erthygl 9(9)
YR ATODLENCymwysterau Gweithwyr Ieuenctid
Cymwysterau gweithwyr ieuenctid: Cymru
13.—(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2016 wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen hon.
(2) Yn Nhabl 1: Cymru, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Cymwysterau o ran Cymru | Corff dyfarnu |
“Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Prifysgol Glyndŵr Wrecsam” |
“Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol | Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant” |
“Diploma ôl-raddedig mewn gweithio i blant a phobl ifanc (cymhwyso cychwynnol ym maes gwaith ieuenctid) | Prifysgol De Cymru” |
“Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol | Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant” |
“Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol gyda blwyddyn sylfaen | Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant” |
“Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Prifysgol Glyndŵr Wrecsam” |
“Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol gyda diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Prifysgol Metropolitan Caerdydd” |
“Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol | Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant” |
“Gradd ôl-raddedig mewn gweithio i blant a phobl ifanc (cymhwyso cychwynnol ym maes gwaith ieuenctid) | Prifysgol De Cymru” |
(3) Yn Nhabl 2: Lloegr—
(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Cymwysterau o ran Lloegr | Corff dyfarnu |
“Diploma ôl-raddedig mewn astudiaethau plentyndod, ieuenctid a theulu: llwybr gwaith ieuenctid | University of Bedfordshire” |
“Diploma ôl-raddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol | Bradford College” |
“Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid, arwain ac ymarfer | Nottingham Trent University” |
“Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid, iechyd ac arweinyddiaeth gymunedol | De Montfort University” |
“Gradd israddedig mewn astudiaethau addysg: gwaith ieuenctid a chymunedol | University of Hull” |
“Gradd israddedig mewn astudiaethau cymhwysol ym maes plant a gwaith ieuenctid | Bishop Grosseteste University” |
“Gradd israddedig mewn astudiaethau proffesiynol ym maes plentyndod ac ieuenctid (llwybr gwaith ieuenctid) | Bishop Grosseteste University” |
“Gradd israddedig mewn astudiaethau proffesiynol ym maes plant a gwaith ieuenctid | Bishop Grosseteste University” |
“Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid | University of Bolton” |
“Gradd israddedig mewn gwaith cymunedol ac ieuenctid | York St John University” |
“Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedau | Birmingham City University” |
“Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol (gyda llwybrau) | University of Derby” |
“Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid ac ymarfer yn y gymuned | University of Central Lancashire” |
“Gradd israddedig mewn gwyddor gymdeithasol, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid | Goldsmiths College, University of London” |
“Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau plentyndod ac ieuenctid (gwaith ieuenctid) | University of Sunderland” |
“Gradd ôl-raddedig mewn arweinyddiaeth ieuenctid a chymunedol | University of Northampton” |
“Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid, arwain ac ymarfer | Nottingham Trent University” |
(b)nod ar gyfer “Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “London Metropolitan University” yn y lle priodol;
(c)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “University of Wolverhampton” yn y lle priodol;
(d)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Bradford College” yn y lle priodol;
(e)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Newman University” ac “University of Bedfordshire” yn y lleoedd priodol;
(f)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Nottingham Trent University” ac “University of East London” yn y lleoedd priodol; a
(g)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Liverpool Hope University” yn y lle priodol.
(4) Yn Nhabl 3: yr Alban, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Cymwysterau o ran yr Alban | Corff dyfarnu |
“Diploma ôl-raddedig mewn addysg gymunedol | University of Dundee” |
“Diploma ôl-raddedig mewn addysg oedolion, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid | University of Glasgow” |
“Gradd israddedig mewn addysg gymunedol a datblygu cymunedol | University of Glasgow” |
“Gradd israddedig mewn datblygu a dysgu cymunedol | University of Glasgow” |
“Gradd israddedig mewn addysg gymunedol (gan gynnwys llwybr seiliedig ar waith) | University of Dundee” |
“Gradd israddedig mewn dysgu mewn cymunedau | Moray House Institute of Education University of Edinburgh” |
(5) Yn Nhabl 4: Gogledd Iwerddon, yn y lle priodol mewnosoder—
Cymwysterau o ran Gogledd Iwerddon | Corff dyfarnu |
“Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol) | Moorlands College and Youth Link” |
(6) Yn Nhabl 5: Cyrff dyfarnu eraill sy’n dyfarnu cymwysterau yn y Deyrnas Unedig, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“Diploma ôl-raddedig mewn cenhadaeth a gweinidogaeth (gwaith ieuenctid a chymunedol) | Institute for Children, Youth and Mission” |
“Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth ymarferol (gwaith ieuenctid cymunedol) | Institute for Children, Youth and Mission” |
“Gradd israddedig mewn plant, pobl ifanc a theuluoedd | YMCA George Williams College” |