- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
25 Ebrill 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
27 Ebrill 2022
Yn dod i rym
25 Mai 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(3):
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Mai 2022.
(3) Mae rheoliad 3 yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 9BA(1)(a) o’r Atodlen, yn lle “blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “blwyddyn academaidd ar y cwrs”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 13F(2) o Atodlen 4, yn lle “myfyriwr cymwys” rhodder “myfyriwr ôl-raddedig cymwys”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”), a
(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau yn Rheoliadau 2015 a Rheoliadau 2018.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1998 p. 30; Gweler adran 43(1) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y mae’n ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8). Darparodd adran 44 o’r Ddeddf honno hefyd fod y swyddogaeth yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i fod i gael ei harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y mae’n ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” ac “a ragnodir” a “rheoliadau”.
O.S. 2015/1484 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/1365 (Cy. 360); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2022/79 (Cy. 28); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: