- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
23.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r SP yn penderfynu nad oes sail gadarn i gynnig, ac—
(a)nad yw’r cynnig wedi ei dynnu’n ôl o dan reoliad 21, a
(b)na chafwyd cytundeb o dan reoliad 22.
(2) Rhaid i’r SP, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad mewn perthynas â chynnig o dan baragraff (1), gyflwyno hysbysiad o’r penderfyniad (“hysbysiad penderfynu”) i’r canlynol—
(a)y cynigydd;
(b)os nad y cynigydd yw’r trethdalwr, y trethdalwr;
(c)unrhyw berson a grybwyllir yn rheoliad 22(2)(e) neu (f);
(d)yr awdurdod perthnasol os yw’r awdurdod wedi cyflwyno hysbysiad i’r SP ei fod yn dymuno cael copi o hysbysiad penderfynu mewn perthynas â’r canlynol—
(i)y cynnig,
(ii)unrhyw gynnig sy’n ymwneud â’r hereditament y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef, neu
(iii)dosbarth penodedig o gynnig neu ddosbarth penodedig o hereditament, a bod y cynnig neu’r hereditament y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef yn dod o fewn y dosbarth hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad penderfynu a gyflwynir i berson a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) i (c) gynnwys—
(a)datganiad bod yr SP o’r farn nad oes sail gadarn i’r cynnig, bod yr SP yn anghytuno â’r newid arfaethedig i’r rhestr a bod yr SP wedi penderfynu—
(i)peidio â newid y rhestr yn unol â’r cynnig, neu
(ii)newid y rhestr heblaw yn unol â’r cynnig;
(b)y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, gan gynnwys datganiad o’r dystiolaeth a’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad;
(c)datganiad mewn perthynas â phob un o seiliau’r cynnig yn nodi pam nad yw’r sail, ym marn yr SP, wedi ei chyflawni, gan gynnwys crynodeb o unrhyw fanylion seiliau’r cynnig nad oedd yr SP yn cytuno â hwy;
(d)manylion am hawl y cynigydd i apelio yn erbyn y penderfyniad.
(4) Ond rhaid i hysbysiad penderfynu a gyflwynir i berson a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) nad yw’n PB pan gyflwynir yr hysbysiad gynnwys—
(a)datganiad bod yr SP o’r farn nad oes sail gadarn i’r cynnig, bod yr SP yn anghytuno â’r newid arfaethedig i’r rhestr a bod yr SP wedi penderfynu—
(i)peidio â newid y rhestr yn unol â’r cynnig, neu
(ii)newid y rhestr heblaw yn unol â’r cynnig;
(b)y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(5) Rhaid i hysbysiad penderfynu a gyflwynir i awdurdod perthnasol o dan baragraff (2)(d) gynnwys—
(a)datganiad bod yr SP o’r farn nad oes sail gadarn i’r cynnig, bod yr SP yn anghytuno â’r newid arfaethedig i’r rhestr a bod yr SP wedi penderfynu—
(i)peidio â newid y rhestr yn unol â’r cynnig, neu
(ii)newid y rhestr heblaw yn unol â’r cynnig;
(b)pan fo’r SP o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny—
(i)y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, gan gynnwys datganiad o’r dystiolaeth a’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad, a
(ii)datganiad mewn perthynas â phob un o seiliau’r cynnig yn nodi pam nad yw’r sail, ym marn yr SP, wedi ei chyflawni, gan gynnwys crynodeb o unrhyw fanylion seiliau’r cynnig nad oedd yr SP yn cytuno â hwy.
(6) Os bydd yr SP yn penderfynu newid y rhestr heblaw yn unol â’r cynnig, rhaid i’r SP wneud hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: