- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
18.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os oes hysbysiad cosb wedi ei gyflwyno i berson o dan reoliad 16(4).
(2) Caiff y person apelio i TPC yn erbyn gosod y gosb.
(3) Rhaid i apêl gael ei gwneud drwy gyflwyno hysbysiad apêl i TPC—
(a)drwy ddefnyddio porth electronig TPC, neu
(b)mewn modd arall y cytunir arno gyda TPC.
(4) Rhaid i’r person gyflwyno’r hysbysiad apêl i TPC fel ei fod yn dod i law o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad cosb i’r person.
(5) Rhaid i hysbysiad apêl nodi—
(a)mai apêl yn erbyn gosod y gosb yw hi;
(b)y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad cosb i’r person.
(6) Rhaid i hysbysiad apêl gael copi o’r hysbysiad cosb i gyd-fynd ag ef.
(7) Os yw’r person yn cyflwyno’r hysbysiad apêl i TPC yn hwyrach na’r amser ar gyfer gwneud yr apêl a bennir yn y rheoliad hwn, rhaid i’r hysbysiad apêl gynnwys cais am estyniad amser sy’n nodi’r rheswm pam na chyflwynwyd yr hysbysiad apêl mewn pryd.
(8) Er gwaethaf paragraff (4), caiff y Llywydd awdurdodi ystyried apêl pan fo’r Llywydd wedi ei fodloni bod methiant y person sydd wedi ei dramgwyddo i gychwyn yr apêl fel y darperir ar ei gyfer gan y rheoliad hwn wedi codi o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: