Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 79 (Cy. 28)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Gwnaed

26 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

28 Ionawr 2022

Yn dod i rym

23 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983(1) ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a), (b) ac (c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4):

RHAN 1Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2022.

Cymhwyso

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

PENNOD 1Cyflwyniad

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Dinasyddion Affganistan

Diwygiad i’r Atodlen

4.  Yn yr Atodlen ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—

(a)hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (c);

(b)ar ôl paragraff (ch) mewnosoder—

(d)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;

(dd)caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;

(e)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu

(f)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (e) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;.

PENNOD 3Tiriogaethau Dibynnol y Goron

Diwygiad i reoliad 2 (dehongli)

5.  Hepgorer rheoliad 2(8).

RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

PENNOD 1Cyflwyniad

6.  Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(6) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan

Diwygiad i reoliad 3 (dehongli)

7.  Yn rheoliad 3, yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person—

(a)

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;

(b)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;

(c)

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu

(d)

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (c) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;.

Diwygiad i reoliad 6 (myfyrwyr cymwys)

8.  Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—

(10F) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a

(b)y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth,

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

Diwygiad i Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys)

9.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZA(4)(b)—

(a)yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder “neu”;

(b)ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—

(v)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;.

RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

PENNOD 1Cyflwyniad

10.  Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(7) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Dinasyddion Affganistan

Diwygiad i’r Atodlen

11.  Ym mharagraff 1 o’r Atodlen, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—

(a)hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (c);

(b)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;

(f)caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;

(g)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu

(h)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (g) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;.

PENNOD 3Tiriogaethau Dibynnol y Goron

Diwygiad i’r Atodlen

12.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(6)—

(a)yn lle “Yr Alban,” rhodder “Yr Alban neu”;

(b)hepgorer “neu yn yr Ynysoedd”.

RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

PENNOD 1Cyflwyniad

13.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(8) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol

Diwygiadau i reoliad 16 (grant newydd at ffioedd)

14.  Yn rheoliad 16—

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,395” rhodder “£4,295”;

(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£4,605” rhodder “£4,705”;

(c)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,270” rhodder “£2,220”;

(d)ym mharagraff (4)(b), yn lle “£2,230” rhodder “£2,280”.

Diwygiadau i reoliad 19 (benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)

15.  Yn rheoliad 19—

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,605” rhodder “£4,705”;

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,230” rhodder “£2,280”.

Diwygiad i reoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl)

16.  Yn rheoliad 24(3), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.

Diwygiad i reoliad 26 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant ar gyfer dibynyddion mewn oed)

17.  Yn rheoliad 26(3), yn lle “£3,190”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£3,262”.

Diwygiadau i reoliad 27 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant)

18.  Yn rheoliad 27—

(a)ym mharagraff (7)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£179.62” rhodder “£184”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£307.95” rhodder “£315”;

(b)ym mharagraff (9)(a), yn lle “£138.81” rhodder “£141”.

Diwygiad i reoliad 28 (grantiau ar gyfer dibynyddion – lwfans dysgu ar gyfer rhieni)

19.  Yn rheoliad 28(2), yn lle “£1,821” rhodder “£1,862”.

Diwygiadau i reoliad 43 (uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio)

20.  Yn rheoliad 43—

(a)ym mharagraff (2)(i), yn lle “£6,027” rhodder “£6,163”;

(b)ym mharagraff (2)(ii), yn lle “£10,907” rhodder “£11,152”;

(c)ym mharagraff (2)(iii), yn lle “£9,283” rhodder “£9,492”;

(d)ym mharagraff (2)(iv), yn lle “£9,283” rhodder “£9,492”;

(e)ym mharagraff (2)(v), yn lle “£7,786” rhodder “£7,961”;

(f)ym mharagraff (3)(i), yn lle “£5,457” rhodder “£5,580”;

(g)ym mharagraff (3)(ii), yn lle “£9,932” rhodder “£10,155”;

(h)ym mharagraff (3)(iii), yn lle “£8,074” rhodder “£8,256”;

(i)ym mharagraff (3)(iv), yn lle “£8,074” rhodder “£8,256”;

(j)ym mharagraff (3)(v), yn lle “£7,213” rhodder “£7,375”.

Diwygiadau i reoliad 45 (myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol)

21.  Yn rheoliad 45—

(a)ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “£2,862” rhodder “£2,926”;

(b)ym mharagraff (1)(a)(ii), yn lle “£5,363” rhodder “£5,484”;

(c)ym mharagraff (1)(a)(iii), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;

(d)ym mharagraff (1)(a)(iv), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;

(e)ym mharagraff (1)(a)(v), yn lle “£3,815” rhodder “£3,901”;

(f)ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “£2,862” rhodder “£2,926”;

(g)ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “£5,363” rhodder “£5,484”;

(h)ym mharagraff (1)(b)(iii), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;

(i)ym mharagraff (1)(b)(iv), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;

(j)ym mharagraff (1)(b)(v), yn lle “£3,815” rhodder “£3,901”;

(k)ym mharagraff (1)(c)(i), yn lle “£4,520” rhodder “£4,622”;

(l)ym mharagraff (1)(c)(ii), yn lle “£8,180” rhodder “£8,364”;

(m)ym mharagraff (1)(c)(iii), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;

(n)ym mharagraff (1)(c)(iv), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;

(o)ym mharagraff (1)(c)(v), yn lle “£5,840” rhodder “£5,971”;

(p)ym mharagraff (2)(a)(i), yn lle “£2,175” rhodder “£2,224”;

(q)ym mharagraff (2)(a)(ii), yn lle “£4,102” rhodder “£4,194”;

(r)ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;

(s)ym mharagraff (2)(a)(iv), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;

(t)ym mharagraff (2)(a)(v), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;

(u)ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “£2,175” rhodder “£2,224”;

(v)ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “£4,102” rhodder “£4,194”;

(w)ym mharagraff (2)(b)(iii), yn lle “£3,336” rhodder “£3,411”;

(x)ym mharagraff (2)(b)(iv), yn lle “£3,336” rhodder “£3,411”;

(y)ym mharagraff (2)(b)(v), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;

(z)ym mharagraff (2)(c)(i), yn lle “£4,093” rhodder “£4,185”;

(aa)ym mharagraff (2)(c)(ii), yn lle “£7,449” rhodder “£7,616”;

(bb)ym mharagraff (2)(c)(iii), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;

(cc)ym mharagraff (2)(c)(iv), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;

(dd)ym mharagraff (2)(c)(v), yn lle “£5,410” rhodder “£5,531”.

Diwygiadau i reoliad 50 (codiadau yn yr uchafswm)

22.  Yn rheoliad 50—

(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “£89” rhodder “£91”;

(b)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£172” rhodder “£176”;

(c)ym mharagraff (1)(c), yn lle “£188” rhodder “£192”;

(d)ym mharagraff (1)(d), yn lle “£188” rhodder “£192”;

(e)ym mharagraff (1)(e), yn lle “£135” rhodder “£138”.

Diwygiadau i reoliad 56 (cymhwyso’r cyfraniad)

23.  Yn rheoliad 56—

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,520” rhodder “£4,622”;

(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£8,180” rhodder “£8,364”;

(c)ym mharagraff (3)(c), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;

(d)ym mharagraff (3)(d), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;

(e)ym mharagraff (3)(e), yn lle “£5,840” rhodder “£5,971”;

(f)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£4,093” rhodder “£4,185”;

(g)ym mharagraff (4)(b), yn lle “£7,449” rhodder “£7,616”;

(h)ym mharagraff (4)(c), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;

(i)ym mharagraff (4)(d), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;

(j)ym mharagraff (4)(e), yn lle “£5,410” rhodder “£5,531”.

Diwygiad i reoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl

24.  Yn rheoliad 88(3)(a), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.

Diwygiadau i reoliad 91 (grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed)

25.  Yn rheoliad 91(3)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£3,190” rhodder “£3,262”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£3,190” rhodder “£3,262”.

Diwygiad i reoliad 92 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant)

26.  Yn rheoliad 92—

(a)ym mharagraff (6)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£179.62” rhodder “£184”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£307.95” rhodder “£315”;

(b)ym mharagraff (8)(a), yn lle “£138.31” rhodder “£141”.

Diwygiad i reoliad 93 (lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni)

27.  Yn rheoliad 93(2), yn lle “£1,821” rhodder “£1,862”.

Diwygiad i reoliad 117 (swm y grant)

28.  Yn rheoliad 117(2)(a), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.

PENNOD 3Diwygiad i’r diffiniad “blwyddyn Erasmus”

Diwygiad i reoliad 2 (dehongli)

29.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “blwyddyn Erasmus”, yn lle “a elwir ERASMUS neu yn y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing,” rhodder “a elwir ERASMUS, yn y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing neu yn y cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru a elwir y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu,”.

PENNOD 4Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Diwygiadau i reoliad 2 (dehongli)

30.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;

(b)yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchoddedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).

Diwygiadau i reoliadau 4, 81 a 110

31.  Ym mhob un o reoliadau 4(10E)(a), 81(10E)(a) a 110(12E)(a)—

(a)ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;

(b)ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.

Diwygiad i Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys)

32.  Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

33.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(9) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan

Mewnosod rheoliad newydd 23F (terfynu cymhwystra – dinesydd perthnasol o Affganistan)

34.  Yn rheoliad 12(1), yn lle “23D neu 23E” rhodder “23D, 23E neu 23F”.

35.  Ar ôl rheoliad 23E mewnosoder—

23F.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

Diwygiad i reoliad 80 (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)

36.  Yn rheoliad 80—

(a)ar ôl paragraff (2)(b)(ib) mewnosoder—

(ic)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;;

(b)ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”.

Diwygiad i reoliad 81 (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd)

37.  Yn rheoliad 81(3)(b), ar ôl paragraff (ib) mewnosoder—

(ic)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;.

Diwygiadau i Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys)

38.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2ZA—

(a)yn is-baragraff (4)(b)—

(i)yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder “neu”;

(ii)ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—

(v)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan,;

(b)ar ôl is-baragraff (4)(e) mewnosoder—

(ea)ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yw person—

(i)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo,

(ii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid,

(iii)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, neu

(iv)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (iii) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath,.

Diwygiadau i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl

39.  Yn Atodlen 4—

(a)ar ôl paragraff 13E mewnosoder—

13F.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.;

(b)ar ôl paragraff 14(3)(b)(ib) mewnosoder—

(ic)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;;

(c)ym mharagraff 14(4), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.

Diwygiad i Atodlen 5 (benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge)

40.  Yn Atodlen 5, paragraff 4—

(a)ar ôl is-baragraff (2)(ab) mewnosoder—

(ac)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;;

(b)yn is-baragraff (3), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.

Diwygiad i Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio)

41.  Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol mewnosoder—

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”Atodlen 2, paragraff 2ZA

PENNOD 3Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol

Diwygiadau i reoliad 55 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser)

42.  Yn rheoliad 55, mae Tabl 7 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Categori 1Byw gartref£8,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£12,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,710
Categori 2Byw gartref£4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,855

Diwygiadau i reoliad 56 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)

43.  Yn rheoliad 56—

(a)mae Tabl 8 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Byw gartref£9,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£13,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£10,710

(b)mae Tabl 8A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Byw gartref£4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,855

Diwygiadau i reoliad 57 (benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig)

44.  Yn rheoliad 57, mae Tabl 9 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Byw gartref£91
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£176
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£138

Diwygiadau i reoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser)

45.  Yn rheoliad 58, mae Tabl 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022£6,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Diwygiadau i reoliad 58A (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)

46.  Yn rheoliad 58A, mae Tabl 10A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022£7,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Diwygiad i reoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl)

47.  Yn rheoliad 63(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodded “£32,546”.

Diwygiad i reoliad 72 (uchafswm y grant oedolion dibynnol)

48.  Yn rheoliad 72, mae Tabl 11 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022£3,262

Diwygiadau i reoliad 74 (uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni)

49.  Yn rheoliad 74, mae Tabl 12 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022£1,862

Diwygiadau i reoliad 76 (uchafswm y grant gofal plant

50.  Yn rheoliad 76—

(a)mae Tabl 13 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Un plentyn dibynnol£184
Mwy nag un plentyn dibynnol£315

(b)ym mharagraff (4), yn lle “£138.31” rhodder “£141”.

Diwygiad i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)

51.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.

PENNOD 4Diwygiad i’r diffiniad o “blwyddyn Erasmus”

Diwygiad i Atodlen 1 (dehongli)

52.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4, yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw—

(a)cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol,

(b)y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing, neu

(c)y cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru a elwir y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu.

PENNOD 5Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Diwygiadau i reoliad 23E (personau y mae eu caniatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio wedi dod i ben)

53.  Yn rheoliad 23E(a)—

(a)yn is-baragraff (i), hepgorer “(iii),”;

(b)yn is-baragraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.

Diwygiadau i Atodlen 1 (dehongli)

54.  Yn Atodlen 1, paragraff 6—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;

(b)yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).

Diwygiad i Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys)

55.  Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 1(2)(a)(iii).

Diwygiad i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)

56.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13E(a)—

(a)ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;

(b)ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.

Diwygiad i Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio)

57.  Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, hepgorer y cofnod yn y tabl ar gyfer “cyfnod gras”.

PENNOD 6Grant Myfyriwr Ôl-raddedig Anabl – diwygiadau sy’n ymwneud â gwaith gofal cymdeithasol

58.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 5(1), yn Eithriad 2, ar ôl “Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016” mewnosoder “pan fo’r cwrs ôl-raddedig dynodedig yn dechrau cyn 1 Awst 2022”.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

26 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”) (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),

(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau),

(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau),

(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (gweler Rhan 5 o’r Rheoliadau), ac

(e)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) (gweler Rhan 6 o’r Rheoliadau).

Mae Pennod 2 o Rannau 2 a 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2007 a Rheoliadau 2015. Mae’r diwygiadau hynny yn darparu i ddinasyddion Affganistan y rhoddwyd caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan gael eu trin fel myfyrwyr cartref at ddiben ffioedd a godir gan sefydliadau addysg uwch ac at ddibenion perthynol. Bydd y personau hynny hefyd yn fyfyrwyr cymhwysol at ddiben darpariaethau capio ffioedd Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Mae Pennod 2 o Rannau 3 a 6 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2014 a Rheoliadau 2018. Mae’r diwygiadau yn darparu i ddinasyddion Affganistan y rhoddir caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl feini prawf eraill.

Mae Pennod 3 o Rannau 2 a 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2007 a Rheoliadau 2015. Mae’r diwygiadau hynny yn cynnwys preswylwyr Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn yr Atodlen i Reoliadau 2007 a Rheoliadau 2015. Bydd preswylwyr Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn cael eu trin fel myfyrwyr cartref at ddiben ffioedd a godir gan sefydliadau addysg uwch ac at ddibenion perthynol ac fel myfyrwyr cymhwysol at ddiben y cap ar ffioedd o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Mae Pennod 2 o Ran 5 a Phennod 3 o Ran 6 o’r Rheoliadau yn gwneud newidiadau amrywiol i Reoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 sy’n ymwneud â swm y grantiau a’r benthyciadau y caiff myfyriwr cymwys ei gael ar gyfer blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Mae Pennod 3 o Ran 5 a Phennod 4 o Ran 6 o’r Rheoliadau yn diwygio’r diffiniad o flwyddyn ERASMUS yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 i gynnwys y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru.

Mae Pennod 4 o Ran 5 a Phennod 5 o Ran 6 o’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 sy’n ymwneud â chymhwystra sy’n codi o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae’r diwygiadau yn dileu cyfeiriad at y “cyfnod gras” o ganlyniad i’r ffaith bod y cyfnod hwnnw bellach wedi mynd heibio.

Mae Pennod 6 o Ran 6 o’r Rheoliadau yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 2018 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl) mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022. Bydd myfyriwr y dyfernir grant neu lwfans iddynt o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i gael grant myfyriwr anabl.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.

(2)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(2)(a) i (c) gan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 86(3)(a). Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o’r Ddeddf honno i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(b) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Darparodd adran 44 o’r Ddeddf honno hefyd fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) ac (c) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 2004 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” a “rheoliadau”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources