Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011

2.—(1Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “corff GIG Cymru”—

(i)hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (a);

(ii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

neu

(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;;

(b)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd gan orchymyn a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006);

mae i “cynrychiolydd” (“representative”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 12(2);..

(3Yn rheoliad 3—

(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);

(b)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(2) Wrth gydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn, ni chaiff corff cyfrifol ddatgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, oni bai bod y person hwnnw yn gynrychiolydd i destun y data.

(3) Ym mharagraff (2), mae i “testun y data” a “data personol” yr un ystyr â “data subject” a “personal data” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno).

(4Yn rheoliad 12—

(a)ym mharagraff (1)(a) yn lle “person sy’n cael, neu sydd wedi cael, gwasanaethau gan gorff cyfrifol” rhodder “claf”;

(b)ym mharagraff (9), ar ôl “iawn” mewnosoder “, neu at glaf,”.

(5Yn rheoliad 14(1)—

(a)yn is-baragraff (c), ar ôl “Cymru” mewnosoder “, oni bai bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi argymell bod y corff GIG Cymru yn cynnig ffurf o iawn o dan Ran 6 o’r Rheoliadau hyn, ac yn yr achos hwnnw, dim ond at ddiben penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli neu a all fodoli, ac i gynnig ffurf o iawn yn unol ag argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y caiff y corff GIG Cymru ymgymryd ag ymchwiliad pellach i’r pryder o dan y Rheoliadau hyn;”;

(b)yn is-baragraff (dd) hepgorer y geiriau o’r cyfeiriad cyntaf at “a” hyd at “ac”;

(c)yn is-baragraff (ff), ar ôl “sifil” mewnosoder “(gan gynnwys y cyfnod cyn gweithredu ar gyfer yr achos hwnnw)”;

(d)hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (ff);

(e)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

; neu

(ng)pan mai Addysg a Gwella Iechyd Cymru yw’r corff cyfrifol, pryder nad yw’n ymwneud â darparu gofal iechyd gan y corff hwnnw.

(6Yn rheoliad 25(2), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 29(2),”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources