- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
2 Mawrth 2022
Yn dod i rym
4 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020(1) a pharagraff 16(1) o Atodlen 5 iddi.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
Yn unol ag adran 50(6)(c) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a pharagraff 16(5) o Atodlen 5 iddi, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022 a deuant i rym ar 4 Mawrth 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau(3) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Erthygl 24(3), yn yr is-baragraff cyntaf, yn lle’r geiriau o “at the time” hyd at “free circulation” rhodder “before being offered for sale to the final consumer or to mass caterers”.
Lesley Griffiths
y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r gyfraith UE a ddargedwir sy’n sefydlu safonau marchnata ar gyfer wyau. Maent yn gymwys o ran Cymru.
Maent yn diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (EUR 2008/589) a ddargedwir ar safonau marchnata ar gyfer wyau, drwy ganiatáu i wiriadau safonau marchnata ar wyau Dosbarth A ddigwydd mewn lleoliadau megis canolfannau pecynnu a mangreoedd cyfanwerthwyr, ond cyn gwerthu i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr, yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i’r gwiriadau gael eu cynnal cyn cliriad tollau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
EUR 2008/589, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1422; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: