- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
30.—(1) O fewn 28 o ddiwrnodau i newid rhestr, rhaid i SP hysbysu’r awdurdod perthnasol o effaith y newid; a rhaid i’r awdurdod perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, newid y copi o’r rhestr a adneuwyd yn ei brif swyddfa o dan adran 41(6B)(1) o’r Ddeddf.
(2) Heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i’r SP hysbysu’r trethdalwr ac unrhyw gynigydd, fel y’i diffinnir ym mharagraff (5), am y canlynol—
(a)effaith y newid, a
(b)effaith cymhwyso’r Rhan hon, a Rhan 5, mewn perthynas â’r newid.
(3) Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â newidiadau a wneir i gywiro gwall clerigol yn unig, neu i adlewyrchu—
(a)newid yng nghyfeiriad yr hereditament o dan sylw;
(b)newid yn ardal yr awdurdod perthnasol.
(4) Nid yw paragraff (2)(b) yn gymwys ychwaith mewn perthynas â newid a wneir i adlewyrchu—
(a)penderfyniad gan yr SP bod sail gadarn i gynnig;
(b)penderfyniad, mewn perthynas â’r hereditament sy’n destun y cynnig, gan TPC, yr Uwch Dribiwnlys neu lys;
(c)cytundeb o dan reoliad 22.
(5) Y cynigydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yw unrhyw gynigydd yr atgyfeiriwyd apêl mewn perthynas â’r hereditament ar ei ran i TPC o dan reoliad 24(1) ac y mae ei apêl naill ai—
(a)heb gael ei phenderfynu gan TPC, neu
(b)wedi ei phenderfynu felly a naill ai—
(i)bod apêl wedi ei gwneud i’r Uwch Dribiwnlys a heb gael ei phenderfynu, neu
(ii)nad yw’r amser ar gyfer gwneud apêl i’r Uwch Dribiwnlys wedi dod i ben eto.
Mewnosodwyd adran 41(6B) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 19 o Atodlen 5 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: