- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
8 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
10 Mawrth 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 221(1) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar [F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)].
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 1 wedi eu hamnewid (13.8.2022) gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), erglau. 1(2), 12
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 12)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
y “cyfnod rhagnodedig” (“prescribed period”) yw pedair wythnos o’r diwrnod y daw’r contract meddiannaeth i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
ystyr “eiddo” (“property”) yw eiddo (heblaw eiddo’r landlord) sydd yn yr annedd pan ddaw’r contract meddiannaeth i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf;
mae “gwaredu” (“disposal”) yn cynnwys gwerthu eiddo, ond nid yw’n gyfyngedig i hynny.
(2) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 12)
3.—(1) Rhaid ymdrin ag eiddo sydd mewn annedd pan ddaw’r contract meddiannaeth i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r landlord ddiogelu’r eiddo am y cyfnod rhagnodedig.
(3) Ar ôl i’r cyfnod rhagnodedig ddod i ben, caiff y landlord waredu unrhyw eiddo sy’n weddill.
(4) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i eiddo—
(a)sy’n ddarfodus,
(b)y byddai ei ddiogelu yn ddigonol yn golygu costau neu anhwylustod afresymol, neu
(c)na fyddai ei werth, ym marn y landlord, yn fwy na’r swm y caiff y landlord ei ddidynnu o dan reoliad 5(1) o’r enillion o werthu’r eiddo hwnnw,
ac yn yr achosion hynny caiff y landlord waredu’r eiddo hwnnw ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw fodd y mae’n meddwl eu bod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 12)
4.—(1) Ar unrhyw adeg cyn gwaredu unrhyw eiddo o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 3, caiff deiliad y contract, neu unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord fod ganddo hawl perchnogaeth neu feddiant yn yr eiddo, drefnu i draddodi’r eiddo hwnnw i ddeiliad y contract neu’r person arall hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan drefnir traddodi o dan baragraff (1), rhaid i’r landlord ildio gofal o’r eiddo hwnnw.
(3) Caiff y landlord ei gwneud yn ofynnol i unrhyw swm, fel y gwêl y landlord yn addas, sy’n gyfwerth â, neu’n llai na, swm unrhyw dreuliau yr aeth y landlord iddynt wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, gael ei dalu iddo cyn ildio gofal o eiddo o dan y rheoliad hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 12)
5.—(1) Caiff y landlord ddefnyddio unrhyw enillion o waredu eiddo o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 3 i dalu treuliau yr aeth y landlord iddynt wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
(2) Os oes unrhyw swm yn weddill, yn dilyn defnyddio’r enillion o dan baragraff (1), caiff y landlord, ar ôl i’r cyfnod rhagnodedig ddod i ben, ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus o dan y contract meddiannaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 12)
6. Nid yw adran 41 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(2) yn gymwys i eiddo sydd mewn annedd y mae awdurdod lleol yn berchen arni neu’n ei rheoli pan fydd contract meddiannaeth mewn perthynas â’r annedd honno yn dod i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 12)
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y gofyniad i’r landlord ddiogelu eiddo mewn annedd pan fydd contract meddiannaeth yn dod i ben o dan adran 220 (meddiannu anheddau y cefnwyd arnynt) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 3(1) a (2) yn darparu, pan fo contract meddiannaeth yn dod i ben yn unol ag adran 220 o’r Ddeddf, fod rhaid i’r landlord ddiogelu eiddo a adawyd yn yr annedd am bedair wythnos o’r diwrnod y mae’r contract yn dod i ben. Mae paragraff (3) yn darparu, oni bai bod deiliad y contract (neu berchennog arall yr eiddo) yn trefnu i draddodi’r eiddo hwnnw i’r person perthnasol (o dan reoliad 4), ar ôl y pedair wythnos ragnodedig, y caiff y landlord waredu unrhyw eiddo sy’n parhau i fod o dan ei ofal. Mae paragraff (4) yn pennu amgylchiadau pan na fo’r ddyletswydd i ddiogelu eiddo y cefnwyd arno yn gymwys, ac yn yr achosion hynny caiff y landlord waredu’r eiddo hwnnw ar unrhyw adeg ar ôl i’r contract ddod i ben.
Mae rheoliad 4(1) a (2) yn darparu, pan fo deiliad y contract neu berchennog yr eiddo yn trefnu i draddodi’r eiddo i’r person hwnnw, fod rhaid i’r landlord ildio gofal o’r eiddo. Mae paragraff (3) yn galluogi’r landlord i’w gwneud yn ofynnol talu’r treuliau yr aeth y landlord iddynt wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn cyn bod y landlord yn ildio gofal o’r eiddo.
Mae rheoliad 5 yn caniatáu i’r landlord ddidynnu ei dreuliau ac unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus o dan y contract meddiannaeth o’r enillion o unrhyw werthiant eiddo o dan y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 6 yn darparu yr ymdrinnir ag eiddo sydd mewn annedd y cefnwyd arni y mae awdurdod lleol yn berchen arni neu’n ei rheoli yn unol â’r Rheoliadau hyn pan fo’r contract meddiannaeth yn cael ei derfynu o dan adran 220 o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
1982 p. 30. Diwygiwyd adran 41 gan erthygl 2 o O.S. 2003/1615, a pharagraff 11 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo; adran 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11), a pharagraff 56(3) o Atodlen 2 iddi; adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), ac Atodlen 24 iddi; adran 21 o Ddeddf Llynnoedd Norfolk a Suffolk 1988 (p. 4), a pharagraff 23 o Atodlen 6 iddi; adran 84 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), a pharagraff 61 o Atodlen 14 iddi; adran 99 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13), a pharagraffau 155 a 157 o Ran 3 o Atodlen 16 iddi; adran 88 o Ddeddf yr Heddlu 1997 (p. 50), a pharagraff 18 o Atodlen 6 iddi; adrannau 128(1) a 137 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p. 16), a pharagraff 40 o Ran 2 o Atodlen 6 a Rhan 5(1) o Atodlen 7 iddi; adran 119 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20), a pharagraff 56 o Atodlen 6 iddi; adrannau 6 a 9 o Ddeddf Plismona a Throseddu 2017 (p. 3), a pharagraffau 44 a 46 o Ran 2 o Atodlen 1 a pharagraffau 65 a 67 o Ran 2 o Atodlen 2 iddi; adran 209(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28), a pharagraff 38 o Ran 2 o Atodlen 13 iddi; adran 59 o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), a pharagraff 6(1), (16)(c) o Ran 3 o Atodlen 13 iddi; adran 43 o Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p. 29), a pharagraff 24 o Atodlen 4 iddi; adrannau 325 a 328 o Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29), a pharagraff 45(1) a (3) o Atodlen 27 a pharagraff 36 o Ran 1 o Atodlen 29 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: