Search Legislation

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1041 (Cy. 175)

Y Gymraeg

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023

Gwnaed

22 Medi 2023

Yn dod i rym

31 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), ac wedi cael cymeradwyaeth Senedd Cymru(2) yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2023.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);

ystyr “corff” (“body”) yw person sy’n dod o fewn un neu’r ddau o’r categorïau o bersonau a restrir yn Atodlen 4;

mae i “person neilltuedig” (“qualifying person”) yr un ystyr ag ym mharagraff 2 o Atodlen 7 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

(5Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;

(b)yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.

(6Nid oes dim byd yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd a gyflawnir ganddo neu wasanaeth a ddarperir ganddo pan fo’n cyflawni’r gweithgaredd hwnnw neu’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar ran trydydd parti o dan drefniadau a wneir rhyngddo ef a’r trydydd parti.

Safonau a bennir

2.—(1Yn Atodlen 1—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;

(b)mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

(c)mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(2Yn Atodlen 2—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;

(b)mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(3Mae Atodlen 3 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 a 2 ac, yn benodol—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau sy’n ymdrin â materion atodol;

(b)mae Rhan 2 yn pennu safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â materion atodol;

(c)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r safonau atodol.

Safonau sy’n benodol gymwys

3.  Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i gorff sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir o dan reoliad 2 ac Atodlenni 1 i 3.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

22 Medi 2023

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff
(1) Pan fydd corff yn ateb gohebiaeth
Safon 1:Os byddwch yn cael gohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”), rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod P wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg.
(2) Pan fydd corff yn gohebu
(a) Pan fydd corff yn gohebu ag aelod o’r cyhoedd
Safon 2:

Oni bai eich bod yn anfon pob gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system at aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn Gymraeg, pan fyddwch yn anfon gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system at P am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw P yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—

(a)

cadw cofnod o ddymuniad P, a

(b)

anfon unrhyw ohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system a anfonwch at P o hynny ymlaen yn Gymraeg.

(b) Pan fydd corff yn gohebu â sawl aelod o’r cyhoedd (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr i nifer o gartrefi)
Safon 3:Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at sawl aelod o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni.
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 4:Os nad ydych yn gwybod a yw aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn dymuno cael gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system oddi wrthych yn Gymraeg, rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn anfon gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system at y P hwnnw.
Safon 5:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd).
Safon 6:

Rhaid ichi ddatgan—

(a)

mewn gohebiaeth at aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, a

(b)

mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch,

eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

2Safonau ynghylch galwadau ffôn
(1) Galwadau ffôn i gorff
Safon 7:Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon neu ar eich rhifau llinell gymorth gwasanaeth a bod gwasanaeth Cymraeg ar gael, rhaid ichi roi gwybod i P bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.
Safon 8:Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw P yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg pan fo hynny’n angenrheidiol).
Safon 9:

Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw P yn dymuno hynny—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol, a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 10:Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth gwasanaeth, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw P yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg pan fo hynny’n angenrheidiol).
Safon 11:

Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth gwasanaeth, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw P yn dymuno hynny—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol, a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 12:Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, rhifau llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau a phan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 13:Pan fyddwch yn cyhoeddi eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon a’ch rhifau llinell gymorth gwasanaeth a phan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi ddatgan (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Safon 14:Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.
Safon 15:Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg.
Safon 16:Pan nad oes gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon neu eich rhifau llinell gymorth gwasanaeth, rhaid ichi roi gwybod i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru sy’n galw, yn Gymraeg (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall), pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.
(2) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio
Safon 17:Rhaid i unrhyw systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg pan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru.
3Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd
(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un aelod gwahoddedig o’r cyhoedd
Safon 18:

Os byddwch yn gwahodd un aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn unig i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru—

(a)

rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw, a

(b)

os yw P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.

(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig
Safon 19:Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru, rhaid ichi ofyn i bob aelod o’r cyhoedd yng Nghymru a gafodd ei wahodd a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 19A:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru, a bod o leiaf 10% o’r aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru a gafodd eu gwahodd wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 19B:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru, a bod o leiaf 20% o’r aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru a gafodd eu gwahodd wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 19C:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru, a bod o leiaf 30% o’r aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru a gafodd eu gwahodd wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
4Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd
Safon 20:Os byddwch yn trefnu cyfarfod i’w gynnal yng Nghymru sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru ynddo, rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, bod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 21:Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru ynddo, rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg.
Safon 22:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod i’w gynnal yng Nghymru sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru ynddo, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg—

(a)

bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Safon 23:Os byddwch yn llunio ac yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod a gynhelir yng Nghymru yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau bod y deunydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
5Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff
Safon 24:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus i’w gynnal yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).
Safon 25:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus i’w gynnal yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo).
6Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff
Safon 26:Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu unrhyw ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg pan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
7Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus
Safon 27:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghymru gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 28:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.
8Safonau ynghylch corff yn llunio dogfennau
Safon 29:

Os byddwch yn llunio dogfen sydd ar gael i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg—

(a)

os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu

(b)

os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’i disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.

Safon 30:Os byddwch yn llunio dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un a ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 31:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddogfen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg.
9Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi ffurflenni
Safon 32:

Pan fyddwch yn anfon ffurflen at aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael ffurflenni yn Gymraeg, ac os yw P yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—

(a)

cadw cofnod o ddymuniad P, a

(b)

anfon unrhyw ffurflenni a anfonwch at P o hynny ymlaen yn Gymraeg.

Safon 33:Os nad ydych yn gwybod a yw aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn dymuno cael ffurflenni oddi wrthych yn Gymraeg, rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg pan fyddwch yn anfon ffurflen at y P hwnnw.
Safon 34:

Rhaid i unrhyw ffurflen yr ydych yn ei rhoi ar gael i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru gael ei llunio yn Gymraeg, ac—

(a)

os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ffurflen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg;

(b)

os byddwch yn llunio ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un a ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid ichi beidio â gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft, mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen, neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen).

Safon 35:Os byddwch yn mewnosod gwybodaeth ar fersiwn Gymraeg o ffurflen (er enghraifft, cyn ei hanfon at aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) er mwyn i P wirio’r cynnwys neu er mwyn iddo lenwi gweddill y ffurflen), rhaid ichi sicrhau bod yr wybodaeth yr ydych yn ei mewnosod yn cael ei mewnosod yn Gymraeg.
10Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff
(1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff
Safon 36:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.

Safon 37:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, bod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan.

Safon 38:

Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno.

Safon 39:Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi ddatgan yn glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid ichi ddarparu dolen uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
Safon 40:Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg.
Safon 41:

Rhaid ichi neilltuo a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich gwefan sy’n darparu gwybodaeth (yn Gymraeg) am—

(a)

y gwasanaethau yr ydych yn eu darparu a’r gweithgareddau yr ydych yn eu cyflawni yng Nghymru, a

(b)

y gwasanaethau Cymraeg yr ydych yn eu darparu a sut y gellir cael gafael ar bob un o’r gwasanaethau Cymraeg hynny.

(2) Apiau a gyhoeddir gan gorff
Safon 42:Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi i’w ddefnyddio gan aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw.
(3) Cyfleuster sgwrsio ar-lein
Safon 43:

Os oes gennych gyfleuster sgwrsio byw i’w ddefnyddio gan aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi ei ddarparu yn Gymraeg.

Safon 43A:Rhaid ichi ddatgan (yn Gymraeg) ar eich gwefan fod eich cyfleuster sgwrsio byw ar gael yn Gymraeg a sut y gellir dod o hyd iddo.
11Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol
Safon 44:Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 45:Os bydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).
12Safon ynghylch peiriannau hunanwasanaeth
Safon 46:Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yng Nghymru yn gweithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw.
13Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir gan gorff
Safon 47:Pan fyddwch yn creu arwydd i’w osod yng Nghymru (pa un ai’n barhaol neu dros dro), rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
Safon 48:Pan fyddwch yn creu arwydd i’w osod yng Nghymru (pa un ai’n barhaol neu dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
14Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff
Safon 49:Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i aelod o’r cyhoedd yng Nghymru sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg yng Nghymru beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg.
Safon 50:

Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych a bod aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn dymuno cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg, rhaid ichi—

(a)

gofyn i P a yw’n dymuno ichi drefnu i aelod o staff sy’n siarad Cymraeg fynd i’r dderbynfa, a

(b)

os yw P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno i aelod o staff sy’n siarad Cymraeg fynd i’r dderbynfa, rhaid ichi drefnu i aelod o staff sy’n siarad Cymraeg fynd i’r dderbynfa i ddarparu gwasanaeth sy’n cyfateb i wasanaeth derbynfa Cymraeg.

Safon 51:Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael yn eich derbynfa, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa Cymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa.
Safon 52:Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa.
15Safonau ynghylch corff yn gwneud hysbysiadau
Safon 53:Rhaid i unrhyw hysbysiad yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos yng Nghymru gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 54:Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad yng Nghymru sy’n cynnwys testun Cymraeg yn ogystal â thestun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
16Safonau ynghylch corff yn dyfarnu grantiau
Safon 55:Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.
Safon 56:Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gan aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 56A:Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano a gyflwynir yn Gymraeg gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).
Safon 57:Os byddwch yn cael cais yn Gymraeg gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, a bod angen cyf-weld â’r ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 58:

Os byddwch yn cael cais yn Gymraeg gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi—

(a)

cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)

os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 59:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw eich penderfyniad mewn perthynas â chais am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru.
17Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff
Safon 60:Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.
Safon 61:Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu unrhyw ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu unrhyw wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg ddatgan hefyd fod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.
18Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff
Safon 62:Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
19Safonau ynghylch cyrsiau a gynigir gan gorff
Safon 63:Os byddwch yn cynnig cwrs addysg yng Nghymru sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 64:Os byddwch yn cynnig cwrs addysg yng Nghymru sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, ac sydd wedi ei anelu’n benodol at bersonau sy’n 18 oed neu’n iau, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 65:

Os byddwch yn cynnig cwrs addysg yng Nghymru i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi—

(a)

cynnal asesiad o’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg;

(b)

cynnig y cwrs hwnnw yn Gymraeg os dangosodd yr asesiad fod angen i’r cwrs gael ei gynnig yn Gymraeg.

RHAN 2SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

20Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan fo hynny’n cael ei ddatgan).

TABL 1

Rhes

Colofn 1

Prif safon

Colofn 2

Safon ddibynnol

(1)

Ateb gohebiaeth

Safon 1

Safon 6

(2)

Gohebu ag aelodau o’r cyhoedd

Safon 3

Safon 5

Safon 6

(3)

Safonau cyffredinol ynghylch gohebu

Safon 4

Safon 5

Safon 6

(4)

Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg

Safon 6

Safon 1

(5)

Cael galwadau ffôn

Safon 7

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 8

Safon 9

Safon 10

Safon 11

(6)

Cael galwadau ffôn

Safon 8, 9, 10 neu 11

Safon 7

Safon 13

(7)

Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn Gymraeg

Safon 13

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 8

Safon 9

Safon 10

Safon 11

a hefyd

Safon 15, a

Safon 16

(8)

Cyfarfodydd â mwy nag un person

Safon 19

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 19A

Safon 19B

Safon 19C

(9)

Cyfarfodydd â mwy nag un person

Safon 19A, 19B neu 19C

Safon 19

(10)

Cyfarfodydd cyhoeddus

Safon 20

Safon 22

(11)

Cyfarfodydd cyhoeddus

Safon 22

Safon 20

(12)

Dogfennau

Safon 29

Safon 30

Safon 31

(13)

Gwefannau

Safon 36, 37 neu 38

Safon 39

(14)

Cyfleuster sgwrsio byw

Safon 43

Safon 43A

(15)

Cyfleuster sgwrsio byw

Safon 43A

Safon 43

(16)

Derbynfa

Safon 49, 50 neu 51

Safon 52

(17)

Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfa

Safon 52

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 49

Safon 50

Safon 51

(18)

Grantiau

Safon 56

Safon 56A

Safon 59

(19)

Grantiau

Safon 57 neu 58

Safon 56

Safon 56A

RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU

21Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
22

Nid yw’r safonau ond yn gymwys i’r graddau y mae corff—

(a)

yn cyflenwi gwasanaethau i berson, neu

(b)

yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)

i’r person arall hwnnw, neu

(ii)

i drydydd person.

23Nid yw’r safonau ond yn gymwys i’r graddau y mae’r safonau yn ymwneud â darparu gan gorff wasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau’r corff fel ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
24Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, cyhoeddi, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.
25

At ddibenion y safonau—

(a)

nid yw gofyniad i lunio, i anfon, i gyhoeddi, i arddangos, i roi ar gael neu i ddyroddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon);

(b)

nid yw gofyniad i ddarparu gwasanaeth neu weithgaredd yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw neu’r gweithgaredd hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

26

(1Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”).

(2Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3).

(3Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol—

(a)â’i Gynllun Iaith Gymraeg,

(b)â dyletswydd i gydymffurfio â safonau,

(c)â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru,

(ch)ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006, neu

(d)â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd.

(4Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(3);

(b)ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

(c)ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(4);

(ch)ystyr “Rheolau Sefydlog Senedd Cymru” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006;

(d)ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.

27

(1Os bodlonir yr amodau ym mharagraffau (a) i (c) neu os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), nid yw’n ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (b)—

(a)yr amod cyntaf yw bod argyfwng wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd;

(b)yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar argyfwng neu effaith argyfwng;

(c)y trydydd amod yw bod yr angen am y gweithgaredd neu’r gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (b) yn daer.

(2Yr amod yw bod y corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng.

(3Os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “argyfwng” yn is-baragraff (1)(b) i’w ddarllen fel “y ffug sefyllfa argyfwng”.

28At ddibenion safonau 2 a 32, mae corff yn gohebu ag aelod o’r cyhoedd yng Nghymru neu’n anfon ffurflen at aelod o’r cyhoedd yng Nghymru am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n anfon ffurflen am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.
29At ddibenion safonau 2 a 4, ystyr “gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system” yw biliau, ceisiadau am ddarlleniadau mesuryddion, gohebiaeth ynghylch cyfrifon newydd a gohebiaeth ynghylch cau cyfrifon.
30At ddibenion safonau 7, 10, 11, 13 ac 16, ystyr “llinell gymorth gwasanaeth” yw llinell gymorth dros y ffôn sy’n delio â gwasanaethau dŵr neu wasanaethau carthffosiaeth ond nid ymholiadau ynghylch cyfrifon.
31Yn safon 17, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso bysellau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.
32Nid yw safonau 18 i 19C yn gymwys pan gynhelir y cyfarfod ar fyr rybudd (er enghraifft, pan fydd corff yn gwneud ymholiadau o ddrws i ddrws).
33

Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 36 i 42 (gwefannau ac apiau) a 44 a 45 (cyfryngau cymdeithasol)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)

maint y deunydd;

(c)

lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch)

pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)

fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd.

34At ddibenion safonau 29 a 34, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunyddiau eraill sydd ar gael i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael i’r cyhoedd yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(5).
35Nid yw safon 29 yn gymwys i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff.
36Nid yw safonau 29 a 30 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen, llyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn.
37

(1Nid yw safonau 32 a 34 yn gymwys i’r ffurflenni y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2).

(2At ddibenion safon 32, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am gymorth grant gan gorff (gweler safonau 55 i 59 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau).

38

Nid yw safonau 36 i 41 (gwefannau) yn gymwys—

(a)

i ddogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 29 i 31 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

i wybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod);

(c)

i gyfleuster sgwrsio byw (gweler safonau 43 a 43A am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â sgwrsio byw).

39

(1Nid yw safon 42 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).

(2Nid yw safon 42 yn gymwys i gyfleuster sgwrsio byw (gweler safonau 43 a 43A am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â sgwrsio byw).

40

At ddibenion safonau 36 i 42 (gwefannau ac apiau) a safonau 44 a 45 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu

(b)

pryd y cyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol;

ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio.

41

(1At ddibenion safonau 43 a 43A a pharagraffau 38, 39 a 43, ystyr “cyfleuster sgwrsio byw” yw cymhwysiad negeseua ar-lein o fewn gwefan neu ap, sydd wedi ei gynllunio’n benodol i ddarparu dull cyfathrebu amser real.

(2Nid yw safon 43 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar gyfleuster sgwrsio byw (gweler safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).

(3Nid yw safon 43 (cyfleuster sgwrsio byw) yn gymwys i ddogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfleuster sgwrsio byw, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfleuster sgwrsio byw (gweler safonau 29 i 31 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).

42

Nid yw safonau 44 a 45 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys—

(a)

i ddogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 29 i 31 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

i wybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau).

43

(1Nid yw safonau 1 i 6 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol na thrwy gyfleuster sgwrsio byw (gweler safonau 44 a 45 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol a safonau 43 a 43A mewn perthynas â chyfleuster sgwrsio byw).

(2Nid yw safonau 36 i 42 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 44 a 45 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

44At ddiben safon 46 (peiriannau hunanwasanaeth), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar sgrin yr un pryd â deunydd Saesneg.
45

At ddibenion safonau 49 i 52 (derbyn ymwelwyr)—

(a)

ystyr “derbynfa” yw ardal yn swyddfeydd corff lle y darperir gwasanaeth derbynfa;

(b)

ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw.

46Nid yw safonau 49 i 52 (derbyn ymwelwyr) yn gymwys pan fydd y dderbynfa y tu allan i Gymru.
47At ddibenion safonau 6, 53 a 54, ystyr “hysbysiad” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad.
48

(1At ddibenion safon 62, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu).

(2Nid yw safon 62 yn gymwys i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.

49

At ddibenion safonau 63 i 65 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, unrhyw hyfforddiant, unrhyw weithdy neu unrhyw ddarpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd; ond nid yw’n cynnwys—

(a)

gweithgareddau na chyrsiau sy’n cael eu darparu fel rhan o’r cwricwlwm yn unol ag unrhyw ddeddfiad, neu

(b)

seminarau na chyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad.

50

At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(a)

Deddf Seneddol, neu

(b)

Mesur neu Ddeddf gan Senedd Cymru.

Rheoliad 2(2)

ATODLEN 2Safonau Cadw Cofnodion

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff
Safon 66:

Rhaid ichi gadw—

(a)

cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau;

(b)

copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

Safon 67:Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael ynghylch y Gymraeg sy’n ymwneud â’ch darpariaeth o wasanaethau penodedig (pa un a yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio).

RHAN 2DEHONGLI’R SAFONAU

2Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
3At ddibenion safon 66, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.
4At ddibenion safon 67, ystyr “gwasanaeth penodedig” yw gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Rheoliad 2(3)

ATODLEN 3Safonau sy’n ymdrin â Materion Atodol

RHAN 1SAFONAU CYFLENWI GWASANAETHAU

1Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cyflenwi gwasanaethau
Safon 68:Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan.
2Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
Safon 69:

Rhaid ichi—

(a)

sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

(b)

cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan.

3Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau cyflenwi gwasanaethau
Safon 70:

(1Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn honno a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael ar eich gwefan.

4Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau
Safon 71:Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
5Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 72:Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 2SAFONAU CADW COFNODION

6Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cadw cofnodion
Safon 73:Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan.
7Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
Safon 74:

Rhaid ichi—

(a)

sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

(b)

cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan.

8Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 75:Rhaid ichi ddarparu unrhyw gofnodion yr ydych wedi eu cadw yn unol â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy i Gomisiynydd y Gymraeg, os bydd y Comisiynydd yn gofyn am y cofnodion hynny.

RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU

9Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhannau 1 a 2 fel a ganlyn.
10At ddibenion safon 70, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.
11At ddibenion y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

Rheoliad 1(4)

ATODLEN 4

Personau neilltuedig—

(a)sy’n darparu i’r cyhoedd wasanaethau dŵr (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu), a

(b)sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(6), neu yn rhinwedd amrywio’r penodiad hwnnw o dan adran 7 o’r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr dŵr ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Personau neilltuedig—

(a)sy’n darparu i’r cyhoedd wasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion), a

(b)sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio’r penodiad hwnnw o dan adran 7 o’r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“Mesur 2011”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”). Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38).

Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff”). Penodir ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth o dan adran 6 neu drwy amrywio penodiad o dan adran 7 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (p. 56).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau. Cyfeirir at hyn ym Mesur 2011 fel gwneud safon yn “benodol gymwys” i gorff.

Oherwydd bod y cyrff y mae’r safonau hyn yn ymwneud â hwy o fewn Atodlen 8 i Fesur 2011, mae adran 37 o Fesur 2011 yn darparu mai dim ond safonau cyflenwi gwasanaethau a safonau cadw cofnodion y gellir eu gwneud yn benodol gymwys iddynt. Nid yw safon cyflenwi gwasanaethau yn gymwys ond i’r graddau ei bod yn ymwneud â darparu gan y corff wasanaeth a bennir yng ngholofn 2 o gofnod y corff yn Atodlen 8 i Fesur 2011. Yn achos yr ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth sy’n dod o fewn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn, mae’r gwasanaethau penodedig yn wasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth (fel y bo’n briodol) ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Yn unol ag adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (drwy hysbysiad cydymffurfio) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau sy’n benodol gymwys iddo. I adlewyrchu hynny, mae’r safonau a bennir gan y Rheoliadau wedi eu geirio ar ffurf naratif ail berson, hynny yw ar ffurf “rhaid ichi” (ac ystyr “chi” yw’r corff perthnasol ym mhob achos).

Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (os yw hynny’n rhesymol ac yn gymesur, a’i fod yn dymuno gwneud hynny) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un safon o dan rai amgylchiadau, a safon arall o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, os yw un safon yn benodol gymwys i gorff, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno o dan rai amgylchiadau, ond nid o dan amgylchiadau eraill, neu ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno mewn rhai ardaloedd yn unig. Yn yr un modd, os oes dwy neu ragor o safonau yn ymwneud ag ymddygiad penodol (er enghraifft, safonau 8 a 9 mewn perthynas ag ateb galwadau ffôn), caiff y Comisiynydd (drwy gyfrwng hysbysiad cydymffurfio) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau hynny’n unig, neu â safonau gwahanol ar adegau gwahanol, o dan amgylchiadau gwahanol, neu mewn ardaloedd gwahanol, fel sy’n briodol i’r corff. Nid oes rheidrwydd ar y Comisiynydd, felly, i’w gwneud yn ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon.

Yn unol ag adran 46 o Fesur 2011, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio a roddir i gorff ddatgan y diwrnod gosod, neu’r diwrnodau gosod; hynny yw, y diwrnod neu’r diwrnodau y daw’n ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon (neu gydymffurfio â safon mewn modd penodol). Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 46, caiff y Comisiynydd osod diwrnod gosod buan i gorff gydymffurfio â safon (cyn belled â bod hynny o leiaf 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r hysbysiad cydymffurfio cysylltiedig i’r corff), neu osod diwrnod gosod ymhellach i’r dyfodol (er enghraifft, mewn perthynas â safonau sy’n fwy heriol).

Pan fo safon a bennir yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig gael ei arddangos neu ei ddarparu yn Gymraeg, neu i wasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg, nid yw hyn yn golygu bod rhaid arddangos neu ddarparu’r deunydd yn Gymraeg yn unig, na bod rhaid i’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg yn unig (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol).

Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau. Mae adran 28 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon sy’n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw. Ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw bod person yn cyflenwi gwasanaethau i berson arall, neu yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau i’r person hwnnw neu i drydydd person.

Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cadw cofnodion. Mae adran 32 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy’n ymwneud â chadw cofnodion ynghylch safonau penodedig eraill, cofnodion ynghylch cwynion am gydymffurfedd â safonau penodedig eraill, neu gofnodion ynghylch cwynion eraill sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion atodol. Mae’r rhain yn fathau penodol o safonau cyflenwi gwasanaethau a safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â’r materion y cyfeirir atynt yn adran 27(4) o Fesur 2011 (sy’n atodol i’r materion hynny yr ymdrinnir â hwy yn Atodlenni 1 a 2).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu drwy anfon e-bost i Cymraeg2050@llyw.cymru.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn adran 150(2) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources