- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau i’r Cyngor mewn perthynas â phersonau y mae’n ofynnol iddynt gofrestru yn y gofrestr y mae’r Cyngor yn ei chynnal yn unol ag adran 9 o’r Ddeddf honno (“y Gofrestr”).
Mae’r categorïau o bersonau cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer ym mharagraff 2 o’r Atodlen honno i ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru. Yn unol â hynny, mae Rhan 6 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Tabl 1 ym mharagraff 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014 er mwyn ychwanegu’r categorïau a ganlyn o bersonau cofrestredig—
(a)athro neu athrawes ysgol annibynnol,
(b)gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol,
(c)athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol, a
(d)gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol. Ni chaniateir i’r gwasanaethau hyn gael eu darparu mewn neu ar ran ysgolion annibynnol ond gan bersonau sydd wedi eu cofrestru â’r Cyngor yn y categori athro neu athrawes ysgol annibynnol. Mae’r Rhan hon hefyd yn darparu mai dim ond personau sydd wedi eu cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol a gaiff gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol. Fodd bynnag, nid yw’r gofynion i gofrestru a nodir yn y Rhan hon yn gymwys i bersonau sy’n darparu’r gwasanaethau neu’n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau fel gwirfoddolwyr.
Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn yn pennu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol. Ni chaniateir i’r gwasanaethau hyn gael eu darparu mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol ond gan bersonau sydd wedi eu cofrestru â’r Cyngor yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol. Mae’r Rhan hon hefyd yn darparu mai dim ond personau sydd wedi eu cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol a gaiff gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol. Fodd bynnag, nid yw’r gofynion i gofrestru a nodir yn y Rhan hon yn gymwys i bersonau sy’n darparu’r gwasanaethau neu’n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau fel gwirfoddolwyr.
Mae Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 (“Gorchymyn 2016”). Rhoddir cyfeiriadau at “cyflogwr perthnasol” yn lle cyfeiriadau at “corff perthnasol” yng Ngorchymyn 2016. Ystyr cyflogwr perthnasol yw person sy’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen bersonau i ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid yng Nghymru.
Mae’r Rhan hon hefyd yn darparu bod person yn gymwys i gofrestru dros dro fel gweithiwr ieuenctid os yw’n gweithio tuag at ennill cymhwyster gweithiwr ieuenctid. Hefyd, mae person yn gymwys i gofrestru dros dro fel gweithiwr cymorth ieuenctid os yw’n gweithio tuag at ennill cymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid. Rhaid i berson sy’n gymwys i gofrestru dros dro fod yn gofrestredig dros dro er mwyn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran cyflogwr perthnasol (oni bai ei fod yn darparu’r gwasanaethau fel gwirfoddolwr).
Mae’r Rhan hon hefyd yn gosod dyletswyddau ar y Cyngor i lunio a chynnal rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a chymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid. Rhaid i’r Cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru, yn flynyddol, am unrhyw ddiwygiadau y dylid eu gwneud i’r rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a’r rhestr o gymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid fel y’u nodir yn Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn 2016.
Mae Rhan 5 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) mewn perthynas ag athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu. Mae’r diffiniad o “gwaith penodedig” yn rheoliad 17 o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio er mwyn gwneud yn siŵr bod pob athro neu athrawes sy’n bennaeth neu sydd â rôl arall fel uwch-arweinydd yn cael ei gwmpasu neu ei chwmpasu yn y categori athro neu athrawes ysgol. Mae’r diwygiadau hefyd yn symleiddio’r gofynion mewn perthynas â gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ac yn ei gwneud yn glir nad oes rhaid i athro neu athrawes ysgol gofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu hefyd oni bai bod y person hwnnw wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol yng Nghymru. Mae’r diwygiadau yn diwygio’r gofynion mewn perthynas â gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach i’w gwneud yn glir nad oes rhaid i athro neu athrawes addysg bellach gofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach hefyd oni bai bod y person hwnnw wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall fel gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
Mae Rhan 7 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) er mwyn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swm y ffi gofrestru sy’n daladwy gan y categorïau cofrestru newydd. Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer pob categori cofrestru wedi eu nodi yn rheoliad 4 o Reoliadau 2017. Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu swm y cymhorthdal a roddir tuag at y ffioedd cofrestru hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi swm y cymhorthdal hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: