- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
28 Tachwedd 2023
Yn dod i rym
30 Tachwedd 2023
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2023.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015(6).
2.—(1) Mae’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (eithriadau i adran 7)—
(a)yn Rhan 3 (tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt byth yn gontractau meddiannaeth)—
(i)ym mharagraff 7(3)(7), ar ddiwedd paragraff (k), mewnosoder—
“(l)trwydded sy’n ymwneud â llety digartrefedd dros dro sector preifat (gweler paragraff 10A).”;
(ii)ar ôl paragraff 10 mewnosoder—
10A.—(1) Llety digartrefedd dros dro sector preifat yw llety—
(a)a ddarperir gan landlord preifat o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod tai lleol yn unol ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau darparu tai i’r digartref yr awdurdod hwnnw, a
(b)sydd o fewn y diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yn erthygl 2 (dehongli) o Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1268 (Cy. 87)), fel y mae’n cael effaith ar 30 Tachwedd 2023, sef y dyddiad y daeth Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/1277 (W. 225)) i rym.
(2) Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod tai lleol” a “swyddogaethau darparu tai i’r digartref” yr ystyron a roddir ym mharagraff 12(5).”;
(b)yn Rhan 4 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd), ym mharagraff 12(1), ar ôl “llety” mewnosoder “, ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrwydded o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 7(3)(l)”.
(3) Yn adran 243(3) (awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill), ar ôl “ac eithrio ym mharagraff” mewnosoder “10A a pharagraff”.
3. Yn erthygl 2 (dehongli) o’r Gorchymyn, yn lle’r diffiniad o “llety Gwely a Brecwast”, mewnosoder—
“ystyr “llety Gwely a Brecwast” (“B&B accommodation”) yw llety (pa un a yw brecwast wedi ei gynnwys ai peidio) sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—
yr amod cyntaf yw—
naill ai nad yw cegin ar gael i’r trwyddedai, neu mae cegin ar gael i’r trwyddedai ond y mae’n cael ei rhannu gan bobl nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd, a
bod y cyfleusterau a ganlyn ar gael i’r trwyddedai ond mae’n bosibl eu bod yn cael eu rhannu gan bobl nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd—
toiled;
cyfleusterau golchi personol;
yr ail amod yw nad yw’r llety ym mherchnogaeth neu’n cael ei reoli gan landlord cymunedol (o fewn ystyr adran 9 (landlordiaid cymunedol) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)), elusen gofrestredig neu sefydliad gwirfoddol(8).”.
Julie Jame
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
28 Tachwedd 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 (eithriadau i adran 7) i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”), yn gwneud diwygiad canlyniadol i adran 243(3) o’r Ddeddf ac yn diwygio’r diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yng Ngorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1268 (Cy. 87)) (“y Gorchymyn”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio Atodlen 2 i’r Ddeddf. Mae rheoliad 2(2)(a)(i) yn mewnosod paragraff newydd 7(3)(l) yn Rhan 3 o’r Atodlen honno. Mae hyn yn darparu nad yw trwydded sy’n ymwneud â llety digartrefedd dros dro sector preifat (fel y’i diffinnir) byth yn gontract meddiannaeth.
Mae rheoliad 2(2)(a)(ii) yn mewnosod paragraff newydd 10A yn Rhan 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf sy’n darparu diffiniad o lety digartrefedd dros dro sector preifat.
Mae rheoliad 2(2)(b) yn diwygio paragraff 12(1), yn Rhan 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf, i’w gwneud yn eglur nad yw paragraff 12 yn gymwys i drwydded o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 7(3)(1) sydd newydd ei fewnosod yn Atodlen 2.
Mae rheoliad 2(3) yn diwygio adran 243(3) o’r Ddeddf i’w gwneud yn eglur nad yw’r diffiniad o “awdurdod tai lleol” a nodir yn yr adran honno yn gymwys mewn perthynas â pharagraff 7(3)(1) sydd newydd ei fewnosod yn Atodlen 2.
Cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, mae contractau meddiannaeth wedi eu hatal rhag codi mewn perthynas â llety digartrefedd dros dro sector preifat, yn rhinwedd rheoliad 16 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022 (O.S. 2022/1172 (Cy. 242)).
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yn erthygl 2 o’r Gorchymyn, er mwyn adlewyrchu nodweddion y llety hwnnw yn fwy eglur.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
Mae diwygiadau i Atodlen 2 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i baragraff 17.
Mae diwygiadau i adran 256(4) ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae’r cyfeiriadau yn adran 142 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac adran 256(3) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Diwygiwyd paragraff 7(3) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 a 5(2) o Atodlen 5 iddi, adran 66 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19) a pharagraff 2(n) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi a rheoliad 2 o O.S. 2022/803 (Cy. 179).
Gweler y diffiniad o “sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yn adran 99 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae adran 99 wedi ei diwygio ond nid yw’r un o’r diwygiadau yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: