- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
16 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
18 Ionawr 2023
Yn dod i rym
10 Chwefror 2023
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2023.
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “ysgol” hepgorer “, neu ysgol arbennig nad yw awdurdod lleol yn ei chynnal”.
(3) Yn rheoliad 4, yn lle paragraff (8) rhodder—
“(8) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau i’w gymryd fel cyfeiriad at 376 o sesiynau mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol 2022–2023.”
(4) Yn lle rheoliad 5 rhodder—
“5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2022–2023, 2023–2024 a 2024–2025 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy’n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill) neu i baratoi a chynllunio, mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol—
(a)lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion yn yr ysgol;
(b)gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(4) ar gyfer disgyblion yn yr ysgol;
(c)y cwricwlwm sydd i’w ddarparu yn yr ysgol o dan Ran 2 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(5).
(2) Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na dwy sesiwn ysgol ym mhob blwyddyn ysgol.
(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Ionawr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gwneud darpariaeth ynghylch hyd y diwrnod ysgol, sydd fel arfer yn cael ei rannu yn ddwy sesiwn gydag egwyl yn y canol, ac i ysgolion gyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r diffiniad o “ysgol” yn rheoliad 3 o Reoliadau 2003, i adlewyrchu diwygiadau a wnaed i adran 342 o Ddeddf Addysg 1996(6) gan adran 57 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(7). Bydd Rheoliadau 2003 felly yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol.
Maent yn diwygio rheoliad 4(8) o Reoliadau 2003 i leihau isafswm nifer y sesiynau ysgol y mae rhaid eu cynnal yn y flwyddyn ysgol 2022–2023 o 380 i 376. Mae hyn yn adlewyrchu’r gwyliau banc ychwanegol ar 19 Medi 2022 ar gyfer Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ac ar 8 Mai 2023 i nodi achlysur Coroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III.
Maent hefyd yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2003 i ddarparu i ddim mwy na dwy sesiwn ym mhob un o’r blynyddoedd ysgol 2022–2023, 2023–2024 a 2024–2025 gyfrif fel sesiynau pan gyfarfu’r ysgol, os yw’r sesiynau hynny wedi eu neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i unrhyw un neu ragor o’r materion a ragnodir.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Deddfwriaeth a Llywodraethiant, Yr Is-Adran Effeithiolrwydd Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Am ystyr “regulations” gweler adran 579(1).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2003/3231 (Cy. 311), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1262 (Cy. 119), O.S. 2008/1739 (Cy. 171), O.S. 2011/149 (Cy. 33), O.S. 2012/248 (Cy. 41), O.S. 2019/1131 (Cy. 196), O.S. 2020/848 (Cy. 187), O.S. 2021/1476 (Cy. 378) ac O.S. 2022/61 (Cy. 23).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: