Search Legislation

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 244 (Cy. 72)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022

Gwnaed

8 Mawrth 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Mawrth 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 236(3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf(2) i rym.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “contract safonol” (“standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 8 o’r Ddeddf;

mae i “contract safonol rhagarweiniol” (“introductory standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 16(4) o’r Ddeddf;

mae i “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” (“prohibited conduct standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 116(6) o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Ffurf ragnodedig

3.—(1Mae ffurf ragnodedig hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei wneud, neu ei rhoi neu ei gwneud, gan y Ddeddf neu o’i herwydd fel y mae wedi ei nodi yn y rheoliadau a ganlyn a’r Atodlen.

(2Mae hysbysiad neu ddogfen arall sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg i’r ffurf ragnodedig yn ddilys.

Hysbysiad o gontract safonol

4.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 13 o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW1 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o gyfeiriad y landlord

5.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW2 yn yr Atodlen.

Hysbysiad bod y landlord wedi newid a hysbysiad o gyfeiriad y landlord newydd

6.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW3 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o newid cyfeiriad y landlord

7.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW4 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o’r amodau a osodir gan y prif landlord wrth gydsynio i gontract isfeddiannaeth

8.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW5 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o benderfyniad y prif landlord i drin contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol

9.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(7) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW6 yn yr Atodlen.

Hysbysiad i’r isddeiliad o hawliad meddiant yn erbyn deiliad y contract

10.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 64(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW7 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o hawliad adennill meddiant estynedig yn erbyn yr isddeiliad

11.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 65(3)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW8 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o waharddiad posibl deiliad y contract ar ôl cefnu ar y prif gontract a’r contract isfeddiannaeth

12.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 66(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW9 yn yr Atodlen.

Ffurf trosglwyddiad: trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad contract

13.  Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(a) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW10 yn yr Atodlen.

Ffurf trosglwyddiad: trosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth gan gyd-ddeiliad contract

14.  Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW11 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o amrywio’r rhent

15.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 104(1) neu 123(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW12 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o drosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract safonol cyfnod penodol gan gyd-ddeiliad contract

16.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 141(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW13 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o drosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract safonol cyfnod penodol ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract

17.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 142(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW14 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o wahardd dros dro: contract safonol â chymorth

18.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 145(4) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW15 yn yr Atodlen.

Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe mis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)

19.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW16 yn yr Atodlen—

(a)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 174(1) o’r Ddeddf(3), a

(b)pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.

Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)

20.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW17 yn yr Atodlen—

(a)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—

(i)adran 174A(1) o’r Ddeddf(4), neu

(ii)cymhwyso paragraff 25A(2)(5) o Atodlen 12 i adran 174(1) o’r Ddeddf, a

(b)pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.

Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig

21.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW18 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o dynnu yn ôl hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol

22.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 180(3) o’r Ddeddf(6) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW19 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol: contract safonol (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)

23.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan—

(a)adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, neu

(b)adran 188(1) o’r Ddeddf,

fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW20 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol: contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig

24.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW21 yn yr Atodlen.

Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 9B i’r Ddeddf

25.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 186(1) o’r Ddeddf(7) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW22 yn yr Atodlen.

Hysbysiad cyn gwneud hawliad meddiant

26.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 159(1), 161(1), 166(1), 171(1) neu 192(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW23 yn yr Atodlen.

Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe mis

27.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—

(a)o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1)(8) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a

(b)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 195(1) o’r Ddeddf(9),

fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW24 yn yr Atodlen.

Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis

28.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—

(a)o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a

(b)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—

(i)adran 195A(1) o’r Ddeddf(10), neu

(ii)cymhwyso paragraff 25D(2) o Atodlen 12 i adrannau 194 a 195 o’r Ddeddf(11),

fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW25 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o dynnu yn ôl hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol

29.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 201(3) o’r Ddeddf(12) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW26 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o fwriad landlord i derfynu contract meddiannaeth oherwydd cefnu ar yr annedd

30.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW27 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o derfynu contract meddiannaeth oherwydd cefnu ar yr annedd

31.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(5) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW28 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o fwriad landlord i derfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd anfeddiannaeth

32.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW29 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o derfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd anfeddiannaeth

33.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(6) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW30 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o fwriad cyd-ddeiliad contract i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract arall oherwydd anfeddiannaeth

34.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 227(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW31 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o fwriad landlord i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd ymddygiad gwaharddedig

35.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW32 yn yr Atodlen.

Hysbysiad i gyd-ddeiliaid contract eraill o fwriad landlord i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd ymddygiad gwaharddedig

36.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW33 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o estyn y cyfnod rhagarweiniol

37.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW34 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o fwriad i wneud cais am orchymyn sy’n arddodi contract safonol ymddygiad gwaharddedig

38.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 1(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW35 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o ddiwedd cyfnod prawf: contract safonol ymddygiad gwaharddedig

39.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW36 yn yr Atodlen.

Hysbysiad o estyn cyfnod prawf: contract safonol ymddygiad gwaharddedig

40.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 4(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW37 yn yr Atodlen.

Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnod penodol (contract wedi ei drosi)

41.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 25B(2) o Atodlen 12 i’r Ddeddf(13) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW38 yn yr Atodlen.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2022

Rheoliad 3

YR ATODLENFfurfiau Rhagnodedig

Rheoliad 4

FFURFLEN RHWI

p10
p11

Rheoliad 5

FFURFLEN RHW2

p12

Rheoliad 6

FFURFLEN RHW3

p13

Rheoliad 7

FFURFLEN RHW4

p14

Rheoliad 8

FFURFLEN RHW5

p15

Rheoliad 9

FFURFLEN RHW6

p16

Rheoliad 10

FFURFLEN RHW7

p17

Rheoliad 11

FFURFLEN RHW8

p18
p19

Rheoliad 12

FFURFLEN RHW9

p20

Rheoliad 13

FFURFLEN RHW10

p21
p22

Rheoliad 14

FFURFLEN RHW11

p23
p24

Rheoliad 15

FFURFLEN RHW12

p25
p26

Rheoliad 16

FFURFLEN RHW13

p27

Rheoliad 17

FFURFLEN RHW14

p28

Rheoliad 18

FFURFLEN RHW15

p29
p30

Rheoliad 19

FFURFLEN RHW16

p31
p32
p33

Rheoliad 20

FFURFLEN RHW17

p34
p35
p36

Rheoliad 21

FFURFLEN RHW18

p37
p38
p39

Rheoliad 22

FFURFLEN RHW19

p40
p41

Rheoliad 23

FFURFLEN RHW20

p42
p43

Rheoliad 24

FFURFLEN RHW21

p44
p45

Rheoliad 25

FFURFLEN RHW22

p46
p47

Rheoliad 26

FFURFLEN RHW23

p48
p49
p50

Rheoliad 27

FFURFLEN RHW24

p51
p52
p53

Rheoliad 28

FFURFLEN RHW25

p54
p55
p56

Rheoliad 29

FFURFLEN RHW26

p57

Rheoliad 30

FFURFLEN RHW27

p58

Rheoliad 31

FFURFLEN RHW28

p59

Rheoliad 32

FFURFLEN RHW29

p60
p61

Rheoliad 33

FFURFLEN RHW30

p62

Rheoliad 34

FFURFLEN RHW31

p63
p64

Rheoliad 35

FFURFLEN RHW32

p65
p66

Rheoliad 36

FFURFLEN RHW33

p67

Rheoliad 37

FFURFLEN RHW34

p68

Rheoliad 38

FFURFLEN RHW35

p69

Rheoliad 39

FFURFLEN RHW36

p70

Rheoliad 40

FFURFLEN RHW37

p71

Rheoliad 41

FFURFLEN RHW38

p72
p73

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf hysbysiadau penodol a dogfennau eraill y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir eu rhoi neu eu gwneud gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 22016 (dccc 1) neu oherwydd y Ddeddf honno.

Mae rheoliad 3(1) yn cyflwyno’r rheoliadau a’r Atodlen sy’n nodi ffurf yr hysbysiadau a’r dogfennau eraill a ragnodir gan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod hysbysiad neu ddogfen arall sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg yn ddilys.

Mae rheoliadau 4 i 41 yn rhagnodi ffurf pob hysbysiad penodedig neu ddogfen arall benodedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

(1)

2016 dccc 1. Gweler adran 252 am y diffiniad o “rhagnodedig”.

(2)

Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)

Diwygiwyd adran 174(1) gan adran 1(2)(a) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) (“Deddf 2021”).

(4)

Mewnosodwyd adran 174A gan adran 1(3) o Ddeddf 2021.

(5)

Mewnosodwyd paragraff 25A o Atodlen 12 gan adran 18 o Ddeddf 2021 a pharagraff 27(5) o Atodlen 6 iddi.

(6)

Diwygiwyd adran 180(3) gan adran 8(2) o Ddeddf 2021.

(7)

Diwygiwyd adran 186(1) gan adran 10(1)(a) o Ddeddf 2021.

(8)

Diwygiwyd adran 194(1) gan adran 11(1) o Ddeddf 2021.

(9)

Diwygiwyd adran 195 gan adran 2(2) o Ddeddf 2021.

(10)

Mewnosodwyd adran 195A gan adran 2(3) o Ddeddf 2021.

(11)

Mewnosodwyd paragraff 25D o Atodlen 12 gan adran 18 o Ddeddf 2021 a pharagraff 27(7) o Atodlen 6 iddi.

(12)

Diwygiwyd adran 201(3) gan adran 8(3) o Ddeddf 2021.

(13)

Mewnosodwyd paragraff 25B o Atodlen 12 gan adran 18 o Ddeddf 2021 a pharagraff 27(6) o Atodlen 6 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources