- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
25 Ebrill 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
27 Ebrill 2022
Yn dod i rym
20 Mai 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(4) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Mai 2022.
2. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3. Yn rheoliad 10(1) (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol)—
(a)yn lle “2019-2020 neu 2020-2021” rhodder “2019-2020, 2020-2021 neu 2021-2022”;
(b)yn lle “26 Mai 2022” rhodder “31 Hydref 2022”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”). Maent yn diwygio gofyniad penodol a osodir ar ddarparwyr gofal cymdeithasol cofrestredig ac maent wedi eu gwneud mewn ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir gan y Ddeddf. Maent yn cynnwys gofyniad yn adran 10 i gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1097 (Cy. 277)) (“y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol”) yn darparu manylion pellach am y datganiadau blynyddol. Maent yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 10(4) ynghylch y dyddiadau erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno’r datganiadau.
Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol. Mae’r rheoliad hwnnw yn ymwneud â’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno datganiadau blynyddol sy’n ymwneud â’r blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 a 2020-21. Yn flaenorol, roedd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno datganiadau blynyddol ar gyfer y cyfnodau hyn heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2022. O dan reoliad 10(2) roedd yn ofynnol cyflwyno datganiadau ariannol ar gyfer 2021-2022 heb fod yn hwyrach na 56 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno (31 Mai 2022). Effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 3 yw bod rhaid i ddarparwyr pob math o wasanaethau rheoleiddiedig gyflwyno datganiadau blynyddol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20, 2020-21 a 2021-22 heb fod yn hwyrach na 31 Hydref 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2016 dccc 2; gweler y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189.
O.S. 2017/1097 (Cy. 227), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/233 (Cy. 52), 2020/486 (Cy. 111) ac O.S. 2021/395 (Cy. 126).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: