Offerynnau Statudol Cymru
2022 Rhif 244 (Cy. 72)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022
Gwnaed
8 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
10 Mawrth 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 236(3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf(2) i rym.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “contract safonol” (“standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 8 o’r Ddeddf;
mae i “contract safonol rhagarweiniol” (“introductory standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 16(4) o’r Ddeddf;
mae i “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” (“prohibited conduct standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 116(6) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Ffurf ragnodedig
3.—(1) Mae ffurf ragnodedig hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei wneud, neu ei rhoi neu ei gwneud, gan y Ddeddf neu o’i herwydd fel y mae wedi ei nodi yn y rheoliadau a ganlyn a’r Atodlen.
(2) Mae hysbysiad neu ddogfen arall sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg i’r ffurf ragnodedig yn ddilys.
Hysbysiad o gontract safonol
4. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 13 o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW1 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o gyfeiriad y landlord
5. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW2 yn yr Atodlen.
Hysbysiad bod y landlord wedi newid a hysbysiad o gyfeiriad y landlord newydd
6. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW3 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o newid cyfeiriad y landlord
7. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW4 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o’r amodau a osodir gan y prif landlord wrth gydsynio i gontract isfeddiannaeth
8. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW5 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o benderfyniad y prif landlord i drin contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol
9. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(7) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW6 yn yr Atodlen.
Hysbysiad i’r isddeiliad o hawliad meddiant yn erbyn deiliad y contract
10. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 64(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW7 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o hawliad adennill meddiant estynedig yn erbyn yr isddeiliad
11. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 65(3)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW8 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o waharddiad posibl deiliad y contract ar ôl cefnu ar y prif gontract a’r contract isfeddiannaeth
12. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 66(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW9 yn yr Atodlen.
Ffurf trosglwyddiad: trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad contract
13. Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(a) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW10 yn yr Atodlen.
Ffurf trosglwyddiad: trosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth gan gyd-ddeiliad contract
14. Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW11 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o amrywio’r rhent
15. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 104(1) neu 123(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW12 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o drosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract safonol cyfnod penodol gan gyd-ddeiliad contract
16. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 141(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW13 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o drosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract safonol cyfnod penodol ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract
17. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 142(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW14 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o wahardd dros dro: contract safonol â chymorth
18. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 145(4) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW15 yn yr Atodlen.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe mis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)
19. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW16 yn yr Atodlen—
(a)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 174(1) o’r Ddeddf(3), a
(b)pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)
20. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW17 yn yr Atodlen—
(a)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
(i)adran 174A(1) o’r Ddeddf(4), neu
(ii)cymhwyso paragraff 25A(2)(5) o Atodlen 12 i adran 174(1) o’r Ddeddf, a
(b)pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig
21. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW18 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o dynnu yn ôl hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol
22. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 180(3) o’r Ddeddf(6) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW19 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol: contract safonol (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)
23. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan—
(a)adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, neu
(b)adran 188(1) o’r Ddeddf,
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW20 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol: contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig
24. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW21 yn yr Atodlen.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 9B i’r Ddeddf
25. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 186(1) o’r Ddeddf(7) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW22 yn yr Atodlen.
Hysbysiad cyn gwneud hawliad meddiant
26. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 159(1), 161(1), 166(1), 171(1) neu 192(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW23 yn yr Atodlen.
Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe mis
27. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—
(a)o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1)(8) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a
(b)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 195(1) o’r Ddeddf(9),
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW24 yn yr Atodlen.
Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis
28. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—
(a)o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a
(b)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
(i)adran 195A(1) o’r Ddeddf(10), neu
(ii)cymhwyso paragraff 25D(2) o Atodlen 12 i adrannau 194 a 195 o’r Ddeddf(11),
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW25 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o dynnu yn ôl hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol
29. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 201(3) o’r Ddeddf(12) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW26 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad landlord i derfynu contract meddiannaeth oherwydd cefnu ar yr annedd
30. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW27 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o derfynu contract meddiannaeth oherwydd cefnu ar yr annedd
31. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(5) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW28 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad landlord i derfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd anfeddiannaeth
32. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW29 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o derfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd anfeddiannaeth
33. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(6) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW30 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad cyd-ddeiliad contract i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract arall oherwydd anfeddiannaeth
34. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 227(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW31 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad landlord i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd ymddygiad gwaharddedig
35. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW32 yn yr Atodlen.
Hysbysiad i gyd-ddeiliaid contract eraill o fwriad landlord i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd ymddygiad gwaharddedig
36. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW33 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o estyn y cyfnod rhagarweiniol
37. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW34 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad i wneud cais am orchymyn sy’n arddodi contract safonol ymddygiad gwaharddedig
38. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 1(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW35 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o ddiwedd cyfnod prawf: contract safonol ymddygiad gwaharddedig
39. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW36 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o estyn cyfnod prawf: contract safonol ymddygiad gwaharddedig
40. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 4(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW37 yn yr Atodlen.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnod penodol (contract wedi ei drosi)
41. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 25B(2) o Atodlen 12 i’r Ddeddf(13) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW38 yn yr Atodlen.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2022
Rheoliad 3
YR ATODLENFfurfiau Rhagnodedig
Rheoliad 4
FFURFLEN RHWI
Rheoliad 5
FFURFLEN RHW2
Rheoliad 6
FFURFLEN RHW3
Rheoliad 7
FFURFLEN RHW4
Rheoliad 8
FFURFLEN RHW5
Rheoliad 9
FFURFLEN RHW6
Rheoliad 10
FFURFLEN RHW7
Rheoliad 11
FFURFLEN RHW8
Rheoliad 12
FFURFLEN RHW9
Rheoliad 13
FFURFLEN RHW10
Rheoliad 14
FFURFLEN RHW11
Rheoliad 15
FFURFLEN RHW12
Rheoliad 16
FFURFLEN RHW13
Rheoliad 17
FFURFLEN RHW14
Rheoliad 18
FFURFLEN RHW15
Rheoliad 19
FFURFLEN RHW16
Rheoliad 20
FFURFLEN RHW17
Rheoliad 21
FFURFLEN RHW18
Rheoliad 22
FFURFLEN RHW19
Rheoliad 23
FFURFLEN RHW20
Rheoliad 24
FFURFLEN RHW21
Rheoliad 25
FFURFLEN RHW22
Rheoliad 26
FFURFLEN RHW23
Rheoliad 27
FFURFLEN RHW24
Rheoliad 28
FFURFLEN RHW25
Rheoliad 29
FFURFLEN RHW26
Rheoliad 30
FFURFLEN RHW27
Rheoliad 31
FFURFLEN RHW28
Rheoliad 32
FFURFLEN RHW29
Rheoliad 33
FFURFLEN RHW30
Rheoliad 34
FFURFLEN RHW31
Rheoliad 35
FFURFLEN RHW32
Rheoliad 36
FFURFLEN RHW33
Rheoliad 37
FFURFLEN RHW34
Rheoliad 38
FFURFLEN RHW35
Rheoliad 39
FFURFLEN RHW36
Rheoliad 40
FFURFLEN RHW37
Rheoliad 41
FFURFLEN RHW38
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf hysbysiadau penodol a dogfennau eraill y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir eu rhoi neu eu gwneud gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 22016 (dccc 1) neu oherwydd y Ddeddf honno.
Mae rheoliad 3(1) yn cyflwyno’r rheoliadau a’r Atodlen sy’n nodi ffurf yr hysbysiadau a’r dogfennau eraill a ragnodir gan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod hysbysiad neu ddogfen arall sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg yn ddilys.
Mae rheoliadau 4 i 41 yn rhagnodi ffurf pob hysbysiad penodedig neu ddogfen arall benodedig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
2016 dccc 1. Gweler adran 252 am y diffiniad o “rhagnodedig”.
Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Diwygiwyd adran 174(1) gan adran 1(2)(a) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) (“Deddf 2021”).
Mewnosodwyd adran 174A gan adran 1(3) o Ddeddf 2021.
Mewnosodwyd paragraff 25A o Atodlen 12 gan adran 18 o Ddeddf 2021 a pharagraff 27(5) o Atodlen 6 iddi.
Diwygiwyd adran 180(3) gan adran 8(2) o Ddeddf 2021.
Diwygiwyd adran 186(1) gan adran 10(1)(a) o Ddeddf 2021.
Diwygiwyd adran 194(1) gan adran 11(1) o Ddeddf 2021.
Diwygiwyd adran 195 gan adran 2(2) o Ddeddf 2021.
Mewnosodwyd adran 195A gan adran 2(3) o Ddeddf 2021.
Mewnosodwyd paragraff 25D o Atodlen 12 gan adran 18 o Ddeddf 2021 a pharagraff 27(7) o Atodlen 6 iddi.
Diwygiwyd adran 201(3) gan adran 8(3) o Ddeddf 2021.
Mewnosodwyd paragraff 25B o Atodlen 12 gan adran 18 o Ddeddf 2021 a pharagraff 27(6) o Atodlen 6 iddi.