- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) Rhaid i reoleiddiwr Cymreig—
(a)cydnabod ei fod wedi cael y cais o fewn un mis i’w gael a rhoi gwybod i’r ceisydd os oes unrhyw ddogfen ar goll o’r cais;
(b)rhoi digon o amser i’r ceisydd i gwblhau gofynion a gweithdrefnau’r broses o wneud cais;
(c)ymdrin â’r cais yn brydlon a hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad yn ysgrifenedig cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynwyd y cais cyflawn.
(2) Caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol i geisydd ddarparu tystiolaeth o’i gymwysterau proffesiynol.
(3) Ni chaiff y dystiolaeth y caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol ei darparu o dan baragraff (2) fod yn ddim mwy nag sy’n angenrheidiol i ddangos bod y ceisydd yn dal cymwysterau proffesiynol sy’n gymaradwy â’r cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol i gael mynediad i’r proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig a’i ddilyn.
(4) Pan fo person a gafodd ei gymwysterau proffesiynol yng Nghymru neu mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig yn cael mynediad i broffesiwn rheoleiddiedig Cymreig, ac yn cael dilyn proffesiwn o’r fath, yn ddarostyngedig i amodau heblaw meddu ar gymwysterau proffesiynol penodol, caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu tystiolaeth i ddangos ei fod yn bodloni’r amodau hynny.
(5) Ni chaiff y dystiolaeth y caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol ei darparu o dan baragraff (4) fod yn ddim mwy nag sy’n angenrheidiol i ddangos bod y ceisydd yn bodloni’r amodau hynny.
(6) Rhaid i reoleiddiwr Cymreig dderbyn copïau o ddogfennau a ddilyswyd yn unol â chyfraith y Deyrnas Unedig yn lle’r rhai gwreiddiol oni bai bod dogfennau gwreiddiol yn ofynnol ganddo i ddiogelu uniondeb y broses gydnabod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: