Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

RHAN 5LL+CDARPARIAETHAU ATODOL NAD YDYNT YN GYMWYS OND I GONTRACTAU DIOGEL, CONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL A CHONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG

19.  Mae rheoliadau 20 i 25 yn nodi darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori mewn contractau diogel, contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 19 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 5))

Meddiannu’r anneddLL+C

20.—(1Rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref yn ystod cyfnod y contract meddiannaeth.

(2Pan fo cyd-ddeiliaid contract, rhaid i un deiliad y contract o leiaf feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref yn ystod cyfnod y contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

Diogelwch yr anneddLL+C

21.—(1Rhaid i ddeiliad y contract gymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr annedd yn ddiogel.

(2Caiff deiliad y contract newid unrhyw glo ar ddrysau allanol neu ddrysau mewnol yr annedd ar yr amod nad yw unrhyw newidiadau o’r fath yn darparu llai o ddiogelwch nag oedd yn ei le yn flaenorol.

Gwybodaeth Cychwyn

Atgyweirio’r anneddLL+C

22.  Os bydd deiliad y contract yn gwneud hysbysiad o dan y teler atodol a ymgorfforir yn y contract meddiannaeth yn unol â rheoliad 14(1), rhaid i’r landlord ymateb i ddeiliad y contract, gan gadarnhau—

(a)a yw’r landlord yn ystyried bod angen gwneud y gwaith atgyweirio,

(b)ai deiliad y contract neu’r landlord sy’n gyfrifol am y gwaith atgyweirio, ac

(c)os yw’r landlord yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio, pryd y bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud a’i gwblhau.

Gwybodaeth Cychwyn

StrwythurauLL+C

23.  Ni chaniateir i ddeiliad y contract osod, tynnu neu wneud addasiadau strwythurol i siediau, garejys neu unrhyw strwythurau eraill yn yr annedd heb gydsyniad y landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

TrosglwyddoLL+C

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract meddiannaeth os yw’r landlord yn cydsynio.

(2Yn achos contractau diogel, nid yw paragraff (1) yn gymwys ond i drosglwyddiadau nad ydynt fel arall wedi eu cwmpasu gan adrannau 73 i 83 o’r Ddeddf (olynu).

Gwybodaeth Cychwyn

Ymddygiad gwaharddedigLL+C

25.  Rhaid i’r landlord roi cyngor priodol i ddeiliad y contract os bydd deiliad y contract yn adrodd i’r landlord am unrhyw ymddygiad a waherddir o dan adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall) o’r Ddeddf ar ran unrhyw un sy’n byw mewn eiddo sy’n berchen i’r landlord gan gynnwys eiddo a feddiannir gan ddeiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn