Search Legislation

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf(1) i rym.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 246(2));

mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 1(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(3);

mae i “categori o anheddau” yr ystyr a roddir i “category of dwellings” gan adran 30(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(4);

mae i “contract wedi ei drosi perthnasol” (“relevant converted contract”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 15(3)(5) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);

ystyr “deiliad contract perthnasol” (“relevant contract-holder”) yw deiliad contract (y mae iddo’r ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 7(5)) o dan gontract wedi ei drosi perthnasol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

ystyr “gwelliant perthnasol” (“relevant improvement”) yw gwelliant—

(a)

a wnaed mewn perthynas â’r contract wedi ei drosi perthnasol ar unrhyw adeg ar ôl i ddeiliad y contract ddod i fod â hawl i feddiannu’r annedd y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 yn gymwys iddi, neu

(b)

sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—

(i)

cafodd y gwelliant ei wneud heb fod yn fwy nag un ar hugain o flynyddoedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,

(ii)

ar bob adeg yn ystod y cyfnod gan ddechrau pan gafodd y gwelliant ei wneud a chan ddod i ben ar ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, mae’r annedd wedi ei gosod o dan gontract wedi ei drosi perthnasol neu denantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol, a

(iii)

pan ddaeth contract wedi ei drosi perthnasol neu denantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol i ben yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ymadawodd y tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r deiliad contract perthnasol (neu, yn achos cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion perthnasol neu gyd-ddeiliaid contract perthnasol, o leiaf un ohonynt);

mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 244(2));

ystyr “pwyllgor asesu rhenti” (“rent assessment committee”) yw pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977(6);

nid yw “rhent” (“rent”) yn cynnwys—

(a)

unrhyw dâl gwasanaeth o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(7), na

(b)

unrhyw daliadau a waherddir o dan adran 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019(8),

ond, yn ddarostyngedig i hynny, mae’n cynnwys unrhyw symiau sy’n daladwy gan y deiliad contract perthnasol i’r landlord am ddefnyddio dodrefn, mewn cysylltiad â’r dreth gyngor neu ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn adran 18(1)(a) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(9), pa un a yw’r symiau hynny ar wahân i’r symiau sy’n daladwy am feddiannu’r annedd o dan sylw neu’n daladwy o dan gytundebau ar wahân ai peidio;

ystyr “tenantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol” (“relevant preceding tenancy or licence”) yw tenantiaeth neu drwydded a fodolai cyn y diwrnod penodedig ac a ddaeth yn gontract wedi ei drosi perthnasol ar neu ar ôl y diwrnod penodedig; ac

ystyr “tenant neu drwyddedai perthnasol” (“relevant tenant or licensee”) yw tenant neu drwyddedai o dan denantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol.

Cais i bwyllgor asesu rhenti

3.—(1Ar ôl cael hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, caiff deiliad contract perthnasol wneud cais i bwyllgor asesu rhenti bennu’r rhent ar gyfer yr annedd.

(2Rhaid i’r cais i bwyllgor asesu rhenti gael ei wneud—

(a)ar y ffurf ragnodedig, a

(b)o fewn 2 fis ar ôl cael yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf.

(3Mae’r ffurf ragnodedig fel y’i nodir yn yr Atodlen.

(4Mae cais sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg i’r ffurf ragnodedig yn ddilys.

Penderfyniad ar rent gan bwyllgor asesu rhenti

4.  Rhaid i bwyllgor asesu rhenti benderfynu ar bob cais a wneir o dan reoliad 3 yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6.

Amrywio rhent yn sgil penderfyniad gan bwyllgor asesu rhenti

5.  Rhent a bennir gan bwyllgor asesu rhenti, yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6, fydd y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract wedi ei drosi perthnasol gydag effaith o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, oni bai bod y landlord a’r deiliad contract perthnasol yn cytuno fel arall.

Rhagdybiaethau y mae rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu rhent yn unol â hwy

6.  Wrth bennu rhent ar gyfer annedd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu’r rhent y mae’n ystyried y gallai fod disgwyl i’r annedd dan sylw gael ei osod amdano ar y farchnad agored gan landlord parod o dan yr un math o gontract wedi ei drosi perthnasol ag y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn ymwneud â hi, gan ragdybio—

(a)bod y contract wedi ei drosi perthnasol yn dechrau ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,

(b)nad yw rhoi contract i ddeiliad contract cyfredol yn cael dim effaith ar y rhent,

(c)nad yw unrhyw gynnydd yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i welliant perthnasol a wnaed gan berson a oedd y tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r deiliad contract perthnasol ar yr adeg y’i gwnaed yn cael dim effaith ar y rhent, os gwnaed y gwelliant—

(i)ac eithrio yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol, neu

(ii)yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol nad yw’n rhwymedigaeth a oedd yn ymwneud â’r gwelliant penodol o dan sylw ond a gododd drwy gyfeirio at gydsyniad a roddwyd i wneud y gwelliant hwnnw,

(d)nad yw unrhyw ostyngiad yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i fethiant gan y tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r deiliad contract perthnasol i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o delerau’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol berthnasol neu’r contract wedi ei drosi perthnasol yn cael dim effaith ar y rhent,

(e)pan fo’r landlord neu uwchlandlord yn atebol i dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad â hereditament y mae’r annedd yn rhan ohono, o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fod swm y dreth gyngor a bennwyd gan yr awdurdod bilio, fel ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123—

(i)ar gyfer y flwyddyn ariannol y cyflwynwyd yr hysbysiad ynddi, a

(ii)ar gyfer y categori o anheddau yr oedd yr hereditament perthnasol yn perthyn iddo ar y dyddiad hwnnw,

yn cael effaith ar y rhent, ond nad yw unrhyw ddisgownt neu ostyngiad arall sy’n effeithio ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy yn cael dim effaith ar y rhent, ac

(f)nad yw’r landlord nac uwchlandlord yn talu ardrethi mewn cysylltiad â’r annedd.

Hysbysiad landlord a deiliad contract perthnasol i bwyllgor asesu rhenti

7.  Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r pwyllgor asesu rhenti barhau i bennu rhent ar gyfer annedd o dan y contract wedi ei drosi perthnasol os yw’r landlord a’r deiliad contract perthnasol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig nad oes angen penderfyniad o’r fath arnynt mwyach neu os yw’r contract wedi ei drosi perthnasol wedi dod i ben.

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971

8.—(1Mae Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)(11)

(a)yn y diffiniad o “reference”, ar ôl “Local Government and Housing Act 1989”, yn lle’r atalnod llawn rhodder “, or which is made under regulation 3 of the Renting Homes (Rent Determination) (Converted Contracts) (Wales) Regulations 2022(12).”;

(b)yn y mannau priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

dwelling” has the meaning given by section 246 of the Renting Homes (Wales) Act 2016(13);;

relevant contract-holder” means a contract-holder (which has the meaning given by section 7(5) of the Renting Homes (Wales) Act 2016) under a relevant converted contract;;

relevant converted contract” has the meaning given by paragraph 15(3)(14) of Schedule 12 to the Renting Homes (Wales) Act 2016;;

relevant preceding tenancy or licence” means a tenancy or licence which existed before the appointed day and which on or after the appointed day became a relevant converted contract;;

relevant tenant or licensee” means a tenant or licensee under a relevant preceding tenancy or licence;.

(3Yn rheoliad 2A (atgyfeiriadau Deddfau 1988 a 1989)(15)

(a)yn lle’r pennawd, rhodder “References”;

(b)ym mharagraff (1), ar ôl “Housing Act 1988;”, hepgorer “or”;

(c)ym mharagraff (1), ar ôl “Local Government and Housing Act 1989”, yn yr ail le y mae’n digwydd, yn lle’r atalnod llawn rhodder—

; or

  • regulation 3 of the Renting Homes (Rent Determination) (Converted Contracts) (Wales) Regulations 2022(16)..

(4Yn rheoliad 3(3)(c)(17), ar ôl “tenant”, mewnosoder “, relevant tenant or licensee, or relevant contract-holder”.

(5Yn rheoliad 5(1)(b)(18)

(a)yn lle “assured tenancies or agricultural occupancies”, rhodder “assured tenancies, agricultural occupancies, relevant converted contracts, or relevant preceding tenancy or licence”, a

(b)ar ôl “dwelling-houses”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “or dwellings”.

(6Yn rheoliad 7—

(a)yn y pennawd, ar ôl “dwelling-house”, mewnosoder “or dwelling”, a

(b)ym mharagraff (1), ar ôl “dwelling-house”, mewnosoder “or dwelling”.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

15 Gorffennaf 2022

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources