- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
am 5.00 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
8 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2023
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2023.
2. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 3(b), ar ôl “gwasanaeth llety diogel”, mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(b)yn rheoliad 6(b), ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(c)yn rheoliad 7(b), ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(d)ym mharagraff 30 o Atodlen 1, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(e)ym mharagraff 32 o Atodlen 1, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(f)ar ôl paragraff (ea) o Atodlen 2 mewnosoder y paragraff canlynol—
“(eb)yn achos gwasanaeth preswyl ysgol arbennig, disgrifiad o sut y caiff y trefniadau ar gyfer darparu addysg a’r trefniadau ar gyfer darparu’r gwasanaeth preswyl eu cydgysylltu;”;
(g)ym mharagraff (k) o Atodlen 2, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 5.00 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys ceisiadau i gofrestru a cheisiadau i amrywio cofrestriad o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).
Rhagnodir gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig fel “gwasanaeth rheoleiddiedig” at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 2016 gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau er mwyn integreiddio cyfeiriadau at y gwasanaeth rheoleiddiedig newydd hwn yn Rheoliadau 2017.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.
Mae adrannau 6(1)(d) ac 11(3)(a)(iii) yn cyfeirio at “unrhyw wybodaeth arall a ragnodir”. Diffinnir “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i olygu “wedi ei ragnodi drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru”.
O.S. 2017/1098 (Cy. 278). Diwygiwyd y rheoliadau hyn gan O.S. 2019/233 (Cy. 52) ac O.S. 2020/389 (Cy. 87).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: