Search Legislation

Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 906 (Cy. 197) (C. 64)

Tai, Cymru

Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022

Gwnaed

12 Awst 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 257(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1) ac adran 38(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019(2).

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Y diwrnod penodedig

2.  1 Rhagfyr 2022 yw’r diwrnod penodedig i’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022

3.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022(3), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022

4.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022(4), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

5.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022(5), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

6.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022(6), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022

7.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022(7), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022

8.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022(8), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022

9.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022(9), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022

10.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022(10), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022

11.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022(11), yn lle “y diwrnod y mae adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022

12.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022(12), yn lle “y diwrnod y mae adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022

13.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022(13), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022

14.  Yn rheoliad 1 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022(14), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.

Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022

15.  Yn rheoliad 1(1) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022(15), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

12 Awst 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau sy’n rhoi’r hawl i feddiannu annedd fel cartref, gan gynnwys darpariaeth sy’n sefydlu dau fath o gontract at ddiben rhentu cartrefi ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae’r Ddeddf wedi ei diwygio gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y Ddeddf i rym, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ar 1 Rhagfyr 2022.

Er mwyn paratoi ar gyfer dyfodiad gweddill y Ddeddf i rym, mae 13 o offerynnau statudol o sylwedd wedi eu gwneud o dan ddarpariaethau galluogi amrywiol o fewn y Ddeddf. Mae 12 o’r offerynnau statudol hynny wedi eu gwneud ar y sail y byddant yn dod i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.

Mae adran 38(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio darpariaethau sy’n disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym, a hynny â’r gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).

Drwy arfer y pŵer hwnnw, mae erthyglau 3 i 15 yn diwygio’r 12 o offerynnau statudol i roi cyfeiriad at 1 Rhagfyr 2022 yn lle cyfeiriadau at y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn rhannol drwy Orchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016 (O.S. 2016/813) (Cy. 203) (C. 57) at y dibenion a bennir yn y tabl isod—

Y DdarpariaethY Dyddiad Cychwyn
Adran 23 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Adran 29 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Adran 32(4) (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Adran 45(3) (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Adran 94 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Adran 112 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Adran 116(4) (at ddiben dyroddi canllawiau)5 Awst 2016
Adran 131 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Adran 146(1) (at ddiben dyroddi canllawiau)5 Awst 2016
Adran 203(5) a (6) (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Adran 221 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Adran 236(3) a (4) (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 15(10) o Atodlen 2 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 17 o Atodlen 2 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 10(2) o Atodlen 3 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 15(3) a (4) o Atodlen 3 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 17 o Atodlen 3 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 4(7) ac (8) o Atodlen 4 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 1(6) o Atodlen 5 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 5(7) ac (8) o Atodlen 7 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 15(2) o Atodlen 12 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016
Paragraff 33 o Atodlen 12 (at ddiben gwneud rheoliadau)5 Awst 2016

Gweler adran 257(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016.

(2)

2019 dccc 4. Caniateir i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 38 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 gael ei arfer i wneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o’r Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources