- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
20 Tachwedd 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
21 Tachwedd 2023
Yn dod i rym
1 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.
2.—(1) Mae Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nosbarth 1 o’r Atodlen i Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000(2) (dosbarthiadau o beiriannau a pheirianwaith y tybir eu bod yn rhan o’r hereditament)—
(a)yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “heblaw peiriannau a pheirianwaith a eithrir” mewnosoder “neu, mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024 a chyn 1 Ebrill 2035, beiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy a eithrir neu beiriannau a pheirianwaith mannau gwefru cerbydau trydan a eithrir”;
(b)ar ôl paragraff (ch) mewnosoder—
“(d)ystyr “peiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy a eithrir” yw peiriannau a pheirianwaith a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu, storio, newid neu drosglwyddo pŵer pan mai’r ffynonellau ynni neu’r technolegau y dibynnir arnynt yw’r canlynol, yn bennaf neu yn unig—
(i)biomas;
(ii)biodanwyddau;
(iii)bionwy;
(iv)celloedd tanwydd;
(v)ffotofoltegion;
(vi)dŵr (gan gynnwys tonnau a llanwau);
(vii)gwynt;
(viii)pŵer solar;
(ix)ffynonellau ynni neu dechnolegau geothermol;
(x)gwres o’r aer, o ddŵr neu o’r ddaear;
(dd)ystyr “peiriannau a pheirianwaith mannau gwefru cerbydau trydan a eithrir” yw peiriannau a pheirianwaith—
(i)a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer storio, newid neu drosglwyddo pŵer ar gyfer man gwefru cerbydau trydan (o fewn ystyr adran 45EA(5) o Ddeddf Lwfansau Cyfalaf 2001(3)), a
(ii)sydd o fewn pennawd (ch) neu (d) o Dabl 1 isod.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”).
Mae Rheoliadau 2000 yn rhagnodi tybiaethau am beiriannau a pheirianwaith ar hereditament, neu mewn hereditament, at ddibenion prisio ar gyfer ardrethu.
Mae’r Atodlen i Reoliadau 2000 yn rhagnodi’r dosbarthau ar beiriannau a pheirianwaith y tybir eu bod yn rhan o hereditament at ddibenion prisio ar gyfer ardrethu, gydag eithriadau ar gyfer dosbarthau rhagnodedig penodol.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Dosbarth 1 yn yr Atodlen i Reoliadau 2000 er mwyn mewnosod dau eithriad pellach mewn cysylltiad â pheiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy a mannau gwefru cerbydau trydan. Mae’r eithriadau hyn yn gymwys mewn perthynas â diwrnodau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024 a chyn 1 Ebrill 2035.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p. 41. Diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42). Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2000/1097 (Cy. 75), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2357 (Cy. 195); mae un offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2001 p. 2. Mewnosodwyd adran 45EA gan adran 38(3) o Ddeddf Cyllid (Rhif 2) 2017 (p. 32). Diwygiwyd adran 45EA gan adran 9 o Ddeddf Cyllid (Rhif 2) 2023 (p. 30)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: