- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
19 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);
ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(3), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
2. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).LL+C
(2) Yn is-baragraff (e)—
(a)ar ôl paragraff (ii) hepgorer “neu”;
(b)ar ddiwedd paragraff (iii) yn lle “;” rhodder “,”;
(c)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—
“neu
(iv)caniatâd a roddwyd o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan(4);”.
(3) Ar ôl is-baragraff (k) hepgorer “neu”.
(4) Ar ddiwedd is-baragraff (l) yn lle “.” rhodder “;”.
(5) Ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—
“(m)yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â’r rheolau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (e), pan fo caniatâd o’r fath yn cael ei roi yn rhinwedd—
(i)y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid(5), neu
(ii)y cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia)(6); neu
(n)yn berson ym Mhrydain Fawr nad yw’n dod o fewn is-baragraff (e)(iv) neu (m) a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.”
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
4. Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr), ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—LL+C
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;
(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;
(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;
(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
5. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—LL+C
(a)yn lle’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol) rhodder—
“Colofn (1) | Colofn (2) |
---|---|
Person, cwpl neu briodas amlbriod | Swm |
(1) Ceisydd sengl neu unig riant sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn | £197.10 |
(2) Cwpl pan fo un aelod neu’r ddau wedi cyrraedd oedran pensiwn | £294.90 |
(3) Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod a bod un neu ragor o aelodau’r briodas wedi cyrraedd oedran pensiwn— (a)ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas; (b)ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd. | £294.90 £97.80”; |
(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£26.67” rhodder “£27.44”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
6. Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ar ôl paragraff 28C mewnosoder—LL+C
“28D. Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal(7).
28E. Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021(8).”
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
7. Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;
(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;
(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;
(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
8. Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£79.60”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£82.10” ac yn lle “£63.05” rhodder “£65.00”;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£79.60” rhodder “£82.10”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£125.05” rhodder “£128.95”;
(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£35.10” a “£50.05” rhodder “£36.20” a “£51.60” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”;
(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” rhodder “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” yn y drefn honno;
(e)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i)ym mharagraff 23, yn lle “£29.70” rhodder “£30.60”;
(ii)ym mharagraff 24, yn lle “£39.40” rhodder “£40.60”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
9. Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl paragraff 65 mewnosoder—LL+C
“66. Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal.
67. Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.”
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
10. Yn Atodlen 13 (pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod - materion eraill), ym mharagraff 5—LL+C
(a)ar ddiwedd is-baragraff (7)(c) yn lle “.” rhodder “;”;
(b)ar ôl is-baragraff (7)(c) mewnosoder—
“(d)taliad a ddiystyrir o dan baragraff 28D neu 28E o Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr) neu baragraff 66 neu 67 o Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).”
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
11. Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(9) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 18.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Mae paragraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).LL+C
(2) Ym mharagraff (e)—
(a)ar ôl is-baragraff (ii) hepgorer “neu”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (iii) yn lle “;” rhodder “,”;
(c)ar ôl is-baragraff (iii) mewnosoder—
“neu
(iv)caniatâd a roddwyd o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan(10);”.
(3) Ar ôl paragraff (k) hepgorer “neu”.
(4) Ar ddiwedd paragraff (l) yn lle “.” rhodder “;”.
(5) Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—
“(m)yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â’r rheolau y cyfeirir atynt ym mharagraff (e), pan fo’r caniatâd hwnnw wedi ei roi yn rhinwedd—
(i)y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid(11), neu
(ii)y cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia)(12); neu
(n)yn berson ym Mhrydain Fawr nad yw’n dod o fewn paragraff (e)(iv) neu (m) a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.”
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
13. Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;
(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;
(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;
(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
14. Ym mharagraff 111 (tystiolaeth a gwybodaeth)—LL+C
(a)ar ddiwedd is-baragraff (7)(c) yn lle “.” rhodder “;”;
(b)ar ôl is-baragraff (7)(c) mewnosoder—
“(d)taliad a ddiystyrir o dan baragraff 28D neu 28E o Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr) neu baragraff 66 neu 67 o Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).”
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
15. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—LL+C
(a)ym mharagraff 1 (lwfans personol), yn lle’r Tabl rhodder—
“Colofn (1) | Colofn (2) |
---|---|
Person, cwpl neu briodas amlbriod | Swm |
(1) Ceisydd sengl neu unig riant sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn | £197.10 |
(2) Cwpl pan fo un aelod neu’r ddau wedi cyrraedd oedran pensiwn | £294.90 |
(3) Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod a bod un neu ragor o aelodau’r briodas wedi cyrraedd oedran pensiwn— (a)ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas; (b)ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd. | £294.90 £97.90”; |
(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£26.67” rhodder “£27.44”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
16. Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£79.60”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£82.10” ac yn lle “£63.05” rhodder “£65.00”;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£79.60” rhodder “£82.10”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£125.05” rhodder “£128.95”;
(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£35.10” a “£50.05” rhodder “£36.20” a “£51.60” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”;
(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” rhodder “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” yn y drefn honno;
(e)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i)ym mharagraff 23, yn lle “£29.70” rhodder “£30.60”;
(ii)ym mharagraff 24, yn lle “£39.40” rhodder “£40.60”.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
17. Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ar ôl paragraff 28C mewnosoder—LL+C
“28D. Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal(13).
28E. Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021(14).”
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
18. Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl paragraff 65 mewnosoder—LL+C
“66. Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal.
67. Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.”
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Ionawr 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.
Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.
Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae rheoliad 3 yn mewnosod categorïau newydd yn y rhestr o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr at ddiben y meini prawf preswylio a nodir yn rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Y categorïau newydd yw personau y rhoddir caniatâd iddynt o dan reolau mewnfudo yn rhinwedd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (a elwir hefyd y cynllun ex-gratia), personau y rhoddir caniatâd iddynt o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, a phersonau nad ydynt yn dod o fewn y cynlluniau hynny, ond a gyrhaeddodd Brydain Fawr o Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021. Gwneir yr un diwygiadau i Reoliadau’r Cynllun Diofyn gan reoliad 12.
Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4, 5(b) i (d), 7 ac 8 yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson hawlogaeth i gael gostyngiad a’i peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawlogaeth gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawlogaeth gan y ceisydd i’w gael). Mae ffigurau eraill wedi eu huwchraddio hefyd i adlewyrchu newidiadau dros amser i hawlogaethau amrywiol. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 13, 15(b) i (d) ac 16.
Mae’r diwygiad a wneir gan reoliad 5(a) yn amnewid y tabl presennol ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig er mwyn dileu cyfeiriadau diangen at bersonau o dan 65 oed. Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 15(a). Effaith y diwygiadau hyn yw estyn y gyfradd uchaf o lwfans personol i bensiynwyr.
Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 6, 9 a 10 yn darparu ar gyfer sut y mae taliadau digollediad a wneir gan Weinidogion yr Alban mewn perthynas ag achosion hanesyddol o gam-drin plant i’w cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu cymhwystra am ostyngiad a swm unrhyw ostyngiad. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 14, 17 a 18.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno ac Atodlen 4 iddi. Gweler adran 116 am y diffiniad o “prescribed”.
Mae’r cyfeiriad yn adran 13A(8) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fel y’i diwygiwyd gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) ac Atodlen 1 iddi.
O.S. 2013/3029 (Cy. 301), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20), O.S. 2018/14 (Cy. 7), O.S. 2019/11 (Cy. 5), O.S. 2020/16 (Cy. 2) ac O.S. 2021/34 (Cy. 9).
Cyhoeddwyd Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 18 Awst 2021 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/guidance/afghan-citizens-resettlement-scheme.
Cyhoeddwyd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 29 Rhagfyr 2020 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/government/publications/afghan-relocations-and-assistance-policy/afghan-relocations-and-assistance-policy-information-and-guidance.
Gweler Rhan 7 o’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77); y rheolau perthnasol yw rheolau 276BA1 – 276BS2.
Cyhoeddwyd y Cynllun Talu Ymlaen Llaw gan Lywodraeth yr Alban ar 25 Ebrill 2019 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.scot/publications/financial-redress-for-survivors-of-child-abuse-in-care-advance-payment-scheme/.
O.S. 2013/3035 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20), O.S. 2018/14 (Cy. 7), O.S. 2019/11 (Cy. 5), O.S. 2020/16 (Cy. 2) ac O.S. 2021/34 (Cy. 9).
Cyhoeddwyd Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 18 Awst 2021 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/guidance/afghan-citizens-resettlement-scheme.
Cyhoeddwyd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 29 Rhagfyr 2020 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/government/publications/afghan-relocations-and-assistance-policy/afghan-relocations-and-assistance-policy-information-and-guidance.
Gweler Rhan 7 o’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77); y rheolau perthnasol yw rheolau 276BA1 – 276BS2.
Cyhoeddwyd y Cynllun Talu Ymlaen Llaw gan Lywodraeth yr Alban ar 25 Ebrill 2019 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.scot/publications/financial-redress-for-survivors-of-child-abuse-in-care-advance-payment-scheme/.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: