Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 804 (Cy. 180)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Hadau, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022

Gwnaed

13 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym

22 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7(2) o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 a deuant i rym ar 22 Gorffennaf 2022.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

2.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle’r geiriau “a ddisgrifir yn” rhodder “sy’n dod o fewn”;

(ii)hepgorer y geiriau o “neu unrhyw beiriannau” hyd at y diwedd;

(b)yn lle paragraff (2A) rhodder—

(2A) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2B), (2C) a (2E), y ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad ag atebolrwydd am wiriad ffisegol a gwiriad adnabod y caniateir eu cynnal ar y llwyth (pa un a gynhelir unrhyw wiriad o’r fath ai peidio) yw, pan fo llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl—

(a)y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth; a

(b)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth.;

(c)yn lle paragraff (2B) rhodder—

(2B) Mae’r ffioedd a bennir o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o flodau wedi eu torri, ffrwythau, llysiau neu ddail yn daladwy mewn cysylltiad ag un lot o’r math o dan sylw.;

(d)yn lle paragraff (2C) rhodder—

(2C) Pan fo llwyth yn cynnwys dau neu ragor o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n dod o fewn un categori a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol neu wiriad adnabod o’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o fewn y categori o dan sylw yw—

(a)i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys dau neu ragor o lotiau naill ai o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail—

(i)y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail (yn ôl y digwydd); neu

(ii)pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r lotiau o dan sylw, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd am wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd);

(b)i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys unrhyw blanhigion eraill, unrhyw gynhyrchion planhigion neu unrhyw wrthrychau eraill sy’n tarddu o’r un wlad—

(i)y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o unrhyw un o’r disgrifiadau o dan sylw; neu

(ii)pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd i wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd).;

(e)hepgorer paragraff (2D);

(f)yn lle paragraff (2E) rhodder—

(2E) Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a fewnforir cyn diwedd y cyfnod graddoli trosiannol, mewn cysylltiad ag unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion a bennir yn Atodlen 2A a geir yn y llwyth hwnnw.

(g)ar ôl paragraff (2E), mewnosoder—

(2F) Pan fo arolygydd yn amau bod llwyth o drydedd wlad wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol, y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr y llwyth o drydedd wlad yw £147.35 ar gyfer pob sampl a brofir.

(2G) At ddibenion y rheoliad hwn, y tabl ac Atodlen 2A—

(a)ystyr “dail” yw llysiau, perlysiau a sbeisys, i’r graddau y maent ar ffurf dail gyda neu heb goesynnau neu goesau ynghlwm, a dail rhydd unrhyw blanhigion eraill;

(b)ystyr “llysiau”, ac eithrio yn is-baragraff (a), yw llysiau ac eithrio i’r graddau y maent ar ffurf dail.;

(h)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “categori”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw grŵp a restrir yng ngholofn 1 mewn print trwm;

(b)ystyr “pla planhigion a reolir” yw pla cwarantin Prydain Fawr, pla cwarantin Prydain Fawr dros dro, pla cwarantin ardal sy’n rhydd rhag plâu neu bla nad yw’n bla cwarantin Prydain Fawr a reoleiddir(4);

(c)ystyr “disgrifiad”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw’r disgrifiad penodol y pennir ffi mewn cysylltiad ag ef;

(d)ystyr “lot” yw un uned neu ragor o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth;

(e)ystyr “y tabl” yw’r tabl yn Atodlen 1;

(f)ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;

(g)mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(5)..

(3Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd), ym mharagraff (4B), yn lle “2022” rhodder “2023”.

(4Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen 1 a geir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

(5Hepgorer Atodlenni 1A a 2.

(6Yn lle Atodlen 2A, rhodder yr Atodlen 2A a geir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2022

Rheoliad 2(4)

ATODLEN 1

Rheoliad 3(2A) a (2C)

ATODLEN 1Ffioedd arolygu mewnforio

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
Categori a disgrifiad o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arallGwlad tarddiadFfi: Gwiriad ffisegol (£)Ffi: Gwiriad adnabod (£)
(1)

Ystyr “a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol” yw y’i bwriedir, drwy dystiolaeth o’r pecyn, y label neu drwy ddulliau eraill, i’w gyflenwi yn uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol.

(2)

Ystyr “planhigion prennaidd” yw planhigion sydd â choesyn prennaidd neu rhannol brennaidd, ac mae’n cynnwys pob coeden, deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had), llwyni a phalmwydd, a’r gwinwydd a’r perlysiau lluosflwydd hynny sydd â choesynnau prennaidd neu rannol brennaidd; ac at y diben hwn mae “perlysiau lluosflwydd” yn golygu perlysiau y mae eu hoedran cyfartalog yn fwy na dwy flynedd.

(3)

Ystyr “planhigion nad ydynt yn brennaidd” yw planhigion nad ydynt yn blanhigion prennaidd.

(4)

Ystyr “planhigion dan do” yw planhigion yr ymddengys o’u pecyn, eu label neu drwy ddulliau eraill y’u bwriedir i’w cyflenwi’n uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol i’w defnyddio o dan do neu i’w defnyddio mewn acwaria.

Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws), winwns, sialóts, garlleg, cennin a llysiau garllegaidd eraill, planhigion cwsg, nad ydynt mewn swbstrad
Pob genera a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cynhyrchu blodau masnachol, a nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)Unrhyw drydedd wlad205.045.25
Pob genera a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu blodau masnachol, neu ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)Unrhyw drydedd wlad20.500.52
Toriadau, eginblanhigion, a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Pob generaUnrhyw drydedd wlad32.151.57
Planhigion prennaidd(2) (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer eu plannu
Pob generaUnrhyw drydedd wlad32.151.57
Planhigion nad ydynt yn brennaidd(3) (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Pob generaUnrhyw drydedd wlad32.151.57
Planhigion dan do(4)
Pob generaUnrhyw drydedd wlad32.151.57
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Pob generaUnrhyw drydedd wlad32.151.57
Blodau wedi eu torri
Dendranthema (DC.) Des Moul. (Chrysanthemum L.)Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.280.15
Colombia neu Ecuador21.372.62
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Colombia, Ecuador, Liechtenstein neu’r Swistir2.130.26
Eryngium Tournier ex Linnaeus.Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.280.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir4.270.52
Lisianthus L.Unrhyw drydedd wlad4.270.52
Rosa L.Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Colombia, Ecuador, Liechtenstein neu’r Swistir1.280.15
Canada, India, Mecsico neu UDA21.372.62
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Canada, Colombia, Ecuador, India, Liechtenstein, Mecsico, y Swistir neu UDA2.130.26
Solidago L.Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.280.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir4.270.52
Genera eraill nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwnUnrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.280.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.130.26
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig wedi eu torri)
Pob generaUnrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.010.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.690.26
Ffrwythau, llysiau, dail
Momordica L.Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.590.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir26.552.62
Ocimum L.Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.150.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir35.842.62
Solanaceae Juss. (ac eithrio Solanum tuberosum L.)Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.590.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir26.552.62
Solanum melongena L.Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.590.15
Twrci15.931.57
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, y Swistir neu Dwrci2.650.26
Genera neu rywogaethau eraill o ffrwythau neu lysiau nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwnUnrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir1.590.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.650.26
Dail eraill nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwnUnrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.150.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir3.580.26
Hadau (ar gyfer eu hau), meithriniad meinwe
Pob genera, ar gyfer treialon neu brofiUnrhyw drydedd wlad12.810.52
Brassicaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay128.135.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay6.400.26
Capsicum spp. L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)Unrhyw drydedd wlad128.135.25
Poaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay128.135.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay6.400.26
Secale L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA128.135.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA6.400.26
Solanum lycopersicum L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)Unrhyw drydedd wlad128.135.25
Solanum tuberosum L. (Gwir had) (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)Unrhyw drydedd wlad128.135.25
Trifolium spp. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay128.135.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay6.400.26
Triticum L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA128.135.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA6.400.26
X Triticosecale Wittm. ex A. Camus (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA128.135.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA6.400.26
Genera neu rywogaethau eraill nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwnUnrhyw drydedd wlad6.400.26
Grawn (ac eithrio hadau ar gyfer eu hau)
Secale L.Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA142.985.25
Triticum L.Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA142.985.25
X Triticosecale Wittm. ex A. CamusAffganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA142.985.25
Cloron tatws
Solanum tuberosum L. (tatws hadyd)Unrhyw drydedd wlad156.695.25
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta)Yr Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Rwmania78.342.62
Sbaen156.695.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu Sbaen4.700.15
Coed Nadolig wedi eu torri (llai na 3 metr o uchder)
Pob generaUnrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir3.580.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir5.980.26
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaethUnrhyw drydedd wlad5.980.26

Rheoliad 2(6)

ATODLEN 2

Rheoliad 3(2E)

ATODLEN 2ARhestr o blanhigion a chynhyrchion planhigion sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir sy’n ddarostyngedig i ffioedd ar gyfer gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o ddiwedd y cyfnod graddoli trosiannol

1.  Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd ac eithrio rhisgl a choed Nadolig wedi eu torri.

2.  Coed Nadolig wedi eu torri.

3.  Blodau wedi eu torri.

4.  Ffrwythau.

5.  Grawn, ac eithrio hadau ar gyfer eu hau.

6.  Dail.

7.  Hadau ac eithrio—

(a)hadau—

(i)Allium cepa L.,

(ii)Allium porrum L.,

(iii)Castanea Mill.,

(iv)Capsicum spp. L.,

(v)Helianthus annuus L.,

(vi)Medicago sativa L.,

(vii)Phaseolus cocineus.,

(viii)Phaseolus vulgaris L.,

(ix)Solanum lycopersicum L.,

(x)Solanum tuberosum L. (Hadau tatws gwirioneddol).

(b)hadau llysiau Pisum sativum L. a Vicia faba L.

(c)hadau planhigion olew a ffibr—

(i)Brassica napus L.,

(ii)Brassica rapa L.,

(iii)Sinapis alba L.,

(iv)Glycine max (L.) Merrill,

(v)Linum usitatissimum L.

8.  Llysiau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7(2) o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16). Maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1179) (Cy. 238) (“Rheoliadau 2018”).

Yn benodol, mae Rheoliadau 2018 wedi eu diwygio—

(a)mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth sy’n tarddu o drydedd wlad mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, er mwyn adlewyrchu pa mor aml y cynhelir gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o’r fath. Mae’r diwygiadau yn cynnwys darparu ar gyfer ffi unffurf mewn cysylltiad â phlanhigion penodol sydd i’w plannu a newidiadau i gategorïau planhigion, a chynhyrchion planhigion, penodol; a

(b)er mwyn estyn yr esemptiad rhag talu ffioedd sy’n daladwy fel arall mewn cysylltiad â gwasanaethau tystysgrifau a chyn-allforio ar lwythi o dan amgylchiadau penodol hyd 31 Rhagfyr 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16; gweler paragraff 8 o Atodlen 4 am ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

Diffinnir “GB quarantine pest”, “GB regulated non-quarantine pest”, “PFA quarantine pest” a “provisional GB quarantine pest” yn Erthygl 2(32), (33), (37) a (40), yn y drefn honno, o EUR 2016/2031 (a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1482). Mae’r diffiniadau hynny yn gymwys at ddibenion O.S. 2018/1179 (Cy. 238) yn rhinwedd rheoliad 2(2) o’r O.S. hwnnw.

(5)

EUR 2017/625. Mewnosodwyd Atodiad 6 gan O.S. 2020/1481 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2021/429, O.S. 2021/809, O.S. 2021/1096 ac O.S. 2021/1443.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources