- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
11 Mawrth 2022
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2) (“Deddf 1972”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru(3) adroddiad dyddiedig Ionawr 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion adolygiad o’r trefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiad.
Yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf 1972, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf 1972, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2022.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl 23:59 o’r gloch ar y diwrnod cyn diwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2022(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 15.3.2022 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I2Ergl. 1 mewn grym ar 4.5.2022 yn union ar ôl 23.59, gweler ergl. 1(3)
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “map” (“map”) yw’r map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(5);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i Gyngor Sir Fynwy;
pan ddangosir bod ffin ar y map yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
(2) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw orchymyn blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 neu orchymyn a wnaed o dan adran 38(1) neu 39(1) o [F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013](6).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 2(2) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 32
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 2 mewn grym ar 15.3.2022 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I4Ergl. 2 mewn grym ar 4.5.2022 yn union ar ôl 23.59, gweler ergl. 1(3)
3. Mae’r ardal a ddangosir â llinellau ar y map—
(a)wedi ei throsglwyddo o ward The Village o gymuned Caldicot i ward Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croes Cil-y-coed.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 3 mewn grym ar 15.3.2022 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I6Ergl. 3 mewn grym ar 4.5.2022 yn union ar ôl 23.59, gweler ergl. 1(3)
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Rhoddodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) adroddiad ym mis Ionawr 2019 ar adolygiad o drefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn argymell newidiadau i ffiniau presennol cymunedau yn ardal Cyngor Sir Fynwy a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gweithredu cynigion y Comisiwn i raddau helaeth yng Ngorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021 (“Gorchymyn 2021”).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros erthygl 42 o Orchymyn 2021 (i’r graddau y mae’r erthygl honno’n ymwneud â throsglwyddo ardal o ward Green Lane o gymuned Caldicot i ward The Village o gymuned Caldicot), er mwyn rhoi effaith lawn i gynigion y Comisiwn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r map y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir Fynwy. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Fynwy yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
1972 p. 70. Diddymwyd adrannau 54 a 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ond fe’u harbedwyd gan adran 74 o Ddeddf 2013 mewn perthynas ag adolygiad a oedd yn cael ei gynnal o dan Ddeddf 1972 pan ddaeth Deddf 2013 i rym.
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
O.S. 1976/246, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: