bod yn ofynnol i P ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i weithrediad y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r swyddfa, neu ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig, a

(ii)na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo P yn cydymffurfio â rheoliad 8, a

(b)cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig, fod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu—

(i)wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(ii)pan fo P yn gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor, wedi cadarnhau yn ysgrifenedig wedyn i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) fod P yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 8.

(3At ddiben y paragraff hwn—

(a)ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963;

(b)ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd;

(c)ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Diplomyddol 1961;

(d)ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;

(e)ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, cyflogai consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth fel y diffinnir “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968(29), ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno;

(f)ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth fel y diffinnir “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964(30).

(4Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw freinryddid rhag awdurdodaeth neu anhydoredd a roddir i unrhyw berson a ddisgrifir yn is-baragraff (1) o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar wahân i’r Rheoliadau hyn.

2.—(1Gwas i’r goron neu gontractwr llywodraeth—

(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig yn y Deyrnas Unedig o fewn 10 niwrnod ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, neu

(b)sy’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond—

(i)ei bod yn ofynnol iddo ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig dros dro, a

(ii)y bydd wedyn yn ymadael er mwyn ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(2At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3, ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol.

3.—(1Person sy’n was i’r goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—

(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni,

(b)sydd wedi teithio o rywle o fewn yr ardal deithio gyffredin ar lestr neu gerbyd awyr a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad, neu sy’n ei gefnogi, ac nad yw’r llestr honno neu’r cerbyd awyr hwnnw wedi derbyn unrhyw bersonau, wedi docio mewn unrhyw borthladd nac wedi glanio mewn unrhyw fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(c)sydd wedi ymgymryd â chyfnod parhaus o 10 niwrnod o leiaf, yn union cyn iddo gyrraedd, ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol Ei Mawrhydi, neu sy’n ei gefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad, neu sy’n ei gefnogi, ac nad yw’r llestr honno wedi derbyn unrhyw bersonau nac wedi docio mewn unrhyw borthladd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “amddiffyn” yr ystyr a roddir i “defence” yn adran 2(4) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;

(b)ystyr “llu ar ymweliad” yw unrhyw gorfflu, criw neu adran o luoedd gwlad, sy’n gorfflu, yn griw neu’n adran sy’n bresennol am y tro yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig), ar wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.

4.  Swyddog i Lywodraeth dramor y mae’n ofynnol iddo deithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol, neu gontractwr sy’n cefnogi’r dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol hyn yn uniongyrchol—

(a)pan fo’r swyddog neu’r contractwr yn meddu ar hysbysiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan aelod uwch o’r Llywodraeth dramor sy’n cadarnhau ei bod yn ofynnol iddo ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol yn y Deyrnas Unedig o fewn 10 niwrnod ar ôl cyrraedd ac na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliadau 6, 7 ac 8, neu

(b)pan fo lleoliad y swyddog neu’r contractwr yn unol â chytundeb dwyochrog neu amlochrog sefydlog â Llywodraeth Ei Mawrhydi ar weithredu rheolaethau ffin yn y Deyrnas Unedig.

5.  Person sydd, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, yn pasio drwodd i wlad neu diriogaeth arall heb ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

6.  Gweithiwr cludiant ffyrdd.

7.—(1Gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd.

(2At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd” yw—

(i)gyrrwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, neu

(ii)person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1073/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth;

(b)mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981(31).

8.—(1Meistri a morwyr, fel y diffinnir “master” a “seaman” yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(32), pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith neu wedi eu dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn unol â Chonfensiwn Llafur Morwrol 2006 neu Gonfensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “Confensiwn Llafur Morwrol 2006” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd ar 23 Chwefror 2006 gan Gynhadledd Gyffredinol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(33);

(b)ystyr “Confensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 14 Mehefin 2007 gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(34).

9.  Peilot, fel y diffinnir “pilot” ym mharagraff 22(1) o Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995(35), pan fo’r peilot wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu wedi ei ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig.

10.  Arolygydd, neu syrfëwr llongau, a benodwyd o dan adran 256 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 neu gan lywodraeth meddiant Prydeinig perthnasol fel y diffinnir “relevant British possession” yn adran 313(1) o’r Ddeddf honno, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

11.—(1Aelod o griw cerbyd awyr pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu y mae’n ofynnol iddo deithio i’r Deyrnas Unedig fel arall at ddibenion gwaith.

(2At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “aelod o griw cerbyd awyr” yw person—

(i)sy’n gweithredu fel peilot, llywiwr hedfan, peiriannydd hedfan neu weithredwr radioteleffoni hedfan y cerbyd awyr,

(ii)sy’n cael ei gludo ar y dec hedfan ac yn cael ei benodi gan weithredwr y cerbyd awyr i roi neu i oruchwylio’r hyfforddiant, y profiad, yr ymarfer a’r profion cyfnodol sy’n ofynnol ar gyfer y criw hedfan o dan erthygl 114(2) o Orchymyn Llywio Awyr 2016(36), neu

(iii)sy’n cael ei gludo ar yr hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r cerbyd awyr er budd diogelwch teithwyr neu’r cerbyd awyr;

(b)mae teithio at ddibenion gwaith yn cynnwys, yn benodol—

(i)pan fo’r aelod o griw cerbyd awyr yn preswylio y tu allan i’r Deyrnas Unedig, teithio i’r Deyrnas Unedig i weithio ar gerbyd awyr sy’n ymadael â’r Deyrnas Unedig;

(ii)teithio i fynychu hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith yn y Deyrnas Unedig;

(iii)dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn dilyn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

12.  Arolygwr hedfan sifil, fel y diffinnir “civil aviation inspector” yn Atodiad 9 i’r Confensiwn ar Hedfan Sifil Rhyngwladol a lofnodwyd yn Chicago ar 7 Rhagfyr 1944(37), pan fo’r arolygwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig wrth ymgymryd â dyletswyddau arolygu.

13.—(1Unrhyw berson y mae’r Adran berthnasol wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiadau ym mharagraff (a), (b) neu (c)—

(a)gwas i’r goron neu gontractwr llywodraeth y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â phlismona hanfodol neu waith llywodraeth hanfodol yn y Deyrnas Unedig;

(b)person sy’n dychwelyd o gynnal busnes hanfodol y wladwriaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(c)person sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig pan fo hyn yn angenrheidiol er mwyn hwyluso gweithrediad cenhadaeth ddiplomyddol neu swyddfa gonsylaidd Ei Mawrhydi neu benodiad milwrol neu swyddogol arall ar ran Ei Mawrhydi.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd;

(b)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan Weinidogion Cymru neu’r Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, waith sy’n gysylltiedig â diogelwch gwladol, gwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn unol â’i swyddogaethau statudol, a gwaith sy’n gysylltiedig â mewnfudo, clefyd y coronafeirws neu unrhyw ymateb argyfwng arall, ond nid yw’n cynnwys gwaith o’r disgrifiad ym mharagraff 2(1);

(c)ystyr “plismona hanfodol” yw gweithgarwch sydd wedi ei ddynodi felly ar ran y prif swyddog neu’r prif gwnstabl perthnasol;

(d)ystyr “busnes hanfodol y wladwriaeth” yw gweithgarwch sydd wedi ei ddynodi’n hanfodol i’r Deyrnas Unedig neu Lywodraeth Ei Mawrhydi gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, drafodaethau dwyochrog neu amlochrog â gwladwriaeth arall neu sefydliad rhyngwladol arall ac ymweliadau â gwladwriaeth arall ar ran y Deyrnas Unedig neu Lywodraeth Ei Mawrhydi.

14.—(1Person sy’n dychwelyd o ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys y tu allan i’r Deyrnas Unedig, sydd wedi ei ardystio gan yr Adran berthnasol yn angenrheidiol i hwyluso gwaith llywodraeth hanfodol neu fusnes hanfodol y wladwriaeth.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae i “gwaith llywodraeth hanfodol” a “busnes hanfodol y wladwriaeth” yr un ystyr ag ym mharagraff 13.

15.  Person a ddynodir gan y Gweinidog perthnasol o dan adran 5(3) o Ddeddf Dychwelyd Carcharorion i’w Gwlad eu Hunain 1984(38).

16.  Person sy’n gyfrifol am hebrwng person a geisir i’w estraddodi yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Estraddodi 2003(39), neu berson a geisir i’w estraddodi yn unol ag unrhyw drefniadau estraddodi eraill.

17.  Cynrychiolydd i unrhyw diriogaeth sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn cymryd i’r ddalfa berson y gorchmynnwyd ei ildio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Estraddodi 2003.

18.—(1Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunydd a ffurfir o gelloedd dynol neu waed, neu sy’n cynnwys hynny, ac sydd i’w ddefnyddio er mwyn darparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae “gwaed” yn cynnwys cydrannau gwaed;

(b)ystyr “gwasanaeth iechyd” yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu

(ii)hybu neu ddiogelu iechyd y cyhoedd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r perygl parhaus i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (“y coronafeirws”) yng Nghymru. Mae adran 45B o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben (ymhlith pethau eraill) atal perygl i iechyd y cyhoedd o lestrau, cerbydau awyr, trenau neu gludiant arall sy’n cyrraedd unrhyw le (“vessels, aircraft, trains or other conveyances arriving at any place”).

Mae’r Rheoliadau yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“Rheoliadau 2020”).

Ar gyfer personau sy’n cyrraedd Cymru a ddechreuodd eu taith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth ynghylch ble y maent yn byw, eu statws brechu, a materion cysylltiedig eraill (drwy “ffurflen lleoli teithwyr”). Mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag y gofyniad hwn.

Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion pellach ar oedolion sy’n cyrraedd Cymru nad ydynt yn bodloni’r diffiniad o “teithiwr cymwys” (neu esemptiadau penodol eraill) ac a ddechreuodd eu taith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin. Rhaid i bersonau o’r fath—

  • feddu ar ganlyniad prawf negatif am y coronafeirws cyn iddynt gyrraedd Cymru,

  • trefnu i gymryd prawf am y coronafeirws ar ôl cyrraedd Cymru (“prawf diwrnod 2”), a

  • chymryd y prawf diwrnod 2 hwnnw.

Mae rheoliad 1 yn dirymu Rheoliadau 2020 a Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/1063 (Cy. 250)) (“y Rheoliadau Diwygio”). Mae’r ail ddirymiad hwn yn dychwelyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1546 (Cy. 144)) i’r sefyllfa cyn y diwygiadau a wnaed gan Ran 3 o’r Rheoliadau Diwygio.

Mae rheoliad 3 yn nodi’r diffiniad o “teithiwr cymwys”, sy’n cynnwys personau sydd wedi eu brechu’n llawn o wledydd penodedig, a phlant.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer personau o wledydd penodedig a gyrhaeddodd Gymru cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn darparu bod rhaid i bersonau sy’n cyrraedd Cymru a ddechreuodd eu taith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin lenwi ffurflen lleoli teithwyr. Mae Atodlen 1 yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn y ffurflen honno.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau a ddechreuodd eu taith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ac nad ydynt yn deithwyr cymwys (neu wedi eu hesemptio fel arall) feddu ar ganlyniad prawf negatif am y coronafeirws wrth gyrraedd Cymru. Mae Atodlen 2 yn rhoi manylion am y gofynion y mae rhaid i brawf o dan reoliad 7 eu bodloni.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod rhaid i bersonau a ddechreuodd eu taith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ac nad ydynt yn deithwyr cymwys (neu wedi eu hesemptio fel arall) feddu ar archeb am brawf diwrnod 2 wrth gyrraedd Cymru. Rhaid i bersonau o’r fath gymryd y prawf hwnnw cyn diwedd eu hail ddiwrnod ar ôl cyrraedd Cymru. Mae Atodlen 3 yn rhoi manylion am yr wybodaeth archebu y mae rhaid i bersonau sy’n archebu prawf diwrnod 2 ei darparu i ddarparwyr prawf. Mae Atodlen 4 yn rhoi manylion am y gofynion y mae rhaid i brawf diwrnod 2 eu bodloni.

Mae Atodlen 5 yn nodi’r categorïau o berson sydd wedi eu hesemptio rhag rhai o’r gofynion yn rheoliadau 5 i 8 neu’r holl ofynion yn y rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod rhaid i weithwyr cludiant ffyrdd nad ydynt yn deithwyr cymwys gymryd profion gweithlu.

Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd ar gyflogwyr gweithwyr cludiant ffyrdd nad ydynt yn deithwyr cymwys i hwyluso profion gweithlu.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn nodi, yn y drefn honno, oblygiadau canlyniad amhendant neu bositif mewn prawf diwrnod 2. Mae rheoliad 11 yn darparu bod rhaid i bersonau sy’n cael canlyniad prawf positif gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)).

Mae rheoliad 13 yn darparu bod torri gofynion penodol a osodir gan y Rheoliadau hyn yn drosedd, fel y mae rhwystro person rhag arfer swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn. Gall person sy’n cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn gael dirwy.

Mae rheoliad 14 yn darparu na chaniateir dwyn achos o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 15 yn darparu y caniateir gosod cosbau penodedig ar bersonau yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn yn lle eu herlyn.

Mae rheoliad 16 yn nodi’r amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth a ddarperir o dan y Rheoliadau hyn (a Rheoliadau cyfatebol a wneir o ran Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon) gael ei datgelu neu ei defnyddio. Mae rheoliad 17 yn atal gwybodaeth a ddarperir o dan y Rheoliadau hyn rhag cael ei defnyddio i argyhuddo person, mewn achos am unrhyw drosedd ac eithrio un o dan y Rheoliadau hyn, o drosedd o wneud datganiad anwir ac eithrio o dan lw.

Rhaid adolygu’r angen am y Rheoliadau hyn a’u cymesuredd bob 28 o ddiwrnodau (rheoliad 18).

Mae rheoliad 19 yn darparu y bydd y Rheoliadau hyn yn dod i ben ar 31 Mai 2022.

Ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn oherwydd yr angen i’w rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.

(1)

1984 p. 22. (“Deddf 1984”). Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(2)

O.S. 2020/574 (Cy. 132), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/24 (Cy. 8), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/48 (Cy. 11), O.S. 2021/50 (Cy. 12), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/72 (Cy. 18), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/154 (Cy. 38), O.S. 2021/305 (Cy. 78), O.S. 2021/361 (Cy. 110), O.S. 2021/454 (Cy. 144), O.S. 2021/500 (Cy. 149), O.S. 2021/568 (Cy. 156), O.S. 2021/584 (Cy. 161), O.S. 2021/646 (Cy. 166), O.S. 2021/669 (Cy. 170), O.S. 2021/765 (Cy. 187), O.S. 2021/826 (Cy. 193), O.S. 2021/863 (Cy. 202), O.S. 2021/867 (Cy. 203), O.S. 2021/915 (Cy. 208), O.S. 2021/926 (Cy. 211), O.S. 2021/967 (Cy. 227), O.S. 2021/1063 (Cy. 250), O.S. 2021/1109 (Cy. 265), O.S. 2021/1126 (Cy. 273), O.S. 2021/1212 (Cy. 303), O.S. 2021/1321 (Cy. 336), O.S. 2021/1330 (Cy. 343), O.S. 2021/1342 (Cy. 346), O.S. 2021/1354 (Cy. 352), O.S. 2021/1366 (Cy. 361), O.S. 2021/1369 (Cy. 362), O.S. 2021/1433 (Cy. 371), ac O.S. 2022/16 (Cy. 8).

(4)

1988 p. 52. Mae diwygiadau i adran 192 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 1972/1265 (G.I. 14).

(8)

O.S. 2002/618, a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/2936.

(10)

1989 p. 6. Diwygiwyd adran 12 gan baragraff 22 o Atodlen 10 i Ddeddf Lluoedd wrth Gefn 1996 (p. 14), gan baragraff 30 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), gan baragraff 26 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46), gan baragraff 9(3) o Atodlen 13 i Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 (p. 47), gan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p. 32), gan baragraff 6 o Atodlen 14 i Ddeddf Ynni 2004 (p. 20), gan baragraff 58 o Atodlen 4 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, gan baragraff 34 o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi, a chan baragraff 36 o Atodlen 8 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22).

(11)

OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 72.

(13)

1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.

(15)

Gweler adran 1(3). Mae’n yn darparu y cyfeirir at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda’i gilydd yn y Ddeddf honno fel “the common travel area”.

(16)

Gweler adran 33(1).

(17)

Gweler adran 33(1).

(18)

Gweler adran 33(1).

(21)

1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).

(23)

1911 p. 6. Diwygiwyd adran 5 gan adran 1(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1948 (p. 58).

(28)

Ar adeg dod i rym, y Grŵp Cynghori ar Fygythiadau Feirysau Anadlol Newydd a Datblygol (“NERVTAG”) yw hwn.

(29)

1968 p. 18. Mae diwygiadau ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(30)

1964 p. 81. Mae diwygiadau ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(31)

1981 p. 14. Diwygiwyd adran 1 gan adran 139(3) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67).

(32)

1995 p. 21. Mae diwygiadau i adran 313(1) ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(33)

Gorch. 7049. ISBN 978 010 1889 766.

(34)

Gorch. 7375.

(35)

Mewnosodwyd Atodlen 3A gan Atodlen 1 i Ddeddf Diogelwch Morol 2003 (p. 16).

(36)

O.S. 2016/765. Mae diwygiadau i Atodlen 1 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(37)

Argraffiad diweddaraf Atodiad 9, a gyhoeddir gan y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol, yw’r 15fed argraffiad, a oedd yn gymwys o 23 Chwefror 2018 (ISBN 978-92-9258-301-9).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources