Hereditamentau perthnasol
31.—(1) Mae’r rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys, fel y’u haddaswyd gan baragraffau (3) a (4), i hereditament (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “hereditament perthnasol”) y mae’n ofynnol gan reoliadau o dan adran 53 o’r Ddeddf iddo gael ei ddangos mewn rhestr ganolog a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, fel pe bai—
(a)unrhyw gyfeiriad at restr leol yn gyfeiriad at y rhestr ganolog;
(b)unrhyw gyfeiriad at borth electronig yr SP yn gyfeiriad at y cyfleuster ar-lein a ddarperir gan y SPC i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â chynigion ar gyfer newid rhestr ganolog a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023;
(c)unrhyw gyfeiriad at SP yn gyfeiriad at y SPC;
(d)unrhyw gyfeiriad at newid rhestr yn gyfeiriad at ei newid mewn perthynas â disgrifiad o hereditamentau.
(2) Y rheoliadau yw—
(a)rheoliad 4, ac eithrio paragraffau (1)(k) ac (l) a (3),
(b)rheoliadau 5 i 14,
(c)rheoliad 15, ac eithrio paragraffau (4) a (5),
(d)rheoliadau 16 i 22,
(e)rheoliad 23, ac eithrio paragraffau (2)(d) a (4),
(f)rheoliadau 24 i 26,
(g)rheoliad 27, ac eithrio paragraffau (3) a (4) ac, i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraffau (3) a (4), paragraffau (2) a (7),
(h)rheoliad 29, ac
(i)rheoliad 30, ac eithrio paragraff (3)(b).
(3) Mae rheoliad 4(1)(o) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at adran 42 o’r Ddeddf yn gyfeiriad at adran 53 o’r Ddeddf.
(4) Mae rheoliad 30(1) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at yr awdurdod perthnasol a’i brif swyddfa yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru.
(5) Yr un pryd ag y mae’r SPC yn cyflwyno copi o gynnig i’r trethdalwr o dan reoliad 15(1) mewn perthynas â hereditament perthnasol, rhaid i’r SPC gyflwyno copi i Weinidogion Cymru.