Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodolLL+C
15.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022, a
(b)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 15 mewn grym ar y dyddiad gwneud