Search Legislation

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: RHAN 6

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022, RHAN 6. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 6LL+CDARPARIAETHAU ATODOL NAD YDYNT YN GYMWYS OND I GONTRACTAU SAFONOL OND NID I GONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL, CONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

26.  Mae rheoliadau 27 i 31 yn nodi darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori mewn contractau safonol heblaw contractau safonol rhagarweiniol, contractau safonol ymddygiad gwaharddedig a chontractau safonol â chymorth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

Rhestr eiddoLL+C

27.—(1Rhaid i’r landlord ddarparu i ddeiliad y contract restr eiddo mewn perthynas â’r annedd yn ddim hwyrach na’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i’r landlord ddarparu’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract yn unol ag adran 31 (datganiad ysgrifenedig) o’r Ddeddf.

(2Rhaid i’r rhestr eiddo nodi cynnwys yr annedd, gan gynnwys yr holl osodiadau a ffitiadau, a rhaid iddi ddisgrifio eu cyflwr fel yr oedd ar y dyddiad meddiannu.

(3Os bydd deiliad y contract yn anghytuno â’r wybodaeth yn y rhestr eiddo, caiff deiliad y contract ddarparu sylwadau i’r landlord.

(4Pan na fo’r landlord yn cael sylwadau o fewn 14 o ddiwrnodau, bernir bod y rhestr eiddo yn gywir.

(5Pan fo’r landlord yn cael sylwadau o fewn 14 o ddiwrnodau, rhaid i’r landlord naill ai—

(a)diwygio’r rhestr eiddo yn unol â’r sylwadau hynny ac anfon y rhestr eiddo ddiwygiedig at ddeiliad y contract, neu

(b)hysbysu deiliad y contract na chytunir â’r sylwadau, ac ailanfon y rhestr eiddo wreiddiol at ddeiliad y contract, gyda’r sylwadau wedi eu hatodi, neu

(c)diwygio’r rhestr eiddo yn unol â rhai o’r sylwadau hynny ac anfon y rhestr eiddo ddiwygiedig at ddeiliad y contract, ynghyd â chofnod o’r sylwadau nas cytunwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

Rhoi hysbysiadau etc. i’r landlordLL+C

28.  Rhaid i ddeiliad y contract—

(a)cadw’n ddiogel unrhyw hysbysiadau, gorchmynion neu ddogfennau eraill sy’n cael eu danfon i’r annedd wedi eu cyfeirio at y landlord yn benodol neu’r perchennog yn gyffredinol, a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi’r copïau gwreiddiol o unrhyw hysbysiadau, gorchmynion neu ddogfennau eraill o’r fath i’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

Newidiadau i’r anneddLL+C

29.—(1Ni chaniateir i ddeiliad y contract wneud unrhyw addasiad i’r annedd heb gydsyniad y landlord.

(2At ddibenion paragraff (1), mae ystyr “addasiad” yn cynnwys—

(a)unrhyw ychwanegiad at y gosodiadau a’r ffitiadau yn yr annedd, neu unrhyw addasiadau iddynt,

(b)gosod erial neu ddysgl lloeren,

(c)gosod, tynnu neu wneud addasiadau strwythurol i siediau, garejys neu unrhyw strwythurau eraill yn yr annedd, a

(d)gwneud gwaith i addurno’r annedd yn allanol.

Gwybodaeth Cychwyn

Diogelwch yr anneddLL+C

30.—(1Rhaid i ddeiliad y contract gymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr annedd yn ddiogel.

(2Caiff deiliad y contract newid unrhyw glo ar ddrysau allanol neu ddrysau mewnol yr annedd ar yr amod nad yw unrhyw newidiadau o’r fath yn darparu llai o ddiogelwch nag oedd yn ei le yn flaenorol.

(3Os bydd angen allwedd newydd i gael mynediad i’r annedd neu unrhyw ran ohoni o ganlyniad i unrhyw newid a wneir o dan baragraff (2), rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a sicrhau bod copi sy’n gweithio o’r allwedd newydd ar gael i’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

LletywyrLL+C

31.  Ni chaniateir i ddeiliad y contract ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr heb gydsyniad y landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources