Search Legislation

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 679 (Cy. 155)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022

Gwnaed

15 Mehefin 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

17 Mehefin 2022

Coming into force in accordance with regulation 1(2) and (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 74(1) a 75(1)(b) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022.

(2Daw Rhan 1 i rym ar 1 Medi 2022.

(3Daw Rhan 2 i rym fel y’i nodir yn y rheoliadau unigol.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant neu ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—

(a)

mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu

(b)

gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;

mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996(3);

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant neu ddisgyblion mewn lleoliad y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn academaidd benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

ystyr “lleoliad” (“setting”) yw—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

ysgol feithrin a gynhelir,

(c)

darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, a

(d)

uned cyfeirio disgyblion;

mae i “pennaeth” yr ystyr a roddir i “head teacher” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;

mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.

RHAN 2Diwygiadau Canlyniadol

Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2005

3.  Caiff Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2005(4) eu dirymu ar 1 Medi 2022.

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006

4.  Caiff Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006(5) eu dirymu ar 1 Medi 2022.

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008

5.—(1Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008(6) (“Gorchymyn 2008”) yn gymwys fel a ganlyn.

(2Ar 1 Medi 2022, nid yw Gorchymyn 2008 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.

(3O 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2008 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.

(4Caiff Gorchymyn 2008 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008

6.—(1Mae Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008(7) (“Gorchymyn 2008”) yn gymwys fel a ganlyn.

(2O 1 Medi 2022, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 mewn ysgol a gynhelir.

(3Ar 1 Medi 2022, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadau cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.

(4O 1 Medi 2023, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.

(5O 1 Medi 2024, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir.

(6O 1 Medi 2025, nid yw erthyglau 6, 10, 13, 14 a 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir.

(7Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2026—

(a)Gorchymyn 2008; a

(b)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015(8).

Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008

7.  Caiff Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008(9) eu dirymu ar 1 Medi 2022.

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009

8.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009(10) (“Rheoliadau 2009”) yn gymwys fel a ganlyn.

(2O 1 Medi 2024, nid yw Rheoliadau 2009 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir.

(3Caiff y Rheoliadau a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2026—

(a)Rheoliadau 2009,

(b)rheoliad 8 o Reoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010(11),

(c)Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014(12), a

(d)rheoliad 10 o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016(13).

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

9.—(1Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar 1 Medi 2022—

(a)mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(i)hepgorer y diffiniadau o “asesiadau statudol”, “cyfnod allweddol” a “cyfnod sylfaen”,

(ii)yn y diffiniad o “categori iaith”, yn lle’r geiriau “Diffinio ysgolion” hyd at “Cylchlythyr 023/2007” rhodder “Canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg” a gyhoeddwyd gyntaf gan Weinidogion Cymru ar 16 Rhagfyr 2021(15)”, a

(iii)yn y lleoedd priodol mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y grŵp blwyddyn yn cyrraedd 16 oed ynddi;;

ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y grŵp blwyddyn yn cyrraedd 4 oed ynddi; a

(b)mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(i)ym mharagraff 11, hepgorer “gan gynnwys y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd yn ystod y cyfnod hwnnw”, a

(ii)ym mharagraff 17, yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)defnydd o’r Gymraeg fel iaith yr addysgu i ddisgyblion ym mhob blwyddyn o’r flwyddyn meithrin hyd at flwyddyn 11 a’r graddau y mae addysgu arall ar gael yn Saesneg;.

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

10.—(1Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar 1 Medi 2022—

(a)mae rheoliad 3 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(i)yn y lleoedd priodol mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;,

ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 4 oed ynddi;,

ystyr “Cwricwlwm i Gymru” (“Curriculum for Wales”) yw’r cwricwlwm a fabwysiedir neu a ddarperir o dan Ran 2 neu 3 o Ddeddf 2021;,

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(17);, a

(b)yn lle paragraff 1(c)(i) o Atodlen 2 rhodder—

(i)yn gyfan gwbl neu’n bennaf mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru—

(aa)y mae, neu yr oedd, Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yn cael ei addysgu ynddi neu ynddo mewn perthynas â’r cyfnod sylfaen, neu’r ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol neu’r pedwerydd cyfnod allweddol, fel y bo’n briodol i’r ysgol neu’r sefydliad,

(bb)pan fo’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei addysgu mewn perthynas â’r flwyddyn meithrin hyd at flwyddyn 11, neu

(cc)pan fo’r cyfnod o hyfforddiant yr ymgymerwyd ag ef gan y person wedi cynnwys addysgu o dan Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac o dan y Cwricwlwm i Gymru);.

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013

11.—(1Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio at gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013(18) (“Gorchymyn 2013”) yn gymwys fel a ganlyn.

(2O 1 Medi 2022, nid yw Gorchymyn 2013 yn gymwys—

(a)i blant a disgyblion—

(i)sy’n cael addysg feithrin mewn ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol a gynhelir, neu

(ii)sy’n cael addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

(b)i ddisgyblion yn eu blwyddyn derbyn, ac

(c)i ddisgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6.

(3Ar 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2013 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.

(4O 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2013 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.

(5Caiff Gorchymyn 2013 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.

Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy’n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013

12.—(1Mae Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy’n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Caiff rheoliad 2 ei ddirymu ar 1 Medi 2022.

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014

13.  Caiff Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014(20) ei ddirymu ar 1 Medi 2022.

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

14.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar 1 Medi 2022—

(a)yn rheoliad 2(1)—

(i)yn lle’r diffiniad o “blaenoriaethau cenedlaethol” rhodder y canlynol—

ystyr “blaenoriaethau cenedlaethol” (“national priorities”) yw—

(a)

gwella cynnydd disgyblion drwy sicrhau bod eu dysgu wedi ei gefnogi gan ystod o wybodaeth, sgiliau a phrofiad;

(b)

lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion;,

(ii)hepgorer y diffiniad o “canlyniadau cyrhaeddiad”, a

(iii)hepgorer y diffiniad o “gwybodaeth ysgol gymharol”; a

(b)hepgorer rheoliad 8.

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018

15.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018(22) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar 1 Medi 2022, hepgorer rheoliad 10(a).

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

15 Mehefin 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru (“y Cwricwlwm i Gymru”). Mae adran 74(1) o Ddeddf 2021 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Ddeddf honno er mwyn rhoi effaith lawn iddi. Mae adran 75(1)(b) o Ddeddf 2021 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

Daw’r Cwricwlwm i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—

(a)ar 1 Medi 2022 ar gyfer—

(i)disgyblion a phlant y darperir addysg feithrin ar eu cyfer,

(ii)disgyblion yn eu blwyddyn derbyn,

(iii)disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 y darperir cwricwlwm perthnasol iddynt yn unol â Deddf 2021, a

(iv)disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021,

(b)ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8,

(c)ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8,

(d)ar 1 Medi 2024 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9,

(e)ar 1 Medi 2025 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(f)ar 1 Medi 2026 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11.

Fel rhan o’r diwygiadau canlyniadol a wneir gan y Rheoliadau hyn, mae nifer o offerynnau statudol wedi eu dirymu gan nad oes eu hangen mwyach oherwydd y trefniadau newydd a wneir o dan Ddeddf 2021. Mae rhai wedi eu datgymhwyso’n raddol yn unol â chyflwyno trefniadau’r cwricwlwm newydd cyn cael eu dirymu, tra bod eraill wedi eu dirymu. Mae’r rhestr o offerynnau statudol sydd wedi eu dirymu gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys—

(a)Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2005,

(b)Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006,

(c)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008,

(d)Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008,

(e)Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009,

(f)Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013,

(g)Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014,

(h)Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014,

(i)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015, a

(j)Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(3)

Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 71(1) o Ddeddf Addysg 1997 a pharagraff 9 o Atodlen 6 iddi a diwygiwyd is-adran (1) ac (1A) ymhellach gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 21 iddi.

(7)

O.S. 2008/1409 (Cy. 146). Mae diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

O.S. 2011/1939 (Cy. 207) a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(15)

Rhif ISBN: 978-1-80391-326-1.

(16)

O.S. 2012/724 (Cy. 96). Mae diwygiadau i baragraff 1 o Atodlen 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(22)

O.S. 2018/766 (Cy. 153). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources