Search Legislation

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 17

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022, Adran 17. Help about Changes to Legislation

Galluedd plantLL+C

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i blentyn y mae mater yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ef ar 1 Medi 2022.

(2Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n gymwys i berson pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

(3Nid yw dyletswydd ym mharagraff (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(4Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—

(a)y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthygl 9;

(b)y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 10;

(c)y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 11(1).

(5Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(6Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 17 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Back to top

Options/Help