- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
7 Mawrth 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
9 Mawrth 2023
Yn dod i rym
1 Ebrill 2023
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
2.—(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y diffiniad o “corff GIG Cymru”—
(i)hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (a);
(ii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“neu
(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;”;
(b)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd gan orchymyn a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006);
mae i “cynrychiolydd” (“representative”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 12(2);.”.
(3) Yn rheoliad 3—
(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Wrth gydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn, ni chaiff corff cyfrifol ddatgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, oni bai bod y person hwnnw yn gynrychiolydd i destun y data.
(3) Ym mharagraff (2), mae i “testun y data” a “data personol” yr un ystyr â “data subject” a “personal data” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno).”
(4) Yn rheoliad 12—
(a)ym mharagraff (1)(a) yn lle “person sy’n cael, neu sydd wedi cael, gwasanaethau gan gorff cyfrifol” rhodder “claf”;
(b)ym mharagraff (9), ar ôl “iawn” mewnosoder “, neu at glaf,”.
(5) Yn rheoliad 14(1)—
(a)yn is-baragraff (c), ar ôl “Cymru” mewnosoder “, oni bai bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi argymell bod y corff GIG Cymru yn cynnig ffurf o iawn o dan Ran 6 o’r Rheoliadau hyn, ac yn yr achos hwnnw, dim ond at ddiben penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli neu a all fodoli, ac i gynnig ffurf o iawn yn unol ag argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y caiff y corff GIG Cymru ymgymryd ag ymchwiliad pellach i’r pryder o dan y Rheoliadau hyn;”;
(b)yn is-baragraff (dd) hepgorer y geiriau o’r cyfeiriad cyntaf at “a” hyd at “ac”;
(c)yn is-baragraff (ff), ar ôl “sifil” mewnosoder “(gan gynnwys y cyfnod cyn gweithredu ar gyfer yr achos hwnnw)”;
(d)hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (ff);
(e)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—
“; neu
(ng)pan mai Addysg a Gwella Iechyd Cymru yw’r corff cyfrifol, pryder nad yw’n ymwneud â darparu gofal iechyd gan y corff hwnnw.”
(6) Yn rheoliad 25(2), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 29(2),”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y Prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2 o’r Prif Reoliadau (dehongli) drwy—
ddiffinio “Awdurdod Iechyd Arbennig” a mewnosod “Awdurdod Iechyd Arbennig” yn y diffiniad o “corff GIG Cymru”, fel y bydd y Prif Reoliadau yn gymwys i Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru ond fel na fyddant yn gymwys i Awdurdodau Iechyd Arbennig trawsffiniol;
mewnosod diffiniad o “cynrychiolydd”.
Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 3 o’r Prif Reoliadau (egwyddorion cyffredinol ar gyfer trin ac ymchwilio i bryderon) i’w gwneud yn glir na chaiff cyrff cyfrifol ddarparu data personol i berson nad yw’n destun y data (oni bai bod y person hwnnw yn gynrychiolydd i destun y data).
Mae rheoliad 2(4) yn gwneud diwygiadau technegol i reoliad 12 o’r Prif Reoliadau (personau y caniateir iddynt hysbysu pryderon) i egluro bod rheoliad 12(1)(a) yn gyfeiriad at glaf a bod cyfeiriadau at glaf yn cynnwys cynrychiolydd i’r claf hwnnw.
Mae rheoliad 2(5) yn gwneud diwygiadau i reoliad 14 o’r Prif Reoliadau (materion a phryderon a eithrir rhag eu hystyried o dan y trefniadau)—
fel y caiff y corff GIG Cymru, pan fo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi argymell bod y corff GIG Cymru yn cynnig ffurf o iawn o dan Ran 6 o’r Prif Reoliadau, ymgymryd ag ymchwiliad pellach i’r pryder o dan y Prif Reoliadau dim ond at ddiben penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli neu a all fodoli ac i gynnig ffurf o iawn yn unol ag argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
fel bod unrhyw bryder a ddatrysir, erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod y’i hysbyswyd, er boddhad i’r person a’i hysbysodd wedi ei eithrio o weddill y Prif Reoliadau (cyn y diwygiad hwn, nid oedd hyn ond yn gymwys i bryderon a hysbyswyd ar lafar);
fel bod y cyfeiriad at “achos sifil” yn is-baragraff (ff) yn cynnwys yn benodol y cyfnod cyn gweithredu ar gyfer yr achos hwnnw;
fel bod cymhwysiad y Prif Reoliadau i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”) wedi ei gyfyngu i ddarparu gofal iechyd gan AaGIC.
Mae rheoliad 2(6) yn gwneud diwygiad technegol i reoliad 25 o’r Prif Reoliadau (dyletswydd i ystyried iawn). Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn glir na chaniateir gwneud cynnig o iawn ariannol o dan reoliad 25 o’r Prif Reoliadau pan fydd y corff GIG Cymru yn ystyried bod gwerth yr atebolrwydd cymwys yn fwy na £25,000.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
2003 p. 43. Mewnosodwyd adran 113(2)(d) gan adran 10 o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008 (mccc 1). Diddymwyd adran 113(3)(b) gan adran 95 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) a pharagraff 45 o Atodlen 5 iddi, a chan adran 166 o’r Ddeddf honno ac Atodlen 15 iddi. Mae diwygiadau eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: