- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
18 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
20 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u cymeradwyir drwy benderfyniad gan Senedd Cymru (ar yr amod y cymeradwyir y Rheoliadau hyn cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022, neu cyn 1 Mawrth 2022, pa un bynnag sydd gynharaf).
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1988” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
2. Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022—
(a)nid yw paragraff 5(5A)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn gymwys;
(b)at ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, pennir mai B yw 109.1.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Ionawr 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) ar gyfer pob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio. Nid oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 (“y flwyddyn o dan sylw”).
Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn cynnwys eitemau B ac C. Eitem B yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw, ac eitem C yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol sy’n dod cyn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw. Mae paragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddiwygio, diddymu neu ddatgymhwyso is-baragraffau penodol yn Atodlen 7 i Ddeddf 1988, er mwyn rhoi cyfeiriadau at fynegai arall yn lle cyfeiriadau at y mynegai prisiau defnyddwyr, neu i bennu neu ddisgrifio ffigur ar gyfer eitemau B ac C.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022, ac yn datgymhwyso paragraff 5(5A)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988. Mae’r Rheoliadau hefyd yn pennu mai’r ffigur ar gyfer eitem B yw 109.1, sef y mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol sy’n dod cyn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw. Effaith hyn yw bod y lluosydd ardrethu annomestig yn parhau i fod yr un ffigur â’r ffigur hwnnw a gyfrifwyd ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac 1 Ebrill 2021.
Yn unol â pharagraff 5(13C) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, ni fydd y Rheoliadau hyn ond yn dod i rym os ydynt yn cael eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022, neu cyn 1 Mawrth 2022 (pa un bynnag sydd gynharaf).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p. 41. Mewnosodwyd paragraffau 5(13A) i 5(13C) o Atodlen 7 gan adran 154(2)(f) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“Deddf 2021”). Mae’r paragraffau hynny yn gymwys i baragraffau 5(5A), 5(5B), 5(9A) a 5(9B) o Atodlen 7, a fewnosodwyd gan adran 154(2)(d) ac (e) o Ddeddf 2021.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: