Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU

12.—(1Caiff plentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cais.

(2Nid yw’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU ym mharagraff (1) yn gymwys—

(a)pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, neu

(b)pan fydd erthyglau 15 i 22 yn gymwys.