Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

Dyletswydd i roi hysbysiad pan fydd apêl sy’n mynd rhagddi yn dod i ben

11.—(1Pan na roddir hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn unol ag erthyglau 9 neu 10 oherwydd apêl sy’n mynd rhagddi, mae paragraff (2) yn gymwys.

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)ar ôl i’r cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo ddod i ben, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

(b)ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud.