Search Legislation

Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 475 (Cy. 71)

Adeiladu, Cymru

Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023

Gwnaed

26 Ebrill 2023

Yn dod i rym

5 Mai 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 106A(2) a 146(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 106A(4)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract adeiladu i’r graddau y mae’n ymwneud â chynnal gweithrediadau adeiladu yng Nghymru.

(3Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Mai 2023.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “contract adeiladu” yr ystyr a roddir i “construction contract” yn adran 104 o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996;

mae i “gweithrediadau adeiladu” yr ystyr a roddir i “construction operations” yn adran 105 o’r Ddeddf.

Caffael uniongyrchol ar gyfer prosiectau cwsmeriaid

3.—(1Nid yw Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys i gontract adeiladu sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—

(a)mae’n cynnwys datganiad sy’n nodi ei fod yn gontract o’r fath;

(b)mae un o’r partïon i’r contract yn ymgymerwr carthffosiaeth neu’n ymgymerwr dŵr;

(c)mae’r gweithrediadau adeiladu y mae’r contract yn ymwneud â hwy yn gysylltiedig â phrosiect seilwaith a ddynodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr yn achos o gaffael uniongyrchol ar gyfer prosiect cwsmeriaid yn unol ag amodau penodi’r ymgymerwr carthffosiaeth neu’r ymgymerwr dŵr;

(d)mae’r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus o dan y contract yn cynnwys, o leiaf yn rhannol, daliadau rheolaidd—

(i)sy’n cael eu pennu’n rhannol drwy gyfeirio at gostau gwirioneddol y gweithrediadau adeiladu y mae’r contract yn ymwneud â hwy, a

(ii)sy’n dod yn daladwy ar ôl i un rhan o leiaf o’r gweithrediadau adeiladu hynny gael ei chwblhau ac y gellir cyflawni gwasanaeth carthffosiaeth neu ddŵr.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “ymgymerwr carthffosiaeth” ac “ymgymerwr dŵr” yw ymgymerwr carthffosiaeth neu ymgymerwr dŵr, yn ôl y digwydd, a benodir o dan adran 6(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(2)

Caffael uniongyrchol ar gyfer is-gontractau prosiectau cwsmeriaid

4.—(1Mae contract adeiladu wedi ei eithrio rhag gweithrediad adran 110(1A) o’r Ddeddf os yw’n gontract yn unol ag ef y mae parti i gontract perthnasol wedi is-gontractio i berson arall rai neu bob un o’i rwymedigaethau o dan y contract hwnnw i gynnal gweithrediadau adeiladu, neu i drefnu i eraill gynnal gweithrediadau adeiladu.

(2Ym mharagraff (1), mae contract perthnasol yn gontract sydd wedi ei eithrio rhag gweithrediad Rhan 2 o’r Ddeddf yn unol ag erthygl 3.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

26 Ebrill 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae Rhan 2 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth o ran telerau contractau adeiladu a materion cysylltiedig. Mae adran 106A(2) o’r Ddeddf honno yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddatgymhwyso, drwy orchymyn, unrhyw un neu bob un o’r darpariaethau yn Rhan 2 (i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru a Lloegr) mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad o gontractau adeiladu sy’n ymwneud ag ymgymryd â gweithrediadau adeiladu penodol yng Nghymru.

Mae erthygl 3 yn datgymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf mewn perthynas â chontractau prosiectau seilwaith penodol yng Nghymru pan fo un o’r partïon i’r contract yn ymgymerwr carthffosiaeth neu ddŵr, yn ddarostyngedig i’r gofynion a ganlyn. Rhaid i’r contract ymwneud â phrosiect a ddynodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr yn achos o gaffael uniongyrchol ar gyfer prosiect cwsmeriaid yn unol ag amodau penodi’r ymgymerwr perthnasol. Rhaid i gontractau o’r fath hefyd gynnwys gwneud taliadau rheolaidd drwy gyfeirio at gostau gwirioneddol yr eir iddynt ac a ddaw yn ddyledus ar ôl i un neu ragor o’r rhannau o’r gweithrediadau adeiladu gael eu cwblhau ac y gellir cyflawni gwasanaeth carthffosiaeth neu ddŵr.

Mae erthygl 4 yn datgymhwyso adran 110(1A) o’r Ddeddf mewn perthynas â’r math o gontract y cyfeirir ato, uchod, pan fo parti i’r contract hwnnw yn ymrwymo i is-gontract. Mae adran 110(1A) o’r Ddeddf yn darparu nad yw’r gofyniad i gontractau ddarparu trefn ddigonol ar gyfer pennu pa daliadau sy’n dod yn ddyledus a phryd o dan y contract wedi ei fodloni os yw’r taliad yn amodol ar gyflawni rhwymedigaethau o dan gontract arall.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Ddŵr, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1996 p. 53; mewnosodwyd adran 106A gan adran 138(3) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20). Mae’r cyfeiriad yn Neddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources