Search Legislation

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Galluedd plant

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i blentyn y mae mater yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ef ar 1 Medi 2022.

(2Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n gymwys i berson pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

(3Nid yw dyletswydd ym mharagraff (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(4Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—

(a)y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthygl 9;

(b)y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 10;

(c)y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 11(1).

(5Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(6Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

Back to top

Options/Help