Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 16 (Cy. 8)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Gwnaed

am 7.11 p.m. ar 6 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 11 a.m. ar 7 Ionawr 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022.

(2Daw rheoliadau 2, 4, 9, 10, 14 a 15 i rym am 4.00 a.m. ar 7 Ionawr 2022.

(3Daw rheoliadau 5, 6, 7, 8, 11, 12 a 13 i rym am 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2022.

(4Daw rheoliad 3 i rym am 4.00 a.m. ar 10 Ionawr 2022.

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 2A

3.  Yn rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill), ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Bhutan

Cameroon

Cote d’Ivoire

Fiji

Y Gambia

Gogledd Cyprus

Irac

Liberia

Mali

Mauritania

Niger

Palau

Papua Guinea Newydd

Paraguay

Uzbekistan

Ynysoedd Solomon.

Diwygio rheoliad 6A

4.  Yn rheoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol), ym mharagraff (4), ar y diwedd mewnosoder—

(f)person sy’n deithiwr rheoliad 2A.

Diwygio rheoliad 6AB

5.  Yn rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion), yn lle paragraff (2)(a), rhodder—

(a)“prawf diwrnod 2”—

(i)mewn cysylltiad â pherson nad yw rheoliad 2A yn gymwys iddo, yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;

(ii)mewn perthynas â theithiwr rheoliad 2A, yw—

(aa)prawf a ddisgrifir ym mharagraff (i), neu

(bb)prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1ZBA o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno.

Diwygio rheoliad 6DB

6.—(1Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 neu 8 (yn ôl y digwydd) yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(3Yn lle paragraff (5)(a), rhodder—

(a)sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii),.

Diwygio rheoliad 6E

7.—(1)  Mae rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), ar y diwedd mewnosoder—

(c)bo P yn deithiwr rheoliad 2A–

(i)pan fo’r prawf yn brawf PCR diwrnod 2, mae paragraffau (6A) a (7) yn gymwys;

(ii)pan fo’r prawf yn brawf LFD diwrnod 2, mae paragraffau (6B), (6C) a (7) yn gymwys.

(3O flaen paragraff (7), mewnosoder—

(6A) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.

(6B) Rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf cadarnhau a ddarperir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.

(6C) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan y cynharaf o’r canlynol—

(a)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf LFD diwrnod 2;

(b)yr adeg yr hysbysir P bod canlyniad y prawf cadarnhau a gymerwyd yn unol â pharagraff (6B) yn negyddol.

(6D) Yn y rheoliad hwn, bernir bod person yn cael hysbysiad o ganlyniad mewn perthynas â phrawf LFD diwrnod 2 pan fydd y person yn penderfynu ar y canlyniad yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf.

(4Yn rheoliad 6E, ar y diwedd mewnosoder—

(9) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “prawf LFD diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb);

ystyr “prawf PCR diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(aa).

Diwygio rheoliad 6HB

8.—(1)  Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 neu 8 (yn ôl y digwydd) yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(3Yn lle paragraff (5)(a), rhodder—

(a)sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii).

Diwygio rheoliad 9

9.  Yn rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau), ym mharagraff 2, ar y diwedd mewnosoder—

(f)plentyn sydd o dan 5 oed pan fo’n cyrraedd Cymru;

(g)teithiwr rheoliad 2A.

Diwygio rheoliad 12

10.  Yn lle rheoliad 12 (diwrnod olaf yr ynysu), rhodder—

12.  At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad nad yw’n esempt ddiwethaf.

Diwygio rheoliad 14

11.—(1Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (1)(i), mewnosoder—

(ia)6E(6B).

(3Ym mharagraff (1B), ar ôl “6AB” mewnosoder “, 6E(6B)”.

(4Ym mharagraff (1D), ar ôl “6AB” mewnosoder “neu 6E(6B)”.

Diwygio rheoliad 16

12.  Yn rheoliad 16(6AB) (hysbysiad cosb benodedig)—

(a)Yn y geiriau cyn paragraff (a), ar ôl “rheoliad 14(1)(h)” mewnosoder “neu (ia)”;

(b)Yn is-baragraff (b), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(6B)”;

(c)Yn is-baragraff (c), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(6B)”.

Diwygio Atodlen 1C

13.—(1Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 1ZA mewnosoder—

Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol ar gyfer profion dyfais llif unffordd.

1ZBA.(1) Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—

(a)yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus; neu

(b)yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 1ZCA.

(2) Mae prawf yn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn—

(a)pan fo’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n defnyddio un neu ragor o’r canlynol–

(i)swabio’r trwyn yn y corgwn canol neu ym mlaen y ffroenau;

(ii)swabio’r tonsiliau;

(iii)poer;

(b)pan fo modd ei adnabod yn unigryw;

(c)pan fo wedi ei ddarparu yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf gan gynnwys, yn benodol, cyfarwyddiadau o ran y defnydd targed, y defnyddiwr targed a gosodiadau’r defnydd targed; a

(d)pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 2002, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig.

Profion diwrnod 2: gofynion darparwr prawf preifat ar gyfer profion dyfais llif unffordd.

1ZCA.(1) Mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)pan fo’n cydymffurfio â gofynion paragraff 1ZA(1)(a) i (e) a (h);

(b)pan fo wedi gwneud datganiad i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat a gyhoeddwyd ar gov.uk/guidance/day-2-lateral-flow-tests-for-international-arrivals-minimum-standards-for-providers ar 6 Ionawr 2022 a bod yr Adran wedi cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn ystyried bod y darparwr yn bodloni’r gofynion hynny;

(c)pan fo’n parhau i fodloni’r safonau gofynnol y mae’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (b) yn ymwneud â hwy;

(d)pan fo wedi darparu i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;

(e)pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6AB(5), ac os yw’n gweinyddu’r prawf i P, ei fod yn gwneud hynny heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(f)pan fo’n sicrhau nad yw ond yn cael canlyniadau o’r defnydd cyntaf o’r ddyfais;

(g)pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—

(i)am nifer y profion y mae wedi eu gwerthu ar y diwrnod hwnnw, a

(ii)mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—

(aa)am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig,

(bb)a yw’n brawf adwaith cadwynol polymerasau neu’n brawf dyfais llif unffordd, ac

(cc)am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6);

(iii)mewn perthynas â phob prawf y canslwyd ei bryniant ar y diwrnod hwnnw, yr wybodaeth a nodir yn is-baragraff (ii)(aa) i (cc);

(h)os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno—

(i)paragraff 1ZA(1)(b) i (e) ac (h) fel y’i cymhwysir gan baragraff (a) o’r is-baragraff hwn;

(ii)paragraff (c) i (g) o’r is-baragraff hwn;

(iii)paragraff 2D(2) a (4).

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(h), ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd” yw gwasanaeth sy’n cwmpasu unrhyw un neu ragor o’r elfennau a ganlyn pan fônt yn rhan o’r gwasanaeth a gynigir gan y darparwr prawf—

(a)derbyn yr archeb gan y person sydd i’w brofi;

(b)darparu’r prawf;

(c)casglu a phrosesu’r prawf wedi iddo gael ei gymryd;

(d)(d) dadansoddi’r prawf;

(e)gwirio canlyniad y prawf;

(f)darparu hysbysiad o ganlyniad y prawf.

(3Yn lle paragraff (1A) rhodder—

(1A) Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw—

(a)bod P yn cymryd prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a

(b)mewn perthynas â phrawf a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) nad yw wedi ei weinyddu gan ddarparwr prawf, fod P yn darparu i’r darparwr prawf yr wybodaeth a ganlyn o fewn 15 munud i amser darllen y prawf fel y’i pennir gan gyfarwyddiadau defnyddio y gweithgynhyrchydd—

(i)tystiolaeth ffotograffig sy’n dangos yn glir—

(aa)y ddyfais brofi yn y fath fodd fel y gellir ei hadnabod fel un sydd wedi ei darparu gan ddarparwr y prawf,

(bb)cyfeirnod y prawf a roddwyd yn unol â rheoliad 6AB(6), ac

(cc)canlyniad y prawf, a

(ii)y cyfeiriad y gall P gael prawf cadarnhau ynddo yn unol â rheoliad 6E(4).

(4Ar ôl paragraff 2C mewnosoder—

Hysbysu am ganlyniadau profion: profion dyfais llif unffordd

2E.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr prawf preifat sy’n gweinyddu neu’n darparu prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) i P o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A.

(2) Rhaid i’r darparwr prawf preifat, o fewn 24 awr i’r digwyddiad perthnasol—

(a)hysbysu P a, phan fo’n gymwys, unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy e-bost, llythyr neu neges destun, am ganlyniad prawf P, neu

(b)peri bod canlyniad prawf P ar gael i P a, phan fo’n gymwys, i unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy borthol diogel ar y we,

yn unol ag is-baragraff (4).

(3) Ym mharagraff (2), ystyr “digwyddiad perthnasol” yw—

(a)pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y penderfynodd y darparwr prawf ar ganlyniadau’r prawf;

(b)pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b).

(4) Rhaid i’r hysbysiad am ganlyniad prawf P gynnwys enw, dyddiad geni, rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol) P, enw a manylion cyswllt y darparwr prawf a chyfeirnod prawf P, a rhaid ei gyfleu mewn modd sy’n hysbysu P a oedd y prawf yn negyddol, yn bositif neu’n amhendant.

(5Ym mharagraff 2A o Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru), yn lle “yn hwyrach” rhodder “yn gynharach”.

(6Ym mharagraff 3(d), ar ôl ““un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd””, mewnosoder “, ac eithrio ym mharagraff 1ZCA (1)(h),”.

RHAN 3Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020

14.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.)(3) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Amnewid yr Atodlen

15.  Yn lle’r Atodlen rhodder—

Rheoliadau 3, 3A a 4

YR ATODLEN

Rhan 1

Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—

“Essential information to enter the UK from overseas

All persons arriving in the UK must fill in a Passenger Locator Form up to 48 hours before arrival. You must declare all countries you have visited in the 10 days before arrival.

Before departure check if any of the countries you have visited are on the red list.

If you have visited a country on the red list you must book a managed quarantine hotel.

You can only enter if you are a British or Irish National, or you have residence rights in the UK. You must enter through a designated port of arrival.

If you have not visited any countries on the red list, check if you qualify as fully vaccinated.

If you qualify as fully vaccinated you must:

  • book a test to take on or before day 2, and

  • quarantine in private accommodation until you receive a negative test result.

If you do not qualify as fully vaccinated you must:

  • provide proof of a negative COVID-19 test taken within 2 days of departure to the UK,

  • make plans to quarantine in private accommodation for 10 full days after arrival (or full duration of stay if less than 10 days), and

  • book tests to take on day 2 and day 8 of quarantine.

These measures apply to all persons (including UK nationals and residents) arriving in the UK from outside the Common Travel Area comprising the United Kingdom, Ireland, the Isle of Man, and the Channel Islands. The British Overseas Territories are not in the Common Travel Area. Public health requirements may vary depending upon which nation of the UK you are staying in.

England: https://www.gov.uk/uk-border-control

Northern Ireland: https://www.nidirect.gov.uk/articles/coronavirus-covid-19-international-travel-advice

Scotland: https://www.gov.scot/publications/coronavirus-covid-19-international-travel-quarantine

Wales:https://gov.wales/arriving-wales-overseas

Failure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. There are a limited set of exemptions from these measures. You may be fined if you fraudulently claim an exemption”

Rhan 2

Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—

(a)y fersiwn Gymraeg—

“Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoedd y Deyrnas Unedig.

Os ydych wedi eich brechu’n llawn neu’n bodloni’r meini prawf cymhwystra mewn ffordd arall, rhaid i chi gymryd prawf ar neu cyn diwrnod 2 ar ôl i chi gyrraedd. Rhaid i chi hunanynysu wrth gyrraedd a dim ond os yw canlyniad y prawf yn negyddol y caniateir i chi adael yr hunanynysiad.

Os nad ydych wedi eich brechu’n llawn neu os nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, rhaid i chi hunanynysu am 10 niwrnod a chymryd prawf ar ddiwrnod 8 ar ôl i chi gyrraedd.

Os ydych wedi bod mewn unrhyw wledydd ar y rhestr goch o fewn y 10 niwrnod blaenorol, rhaid i chi fynd i gwarantin mewn cyfleuster cwarantin a reolir am 10 niwrnod.

Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.

Dilynwch y canllawiau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu’n teithio ynddi. Ewch i gov.uk/coronavirus i gael rhagor o gyngor.”;

(b)y fersiwn Saesneg—

“The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies.

If you are fully vaccinated or otherwise meet the eligibility criteria, you must take a test on or before day 2 after you arrive. You must self-isolate on arrival and may only leave self-isolation if the result of the test is negative.

If you are not fully vaccinated or do not meet the eligibility criteria, you must self-isolate for 10 days and take a test on day 8 after you arrive.

If you have been in any countries on the red list within the previous 10 days, you must quarantine in a managed quarantine facility for 10 days.

The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.

Please follow Public Health guidance for the area you are living or travelling in. Visit gov.uk/coronavirus for more advice.”;

(c)y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.”

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 7.11 p.m. ar 6 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofynion i bersonau sy’n cyrraedd Cymru archebu a chymryd profion coronafeirws ac ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer “teithwyr rheoliad 2A”, sy’n cynnwys unigolion sydd wedi eu brechu’n llawn mewn gwledydd a thiriogaethau rhagnodedig.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad i reoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau a thystysgrifau brechlyn i ragor o wledydd a thiriogaethau.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad i reoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddileu’r gofyniad i brofi cyn ymadael ar gyfer teithwyr rheoliad 2A.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn galluogi teithwyr rheoliad 2A i ddefnyddio profion dyfais llif unffordd (“LFD”) ar gyfer profion diwrnod 2.

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr rheoliad 2A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddarparu y bydd y gofynion ynysu yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A sy’n methu â chymryd prawf diwrnod 2.

Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i fewnosod darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson gymryd prawf adwaith cadwynol polymerasau (“PCR”) cadarnhau pan fo’n cael canlyniad prawf positif ar brawf LFD, yn ogystal â chynnwys darpariaeth ar ofynion ynysu yn dilyn canlyniadau profion.

Mae rheoliad 8 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr rheoliad 2A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddarparu bod y gofynion ynysu yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A sydd wedi cael canlyniad prawf amhendant.

Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) i ddileu’r gofyniad i ynysu ar gyfer plant sydd o dan 5 oed pan fônt yn cyrraedd Cymru a theithwyr rheoliad 2A.

Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad newydd yn lle rheoliad 12 (diwrnod olaf yr ynysu) i ddarparu mai diwrnod olaf ynysiad person yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf.

Mae rheoliad 11 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliad 14 (troseddau) i gyflwyno trosedd am fethu â chymryd prawf PCR cadarnhau.

Mae rheoliad 12 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig) o ganlyniad i gyflwyno trosedd am fethu â chymryd prawf PCR cadarnhau.

Mae rheoliad 13 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach yn Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) mewn perthynas â chyflwyno profion LFD, ac i sicrhau nad yn profion diwrnod 8 yn cael eu cymryd yn ddim cynharach na diwedd seithfed diwrnod ynysiad person.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd.

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr.

Mae rheoliad 15 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i ddiweddaru’r wybodaeth y mae’n ofynnol i weithredwyr ei darparu i deithwyr sy’n teithio i Gymru o ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn oherwydd yr angen i’w rhoi ar waith ar frys er mwyn ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(2)

O.S. 2020/574 (Cy. 132), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/24 (Cy. 8), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/48 (Cy. 11), O.S. 2021/50 (Cy. 12), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/72 (Cy. 18), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/154 (Cy. 38), O.S. 2021/305 (Cy. 78), O.S. 2021/361 (Cy. 110), O.S. 2021/454 (Cy. 144), O.S. 2021/500 (Cy. 149), O.S. 2021/568 (Cy. 156), O.S. 2021/584 (Cy. 161), O.S. 2021/646 (Cy. 166), O.S. 2021/669 (Cy. 170), O.S. 2021/765 (Cy. 187), O.S. 2021/826 (Cy. 193), O.S. 2021/863 (Cy. 202), O.S. 2021/867 (Cy. 203), O.S. 2021/915 (Cy. 208), O.S. 2021/926 (Cy. 211), O.S. 2021/967 (Cy. 227), O.S. 2021/1063 (Cy. 250), O.S. 2021/1109 (Cy. 265), O.S. 2021/1126 (Cy. 273), O.S. 2021/1212 (Cy. 303), O.S. 2021/1321 (Cy. 336), O.S. 2021/1330 (Cy. 343), O.S. 2021/1342 (Cy. 346), O.S. 2021/1354 (Cy. 352), O.S. 2021/1366 (Cy. 361), O.S. 2021/1369 (Cy. 362), O.S. 2021/1433 (Cy. 371).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources