Search Legislation

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 894 (Cy. 191) (C. 58)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022

Gwnaed

16 Awst 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty”—

(i)

yn adran 312(2)(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn Lloegr,

(ii)

yn adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn Lloegr;

mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;

mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579(3) o Ddeddf 1996;

mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2)(4) o Ddeddf 2014;

mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision”—

(i)

yn adran 312(4)(5) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

(ii)

yn adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(6);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(7);

mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(8) o Ddeddf 1996;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(9) o Ddeddf 1996;

mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

ystyr “plentyn a addysgir ac eithrio yn yr ysgol” (“a child educated other than at school”) yw plentyn y mae awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwneud trefniadau i ddarparu addysg ac eithrio yn yr ysgol ar ei gyfer sydd o fewn ardal yr awdurdod ac—

(a)

sydd o oedran ysgol gorfodol, a

(b)

na all, oherwydd salwch, gwaharddiad o’r ysgol neu fel arall, gael addysg addas am gyfnod oni bai bod trefniadau o’r fath yn cael eu gwneud ar gyfer y plentyn;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;

ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(10);

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(11);

mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(12) o Ddeddf 1996;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;

mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.

(3At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—

(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.

(4At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw’r plentyn yn ardal yr awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwydLL+C

2.—(1At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd”—

(a)os yw awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am P; a

(b)os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd—

(i)gan berchennog yr ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi, neu

(ii)gan awdurdod lleol,

sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

(2Ond nid yw’n cynnwys plentyn—

(a)sy’n blentyn a addysgir ac eithrio yn yr ysgol;

(b)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(c)sy’n blentyn sy’n derbyn gofal;

(d)y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;

(e)y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;

(f)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;

(g)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;

(h)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu

(iii)y dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;

(i)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;

(j)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(iii)y dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(k)y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cael ei chwblhau;

(l)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;

(m)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);

(n)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw, y dyfarnwyd yn derfynol arni ac y gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;

(o)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—

(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,

(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu

(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;

(p)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw, y dyfarnwyd yn derfynol arni ac y gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(q)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022LL+C

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—

(a)adrannau 2 i 4;

(b)adrannau 6 i 14;

(c)adrannau 17 i 36;

(d)adran 38;

(e)adrannau 40 i 44;

(f)adrannau 47 i 49;

(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);

(h)adran 50(4) i (5);

(i)adrannau 51 i 53;

(j)adran 55;

(k)adran 59;

(l)adrannau 63 i 66;

(m)adrannau 68 i 69;

(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);

(o)yn yr Atodlen—

(i)paragraff 1;

(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);

(iii)paragraff 4(2) i 4(6);

(iv)paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi cael ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn(13);

(v)paragraff 4(8) i 4(10);

(vi)paragraff 4(13) i 4(18);

(vii)paragraff 4(19)(b);

(viii)paragraff 4(20) a 4(21);

(ix)paragraff 4(23) i 4(29);

(x)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);

(xi)paragraff 7;

(xii)paragraff 8;

(xiii)paragraff 11(a);

(xiv)paragraff 12(a);

(xv)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);

(xvi)paragraff 14(2) a (3);

(xvii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);

(xviii)paragraff 19(5)(e)(ii);

(xix)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);

(xx)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);

(xxi)paragraff 22;

(xxii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);

(xxiii)paragraff 23(4);

(xxiv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);

(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

16 Awst 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â’r rheini sydd o oedran ysgol gorfodol ac iau, sydd ag anghenion addysgol arbennig penodol a nodwyd (ond nid datganiad) ac sy’n cael eu haddysgu mewn ysgol annibynnol neu’n cael eu haddysgu gartref (erthygl 2).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(14):

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)(15)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)(16)

O.S. 2021/1245 (W. 317) (C. 70)

Adran 4 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) ( C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 52 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 6 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 7 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 8 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 9 i 14 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 152 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 16 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) (17)
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 21 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 22 i 31 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 32 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 33 i 35 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 36 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 372 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 38 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 392 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 452 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 462 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 47 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 48 i 49 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 54 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 55 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 56 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 56(1)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 56(4) i (6)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 57 i 581 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 59 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 604 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 614 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 624 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 65 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 66 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 672 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 70 i 731 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 742 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 75 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 76 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 77 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adrannau 78 i 811 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 822 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 83 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 841 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 85 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adrannau 86 i 901 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 91 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 92 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adrannau 93 i 941 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 95 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 96 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 31 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
(yn rhannol)1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraffau 9 a 101 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 11(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 12(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 131 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 181 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 201 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
1 Ionawr 2022

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) (18)
(2)

Diwygiwyd gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 2, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8.

(3)

Amnewidiwyd y diffiniad o “local authority” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

(4)

Diwygiwyd gan Ddeddf Gofal 2014 a Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/914), erthygl 2 a pharagraff 97 o’r Atodlen.

(5)

Diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.

(8)

Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a paragraff 111 o Atodlen 30, a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7(3) o Atodlen 2.

(9)

Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).

(11)

Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o’r Ddeddf.

(12)

Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

(13)

Mae paragraff 4(7) (“y ddarpariaeth”) wedi ei ddiddymu gan baragraff 75 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) (“Deddf 2021”). Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi ei harbed gan Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 (O.S. 2022/111 (Cy. 39)) mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm (h.y. nad yw Ddeddf 2021 wedi cychwyn mewn perthynas ag ef). Effaith y ddarpariaeth arbed honno yw bod paragraff 4(7) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn parhau mewn grym hyd nes y darperir addysg o dan Ddeddf 2021 i’r disgybl neu’r plentyn.

(14)

Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/891 (Cy. 188) (C. 55)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/892 (Cy. 189) (C. 56)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022 (O.S. 2022/893 (Cy. 190) (C. 57)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022 (O.S. 2022/895 (Cy. 192) (C. 59)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/896 (Cy. 193) (C. 60)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/897 (Cy. 194) (C. 61)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022 (O.S. 2022/898 (Cy. 195) (C. 62)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources