Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023

Hysbysu am newid

30.—(1O fewn 28 o ddiwrnodau i newid rhestr, rhaid i SP hysbysu’r awdurdod perthnasol o effaith y newid; a rhaid i’r awdurdod perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, newid y copi o’r rhestr a adneuwyd yn ei brif swyddfa o dan adran 41(6B)(1) o’r Ddeddf.

(2Heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i’r SP hysbysu’r trethdalwr ac unrhyw gynigydd, fel y’i diffinnir ym mharagraff (5), am y canlynol—

(a)effaith y newid, a

(b)effaith cymhwyso’r Rhan hon, a Rhan 5, mewn perthynas â’r newid.

(3Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â newidiadau a wneir i gywiro gwall clerigol yn unig, neu i adlewyrchu—

(a)newid yng nghyfeiriad yr hereditament o dan sylw;

(b)newid yn ardal yr awdurdod perthnasol.

(4Nid yw paragraff (2)(b) yn gymwys ychwaith mewn perthynas â newid a wneir i adlewyrchu—

(a)penderfyniad gan yr SP bod sail gadarn i gynnig;

(b)penderfyniad, mewn perthynas â’r hereditament sy’n destun y cynnig, gan TPC, yr Uwch Dribiwnlys neu lys;

(c)cytundeb o dan reoliad 22.

(5Y cynigydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yw unrhyw gynigydd yr atgyfeiriwyd apêl mewn perthynas â’r hereditament ar ei ran i TPC o dan reoliad 24(1) ac y mae ei apêl naill ai—

(a)heb gael ei phenderfynu gan TPC, neu

(b)wedi ei phenderfynu felly a naill ai—

(i)bod apêl wedi ei gwneud i’r Uwch Dribiwnlys a heb gael ei phenderfynu, neu

(ii)nad yw’r amser ar gyfer gwneud apêl i’r Uwch Dribiwnlys wedi dod i ben eto.

(1)

Mewnosodwyd adran 41(6B) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 19 o Atodlen 5 iddi.