Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/12/2023.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
7 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
12 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 29(1) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar [F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)] (2).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 1 wedi eu hamnewid (1.12.2022) gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), erglau. 1(2), 7
Gwybodaeth Cychwyn
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
(2) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn y Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
3.—(1) Mae’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i—
(a)contract meddiannaeth diogel, wedi ei nodi yn Atodlen 1;
(b)contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 2;
(c)contract safonol cyfnod penodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 3.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)ystyr “contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol” yw contract meddiannaeth safonol cyfnodol—
(i)nad yw’n gontract safonol â chymorth;
(ii)nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol;
(iii)nad yw’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;
(iv)nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd yn bodoli ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf;
(v)nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd o fewn Atodlen 8A(3) (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 9(4) (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf;
(b)ystyr “contract safonol cyfnod penodol perthnasol” yw contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—
(i)nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord o dan adran 194(5) (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,
(ii)nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, a
(iii)nad yw o fewn Atodlen 9B(6) (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
Rheoliad 3
Diwygiadau Testunol
F2 Atod. 1 Rhn. 1: yn yr ail baragraff, mae'r geiriau “y mae’n hwyr” wedi eu hamnewid am “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu” (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(2)
Gwybodaeth Cychwyn
Rheoliad 3
Diwygiadau Testunol
F3 Atod. 2 Rhn. 1: yn yr ail baragraff, mae'r geiriau "y mae’n hwyr” wedi eu hamnewid am “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu” (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(3)(a)
F4Atod. 2 Rhn. 3: ar ddechrau paragraff (3)(a) mae'r geiriau “cyn i’r contract hwn ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad," wedi eu mewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(3)(b)(ii)(aa)
Gwybodaeth Cychwyn
Rheoliad 3
Diwygiadau Testunol
F5Atod. 3 Rhn. 1: yn yr ail baragraff, mae'r geiriau “y mae’n hwyr” wedi eu hamnewid am “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu” (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(i)
F6Atod. 3 Rhn. 1: ar ôl paragraff (c) mae paragraff newydd "Os ydych yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod penodol, rydych chi a’r landlord i’ch trin fel pe baech wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd." wedi ei fewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(ii)
F7Atod. 3 Rhn. 2: yn Rhan 2 (contract meddiannaeth safonol cyfnod penodol – materion allweddol), yn y paragraff cyntaf, mae'r geiriau “a nodir isod” wedi eu hamnewid i “o ____________________ (mewnosoder cyfnod y contract meddiannaeth mewn dyddiau/wythnosau/misoedd/blynyddoedd)”wedi eu hamnewid (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(b)
F8Atod. 3 Rhn. 3: yn Rhan 3 (contract safonol cyfnod penodol – telerau sylfaenol ac atodol), ar ddiwedd is-bennawd teler 39 (hysbysiadau adennill meddiant) mae “(F+)”.wedi ei fewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn sefydlu dau fath o gontract meddiannaeth, sef contract diogel a chontract safonol. Gall contract safonol fod naill ai’n gontract cyfnodol neu’n gontract cyfnod penodol.
Mae’r Ddeddf hefyd yn sefydlu nifer o wahanol fathau o gontractau safonol y gellir eu defnyddio mewn amgylchiadau penodol, gan gynnwys contractau safonol rhagarweiniol, contractau safonol ymddygiad gwaharddedig a chontractau safonol â chymorth.
Mae adran 29(1) o’r Ddeddf (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ragnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contractau meddiannaeth o unrhyw fath neu ddisgrifiad sy’n briodol yn eu barn hwy.
Mae datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract yn ddatganiad ysgrifenedig sy’n ymgorffori’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract hwnnw, heb eu haddasu (gweler adran 29(2) o’r Ddeddf).
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn, a’r Atodlenni iddynt, yn rhagnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contractau diogel, contractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol.
Mae rheoliad 3(1)(a) ac Atodlen 1 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau meddiannaeth diogel.
Mae rheoliad 3(1)(b) ac Atodlen 2 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau meddiannaeth safonol cyfnodol nad ydynt—
(a)yn gontractau safonol â chymorth,
(b)yn gontractau safonol rhagarweiniol,
(c)yn gontractau safonol ymddygiad gwaharddedig,
(d)yn gontractau safonol cyfnodol sydd wedi codi ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf, nac
(e)yn gontractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 o’r Ddeddf (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf.
Mae rheoliad 3(1)(c) ac Atodlen 3 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd (gweler adran 90 (contractau safonol cyfnod penodol: canfod hyd y cyfnod) o’r Ddeddf)—
(a)nad ydynt yn ymgorffori cymal terfynu’r landlord o dan adran 194 (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,
(b)nad ydynt yn ymgorffori cymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, ac
(c)nad ydynt o fewn Atodlen 9B (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.
Mae’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o gontract i ddeiliad y contract (gweler adran 31(1) (datganiad ysgrifenedig) o’r Ddeddf) ond nid yw’n ofynnol iddo ddefnyddio datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract. Fodd bynnag, rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o gontract a ddefnyddir gydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf (gweler adrannau 31 i 33).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2016 dccc 1. Gweler adran 252 am y diffiniad o “rhagnodedig”.
Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Mewnosodwyd Atodlen 8A i’r Ddeddf gan adran 3 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3), ac Atodlen 1 iddi.
Diwygiwyd Atodlen 9 i’r Ddeddf gan adrannau 14 a 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, a pharagraffau 1 a 9 o Atodlen 5 iddi, a pharagraffau 1 a 26 o Atodlen 6 iddi.
Diwygiwyd adran 194 gan adran 11(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
Mewnosodwyd Atodlen 9B gan adran 10 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 ac Atodlen 3 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: