Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

RHAN 4LL+CDARPARIAETH ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

17.  Mae rheoliad 18 yn nodi darpariaeth atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori ym mhob contract meddiannaeth heblaw contractau safonol cyfnod penodol a chontractau safonol â chymorth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

Hysbysiad tynnu’n ôl gan gyd-ddeiliaid contract: terfyn amserLL+C

18.  Y cyfnod amser lleiaf rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 111 ac adran 130 o’r Ddeddf (cyd-ddeiliaid contract: tynnu’n ôl) i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, yw un mis.

Gwybodaeth Cychwyn