Search Legislation

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1355 (Cy. 245)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023

Gwnaed

12 Rhagfyr 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

14 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

1 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 144A(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2):

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw ‌‌Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.

Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017

2.  Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.

3.  Yn yr Atodlen (gofynion o ran ffurf adroddiadau blynyddol), yn lle paragraffau 1 i 4 rhodder—

1.  Rhaid i’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei chynnwys mewn adroddiad blynyddol gael ei nodi o dan y penawdau a ganlyn—

Pennod 1: Crynodeb y Cyfarwyddwr

Pennod 2: Cyd-destun

Pennod 3: Asesu perfformiad

Pennod 4: Gwybodaeth arall

2.  Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 3 gael ei nodi mewn pedair rhan o dan y penawdau a ganlyn—

Pennod 3(a): Pobl

Pennod 3(b): Atal

Pennod 3(c): Partneriaeth ac integreiddio

Pennod 3(d): Llesiant

3.  Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhob rhan o bennod 3 gael ei nodi mewn pedair adran o dan y penawdau a ganlyn—

Adran (i): Beth yr ydym yn ei wybod am ansawdd ac effaith yr hyn yr ydym yn ei wneud?

Adran (ii): Sut yr ydym yn gwybod?

Adran (iii): Beth yr ydym yn ei wneud yn dda a sut y gallwn wella?

Adran (iv): Pa gynnydd a wnaethom ar y meysydd i’w gwella a nodwyd yn adroddiad y llynedd? Pa wahaniaeth a wnaethom?

4.  Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 4 gael ei nodi mewn pedair rhan o dan y ‌penawdau a ganlyn—

Pennod 4(a): Arolygiadau ac adolygiadau

Pennod 4(b): Cwynion a sylwadau

Pennod 4(c): Cyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth

Pennod 4(d): Unrhyw wybodaeth arall.

Darpariaeth drosiannol

4.—(1Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 3 yn cael unrhyw effaith i’r graddau y maent yn ymwneud â’r adroddiadau blynyddol a lunnir gan awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

12 Rhagfyr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae Deddf 2014 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol gan awdurdodau lleol ynghylch arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â ffurf yr adroddiadau hynny. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2017 er mwyn nodi gofynion diwygiedig o ran ffurf adroddiadau blynyddol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn yr adroddiad blynyddol a’r penawdau y mae rhaid cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol oddi tanynt.

Mae rheoliad 4 yn gwneud trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2014 dccc 4 (“Deddf 2014”). Mewnosodwyd adran 144A gan adran 56(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2).

(2)

Gweler y diffiniad o “rheoliadau” yn adran 197 o Ddeddf 2014.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources