- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
17 Mai 2023
Yn dod i rym
18 Mai 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 255 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).
Yn unol ag adran 256(3) a (5) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023 a deuant i rym ar 18 Mai 2023.
2.—(1) Mae Deddf Rhenti 1977(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 2(4) (tenantiaid statudol a thenantiaethau statudol) yn lle is-adran (1)(b), rhodder—
“(b)Part 1 of Schedule 1 to this Act shall have effect for determining what person (if any)—
(i)is the statutory tenant of the dwelling-house, or (as the case may be),
(ii)in the case of a dwelling-house in England, is entitled to an assured tenancy of a dwelling-house by succession, or
(iii)in the case of a dwelling-house in Wales, is entitled to a secure contract of a dwelling-house by succession,
at any time after the death of a person who, immediately before that person’s death, was either a protected tenant of the dwelling-house or a statutory tenant of it by virtue of paragraph (a) above.”
(3) Yn adran 152(5) (dehongli)—
(a)yn is-adran (1), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
““secure contract” has the same meaning as in the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1) (see section 8 of that Act);”, a
(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3) Section 239 of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1) abolishes, in relation to Wales, restricted contracts and protected shorthold tenancies and provides for the cessation of certain protected and statutory tenancies.”
(4) Yn Rhan 1 (tenantiaid statudol drwy olyniaeth) o Atodlen 1 (tenantiaethau statudol)—
(a)ym mharagraff 3(1)(6)—
(i)ar ôl “shall” mewnosoder
“—
(a)in the case of a dwelling-house in England,”, a
(ii)ar ôl “succession” mewnosoder
“, or
(b)in the case of a dwelling-house in Wales, be entitled to a secure contract of the dwelling-house by succession”;
(b)ym mharagraff 5(7)—
(i)ar ôl “entitled” mewnosoder
“—
(a)in the case of a dwelling-house in England,”, a
(ii)ar ôl “succession”, mewnosoder
“, or
(b)in the case of a dwelling-house in Wales, to a secure contract of the dwelling-house by succession”;
(c)ym mharagraff 6(1)(8)—
(i)ar ôl “entitled” mewnosoder
“—
(i)in the case of a dwelling-house in England,”, a
(ii)ar ôl “succession” mewnosoder
“, or
(ii)in the case of a dwelling-house in Wales, to a secure contract of the dwelling-house by succession”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
17 Mai 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Rhenti 1977 (“Deddf 1977”) o ganlyniad i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).
Mae adran 239 o Ddeddf 2016 yn diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraill anheddau yng Nghymru ac mae Deddf 2016 yn darparu ar gyfer eu trosi yn gontractau meddiannaeth, y mae dau fath ohonynt: contractau diogel a chontractau safonol.
Mae rheoliad 2(2), (3)(a) a (4) yn diwygio adrannau 2 a 152 o Ddeddf 1977 a Rhan 1 o Atodlen 1 iddi er mwyn mewnosod cyfeiriadau at gontractau diogel, o ganlyniad i ddiddymu tenantiaethau sicr yng Nghymru. Mae rheoliad 2(3)(b) yn mewnosod darpariaeth yn adran 152 o Ddeddf 1977 sy’n cyfeirio’r darllenydd at y diddymiadau perthnasol a wneir gan adran 239 o Ddeddf 2016.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.
2016 dccc 1. Diwygiwyd adran 255(2) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 ac 8 o Atodlen 5 iddi.
Mae’r cyfeiriad yn adran 256(3) a (5) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Diwygiwyd adran 2 gan adran 39(1) o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
Diwygiwyd adran 152(1) gan adran 152 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51) ac Atodlen 26 iddi.
Diwygiwyd paragraff 3(1) gan adran 39 o Ddeddf Tai 1988 a pharagraffau 2 a 3(a) i (c) o Ran 1 o Atodlen 4 iddi.
Diwygiwyd paragraff 5 gan adran 39 o Ddeddf Tai 1988 a pharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 4 iddi.
Diwygiwyd paragraff 6 gan adran 39 o Ddeddf Tai 1988 a pharagraff 6 o Ran 1 o Atodlen 4 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: