Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 47 (Cy. 6)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

18 Ionawr 2023

Yn dod i rym

20 Ionawr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1), a pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023.LL+C

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ionawr 2023.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);

ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(3), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013LL+C

2.  Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

3.—(1Mae rheoliad 9 (annibynyddion) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).LL+C

(2Ar ôl paragraff (2)(f) mewnosoder—

(g)person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(4), neu y tu allan i’r rheolau hynny, neu sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, o fewn ystyr adran 2(5) o’r Ddeddf honno, pan fo’r person—

(i)yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022;

(ii)wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022; a

(iii)yn preswylio gyda’r ceisydd mewn cysylltiad â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin(6).

(3ym mharagraff (3) yn lle “2(a) i (c) ac (f)” rhodder “2(a) i (c), (f) ac (g)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

4.—(1Mae rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).LL+C

(2Ar ôl is-baragraff (m)(ii), hepgorer “neu”.

(3Ar ddiwedd is-baragraff (n), yn lle “.” rhodder “; neu”.

(4Ar ôl is-baragraff (n) mewnosoder—

(o)yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ac—

(i)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971; neu

(ii)sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

5.—(1Mae rheoliad 29 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).LL+C

(2Ym mharagraff (1) yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r” rhodder “Mae’r”.

(3Hepgorer paragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

6.  Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr), ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—LL+C

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.95” rhodder “£16.40”;

(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.30” rhodder “£5.45”;

(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£224.00” rhodder “£236.00”;

(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” rhodder “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” yn y drefn honno;

(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£389.00”, “£484.00” ac “£13.35” rhodder “£410.00”, “£511.00” ac “£13.70” yn y drefn honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

7.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—LL+C

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£197.10” rhodder “£217.00”;

(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£294.90” rhodder “£324.70”;

(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£294.90” a “£97.80” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;

(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;

(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£69.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£27.44” rhodder “£30.17”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

8.  Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.95” rhodder “£16.40”;

(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.30” rhodder “£5.45”;

(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£224.00” rhodder “£236.00”;

(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” rhodder “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” yn y drefn honno;

(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£389.00”, “£484.00” ac “£13.35” rhodder “£410.00”, “£511.00” ac “£13.70” yn y drefn honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

9.  Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£82.10”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£90.40” ac yn lle “£65.00” rhodder “£71.55”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£82.10” rhodder “£90.40”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£128.95” rhodder “£141.95”;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;

(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;

(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£36.20” a “£51.60” rhodder “£39.85” a “£56.80” yn y drefn honno;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£69.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”;

(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” rhodder “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” yn y drefn honno;

(e)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—

(i)ym mharagraff 23, yn lle “£30.60” rhodder “£33.70”;

(ii)ym mharagraff 24, yn lle “£40.60” rhodder “£44.70”.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013LL+C

10.  Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(7) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 11 i 16.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

11.—(1Mae paragraff 9 (annibynyddion) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).LL+C

(2Ar ôl is-baragraff (2)(f) mewnosoder—

(g)unrhyw berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971, neu y tu allan i’r rheolau hynny, neu sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, o fewn ystyr adran 2 o’r Ddeddf honno, pan fo’r person—

(i)yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022;

(ii)wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022; a

(iii)yn preswylio gyda’r ceisydd mewn cysylltiad â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin.

(3yn is-baragraff (3) yn lle “2(a) i (c) ac (f)” rhodder “2(a) i (c), (f) ac (g)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

12.—(1Mae paragraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).LL+C

(2Ar ôl paragraff (m)(ii), hepgorer “neu”.

(3Ar ddiwedd paragraff (n), yn lle “.” rhodder “; neu”.

(4Ar ôl paragraff (n) mewnosoder—

(o)yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ac—

(i)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 neu

(ii)sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

13.—(1Mae paragraff 20 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).LL+C

(2Yn is-baragraff (1) yn lle “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid” rhodder “Nid”.

(3Hepgorer is-baragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

14.  Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.95” rhodder “£16.40”;

(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.30” rhodder “£5.45”;

(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£224.00” rhodder “£236.00”;

(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” rhodder “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” yn y drefn honno;

(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£389.00”, “£484.00” ac “£13.35” rhodder “£410.00”, “£511.00” ac “£13.70” yn y drefn honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

15.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—LL+C

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£197.10” rhodder “£217.00”;

(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£294.90” rhodder “£324.70”;

(iii)yn is-baragraff (3) o’r testun Saesneg, yn lle “£294.90” a “£97.80” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;

(iv)yn is-baragraff (3) o’r testun Cymraeg, yn lle “£294.90” a “£97.90” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;

(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;

(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£69.40” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£27.44” rhodder “£30.17”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

16.  Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—LL+C

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£82.10”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£90.40” ac yn lle “£65.00” rhodder “£71.55”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£82.10” rhodder “£90.40”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£128.95” rhodder “£141.95”;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;

(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;

(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£36.20” a “£51.60” rhodder “£39.85” a “£56.80” yn y drefn honno;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£69.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”;

(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” rhodder “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” yn y drefn honno;

(e)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—

(i)ym mharagraff 23, yn lle “£30.60” rhodder “£33.70”;

(ii)ym mharagraff 24, yn lle “£40.60” rhodder “£44.70”.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Ionawr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”), ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau a gymhwysir i’r symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “annibynnydd” yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fel bod rhaid i berson y rhoddwyd caniatâd iddo iddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, neu y rhoddwyd hawl iddo i breswylio yn y Deyrnas Unedig, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia ac sy’n preswylio gyda cheisydd o dan y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, gael ei drin fel person sy’n ddibynnol ar y ceisydd i gyfrifo hawlogaeth i ddisgownt o ran y dreth gyngor. Mae rheoliad 11 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 4 yn mewnosod categori newydd yn y rhestr o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr at ddiben y meini prawf preswylio a nodir yn rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Mae’r categori newydd yn ymwneud â phersonau y rhoddir caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo, neu bersonau sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, pan fo’r person hwnnw yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 a’i fod wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022. Effaith y diwygiad yw sicrhau nad yw’r personau hynny yn cael eu trin fel rhai nad ydynt yn preswylio fel arfer ym Mhrydain Fawr i benderfynu cymhwystra ceisydd am ostyngiad o ran y dreth gyngor. Mae rheoliad 12 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 29 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig sy’n pennu bod personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn ddosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992 ac ni chaniateir eu cynnwys yng nghynllun awdurdod bilio. Mae’r diwygiad yn dileu’r eithriad nad yw person sy’n wladolyn o wladwriaeth sydd wedi cadarnhau y Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol neu wladwriaeth sydd wedi cadarnhau Siarter Gymdeithasol Cyngor Ewrop ac sy’n bresennol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig yn cael ei drin fel person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo. Mae rheoliad 13 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 6 i 9 yn uwchraddio ffigurau penodol a ddefnyddir i gyfrifo a gaiff person hawlio gostyngiad, ac os felly, swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn gymwys i ddidyniadau annibynyddion (addasiadau a wneir i uchafswm y gostyngiad y gall person ei gael gan ystyried oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd) a’r swm cymwysadwy (y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef er mwyn penderfynu swm y gostyngiad, os oes un, y gall fod modd i’r ceisydd ei gael). Mae nifer o ffigurau eraill hefyd yn cael eu huwchraddio i adlewyrchu newidiadau i hawlogaethau amrywiol eraill. Mae rheoliadau 14 i 16 yn gwneud yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn. Mae rheoliad 15 hefyd yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg y Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi’i gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17). Mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno, a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi. Gweler adran 116(1) o Ddeddf 1992 am y diffiniad o “prescribed”.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn adran 13A(8) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fel y’i diwygiwyd gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), a pharagraff 2(7)(c) o Atodlen 1 iddi.

(5)

Amnewidiwyd adran 2 gan adran 39(2) o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2019/745.

(6)

https://www.gov.uk/guidance/immigration-rules/immigration-rules-appendix-ukraine-scheme. Gosodir y Rheolau Mewnfudo o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77). Mae’r rheolau mewn perthynas â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin wedi eu nodi yn UKR 11.1 i UKR 20.2 o’r atodiad. Mae “permission to enter” a “permission to stay” wedi eu diffinio yn rheol 6.2 o Gyflwyniad y Rheolau Mewnfudo (https://www.gov.uk/guidance/immigration-rules/immigration-rules-introduction#intro6).