Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodolLL+C
14.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022,
(b)a oedd mewn dosbarth meithrin, neu mewn dosbarth derbyn, neu ym mlwyddyn 2, blwyddyn 4, blwyddyn 6, blwyddyn 8, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023, ac
(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
(2) Ar 31 Awst 2023—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 14 mewn grym ar y dyddiad gwneud