- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
18 Ionawr 2023
Yn dod i rym
20 Ionawr 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1), a pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023.LL+C
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ionawr 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);
ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(3), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
2. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae rheoliad 9 (annibynyddion) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).LL+C
(2) Ar ôl paragraff (2)(f) mewnosoder—
“(g)person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(4), neu y tu allan i’r rheolau hynny, neu sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, o fewn ystyr adran 2(5) o’r Ddeddf honno, pan fo’r person—
(i)yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022;
(ii)wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022; a
(iii)yn preswylio gyda’r ceisydd mewn cysylltiad â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin(6).”
(3) ym mharagraff (3) yn lle “2(a) i (c) ac (f)” rhodder “2(a) i (c), (f) ac (g)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Mae rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).LL+C
(2) Ar ôl is-baragraff (m)(ii), hepgorer “neu”.
(3) Ar ddiwedd is-baragraff (n), yn lle “.” rhodder “; neu”.
(4) Ar ôl is-baragraff (n) mewnosoder—
“(o)yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ac—
(i)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971; neu
(ii)sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno.”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Mae rheoliad 29 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).LL+C
(2) Ym mharagraff (1) yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r” rhodder “Mae’r”.
(3) Hepgorer paragraff (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
6. Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr), ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—LL+C
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.95” rhodder “£16.40”;
(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.30” rhodder “£5.45”;
(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£224.00” rhodder “£236.00”;
(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” rhodder “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” yn y drefn honno;
(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£389.00”, “£484.00” ac “£13.35” rhodder “£410.00”, “£511.00” ac “£13.70” yn y drefn honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
7. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—LL+C
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£197.10” rhodder “£217.00”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£294.90” rhodder “£324.70”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£294.90” a “£97.80” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;
(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;
(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;
(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£69.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£27.44” rhodder “£30.17”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;
(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
8. Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.95” rhodder “£16.40”;
(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.30” rhodder “£5.45”;
(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£224.00” rhodder “£236.00”;
(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” rhodder “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” yn y drefn honno;
(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£389.00”, “£484.00” ac “£13.35” rhodder “£410.00”, “£511.00” ac “£13.70” yn y drefn honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
9. Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£82.10”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£90.40” ac yn lle “£65.00” rhodder “£71.55”;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£82.10” rhodder “£90.40”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£128.95” rhodder “£141.95”;
(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;
(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;
(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£36.20” a “£51.60” rhodder “£39.85” a “£56.80” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£69.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;
(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”;
(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” rhodder “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” yn y drefn honno;
(e)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i)ym mharagraff 23, yn lle “£30.60” rhodder “£33.70”;
(ii)ym mharagraff 24, yn lle “£40.60” rhodder “£44.70”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
10. Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(7) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 11 i 16.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Mae paragraff 9 (annibynyddion) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).LL+C
(2) Ar ôl is-baragraff (2)(f) mewnosoder—
“(g)unrhyw berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971, neu y tu allan i’r rheolau hynny, neu sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, o fewn ystyr adran 2 o’r Ddeddf honno, pan fo’r person—
(i)yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022;
(ii)wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022; a
(iii)yn preswylio gyda’r ceisydd mewn cysylltiad â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin.”
(3) yn is-baragraff (3) yn lle “2(a) i (c) ac (f)” rhodder “2(a) i (c), (f) ac (g)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Mae paragraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).LL+C
(2) Ar ôl paragraff (m)(ii), hepgorer “neu”.
(3) Ar ddiwedd paragraff (n), yn lle “.” rhodder “; neu”.
(4) Ar ôl paragraff (n) mewnosoder—
“(o)yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ac—
(i)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 neu
(ii)sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno.”
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
13.—(1) Mae paragraff 20 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).LL+C
(2) Yn is-baragraff (1) yn lle “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid” rhodder “Nid”.
(3) Hepgorer is-baragraff (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
14. Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.95” rhodder “£16.40”;
(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.30” rhodder “£5.45”;
(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£224.00” rhodder “£236.00”;
(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” rhodder “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” yn y drefn honno;
(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£389.00”, “£484.00” ac “£13.35” rhodder “£410.00”, “£511.00” ac “£13.70” yn y drefn honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
15. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—LL+C
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£197.10” rhodder “£217.00”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£294.90” rhodder “£324.70”;
(iii)yn is-baragraff (3) o’r testun Saesneg, yn lle “£294.90” a “£97.80” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;
(iv)yn is-baragraff (3) o’r testun Cymraeg, yn lle “£294.90” a “£97.90” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;
(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;
(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;
(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£69.40” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£27.44” rhodder “£30.17”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;
(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
16. Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£82.10”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£90.40” ac yn lle “£65.00” rhodder “£71.55”;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£82.10” rhodder “£90.40”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£128.95” rhodder “£141.95”;
(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;
(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;
(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£36.20” a “£51.60” rhodder “£39.85” a “£56.80” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£69.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;
(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”;
(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” rhodder “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” yn y drefn honno;
(e)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i)ym mharagraff 23, yn lle “£30.60” rhodder “£33.70”;
(ii)ym mharagraff 24, yn lle “£40.60” rhodder “£44.70”.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Ionawr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”), ac Atodlen 1B iddi.
Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau a gymhwysir i’r symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.
Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “annibynnydd” yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fel bod rhaid i berson y rhoddwyd caniatâd iddo iddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, neu y rhoddwyd hawl iddo i breswylio yn y Deyrnas Unedig, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia ac sy’n preswylio gyda cheisydd o dan y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, gael ei drin fel person sy’n ddibynnol ar y ceisydd i gyfrifo hawlogaeth i ddisgownt o ran y dreth gyngor. Mae rheoliad 11 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae rheoliad 4 yn mewnosod categori newydd yn y rhestr o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr at ddiben y meini prawf preswylio a nodir yn rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Mae’r categori newydd yn ymwneud â phersonau y rhoddir caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo, neu bersonau sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, pan fo’r person hwnnw yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 a’i fod wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022. Effaith y diwygiad yw sicrhau nad yw’r personau hynny yn cael eu trin fel rhai nad ydynt yn preswylio fel arfer ym Mhrydain Fawr i benderfynu cymhwystra ceisydd am ostyngiad o ran y dreth gyngor. Mae rheoliad 12 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 29 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig sy’n pennu bod personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn ddosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992 ac ni chaniateir eu cynnwys yng nghynllun awdurdod bilio. Mae’r diwygiad yn dileu’r eithriad nad yw person sy’n wladolyn o wladwriaeth sydd wedi cadarnhau y Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol neu wladwriaeth sydd wedi cadarnhau Siarter Gymdeithasol Cyngor Ewrop ac sy’n bresennol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig yn cael ei drin fel person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo. Mae rheoliad 13 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 6 i 9 yn uwchraddio ffigurau penodol a ddefnyddir i gyfrifo a gaiff person hawlio gostyngiad, ac os felly, swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn gymwys i ddidyniadau annibynyddion (addasiadau a wneir i uchafswm y gostyngiad y gall person ei gael gan ystyried oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd) a’r swm cymwysadwy (y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef er mwyn penderfynu swm y gostyngiad, os oes un, y gall fod modd i’r ceisydd ei gael). Mae nifer o ffigurau eraill hefyd yn cael eu huwchraddio i adlewyrchu newidiadau i hawlogaethau amrywiol eraill. Mae rheoliadau 14 i 16 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn. Mae rheoliad 15 hefyd yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg y Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi’i gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17). Mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno, a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi. Gweler adran 116(1) o Ddeddf 1992 am y diffiniad o “prescribed”.
Mae’r cyfeiriad yn adran 13A(8) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fel y’i diwygiwyd gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), a pharagraff 2(7)(c) o Atodlen 1 iddi.
O.S. 2013/3029 (Cy. 301), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20), O.S. 2018/14 (Cy. 7), O.S. 2019/11 (Cy. 5), O.S. 2020/16 (Cy. 2), O.S. 2021/34 (Cy. 9) ac O.S. 2022/51 (Cy. 19).
Amnewidiwyd adran 2 gan adran 39(2) o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2019/745.
https://www.gov.uk/guidance/immigration-rules/immigration-rules-appendix-ukraine-scheme. Gosodir y Rheolau Mewnfudo o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77). Mae’r rheolau mewn perthynas â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin wedi eu nodi yn UKR 11.1 i UKR 20.2 o’r atodiad. Mae “permission to enter” a “permission to stay” wedi eu diffinio yn rheol 6.2 o Gyflwyniad y Rheolau Mewnfudo (https://www.gov.uk/guidance/immigration-rules/immigration-rules-introduction#intro6).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: