Search Legislation

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 551 (Cy. 86)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023

Gwnaed

17 Mai 2023

Yn dod i rym

22 Mai 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5(1), 10(2)(b)(1), 12(1)(2), 13(1)(3), 14(1)(4), 16(1)(5) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(6) a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi, ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(7).

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Mai 2023.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher”) yr ystyr a roddir iddo yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

mae i “athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher”) yr ystyr a roddir iddo yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;

ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016(8);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(9);

ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017(10);

mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(11);

mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996(12).

RHAN 2YSGOLION ANNIBYNNOL

Gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol

3.—(1Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn wasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol at ddibenion y Rhan hon—

(a)cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;

(b)cyflwyno gwersi i ddisgyblion;

(c)asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion;

(d)adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion;

(e)ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu yn yr ysgol.

(2Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athro neu athrawes ysgol annibynnol

4.  Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes ysgol annibynnol.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol

5.—(1Ni chaiff person gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes ysgol annibynnol i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes ysgol annibynnol.

RHAN 3SEFYDLIADAU ÔL-16 ARBENNIG ANNIBYNNOL

Gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

6.—(1Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn wasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol at ddibenion y Rhan hon—

(a)cynllunio a pharatoi addysg a hyfforddiant ar gyfer dysgwyr;

(b)cyflwyno addysg a hyfforddiant i ddysgwyr;

(c)asesu datblygiad a chynnydd dysgwyr;

(d)adrodd ar ddatblygiad a chynnydd dysgwyr;

(e)ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu yn y sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

(2Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

7.  Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

8.—(1Ni chaiff person gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

RHAN 4GWAITH IEUENCTID

Diwygiad i Orchymyn 2016

9.—(1Mae Gorchymyn 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2—

(a)hepgorer y diffiniadau o “corff gwirfoddol” a “corff perthnasol”;

(b)mewnosoder yn y lle priodol—

ystyr “cyflogwr perthnasol” (“relevant employer”) yw person sy’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen bersonau i ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid yng Nghymru;;

ystyr “Cyngor y Gweithlu Addysg” (“Education Workforce Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parhawyd â’i fodolaeth gan adran 2(1) o Ddeddf 2014;.

(3Yn erthygl 3, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg—

(a)llunio a chynnal rhestr o gymwysterau gweithiwr ieuenctid, a

(b)hysbysu Gweinidogion Cymru yn flynyddol pa un a ddylid diwygio’r rhestr o gymwysterau gweithiwr ieuenctid a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(4Ar ôl erthygl 3 mewnosoder—

Cofrestru dros dro weithwyr ieuenctid

3A.  Caiff person fod wedi ei gofrestru ar sail dros dro fel gweithiwr ieuenctid os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(5Yn erthygl 4—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “sy’n dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014” rhodder “sydd o fewn paragraff (1A)”,

(ii)ar ôl “gwasanaethau datblygu ieuenctid” mewnosoder “yng Nghymru”, a

(iii)yn lle “corff” rhodder “cyflogwr”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae person o fewn y paragraff hwn—

(a)os yw’r person yn dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014, neu

(b)os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(6Yn erthygl 5, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg—

(a)llunio a chynnal rhestr o gymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid, a

(b)hysbysu Gweinidogion Cymru yn flynyddol pa un a ddylid diwygio’r rhestr o gymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2.

(7Ar ôl erthygl 5 mewnosoder—

Cofrestru dros dro weithwyr cymorth ieuenctid

5A.  Caiff person fod wedi ei gofrestru ar sail dros dro fel gweithiwr cymorth ieuenctid os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 2.

(8Yn erthygl 6—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “sy’n dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014” rhodder “sydd o fewn paragraff (1A)”,

(ii)ar ôl “gwasanaethau datblygu ieuenctid” mewnosoder “yng Nghymru”, a

(iii)yn lle “corff” rhodder “cyflogwr”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae person o fewn y paragraff hwn—

(a)os yw’r person yn dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014, neu

(b)os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 2.;

(c)Yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson—

(a)sy’n darparu gwasanaethau gweithiwr cymorth ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol); neu

(b)sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro fel gweithiwr ieuenctid yn unol ag erthygl 4.

(9Mae Atodlen 1 (Gweithwyr Ieuenctid) wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(10Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 3(2) hepgorer paragraffau (a) a (b),

(b)ym mharagraff 4(2)—

(i)hepgorer paragraffau (a) i (e), (g) ac (i),

(ii)ym mharagraff (f), yn lle “dyfarniad” rhodder “tystysgrif”,

(c)ym mharagraff 5(2) hepgorer paragraff (a), a

(d)ym mharagraff 6(2), yn y testun Saesneg, hepgorer paragraffau (a) i (f) ac yn y testun Cymraeg, hepgorer paragraffau (a) i (e).

(11Ond mae’r darpariaethau a hepgorir gan baragraff (10) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phersonau sydd wedi eu cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid cyn cychwyn y Gorchymyn hwn hyd 31 Mai 2025.

RHAN 5ATHRAWON YSGOL, GWEITHWYR CYMORTH DYSGU MEWN YSGOLION A GWEITHWYR CYMORTH DYSGU MEWN ADDYSG BELLACH

Diwygiadau i Reoliadau 2015

10.—(1Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 15—

(a)ailrifer y testun presennol yn baragraff (1);

(b)ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd mewnosoder—

(2) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 18A (amgylchiadau pan gaiff gweithiwr cymorth dysgu gyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17).

(3Yn rheoliad 17(1)—

(a)yn is-baragraff (c) hepgorer yr “a” ar y diwedd;

(b)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(e)ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu yn yr ysgol.

(4Yn lle rheoliad 18A rhodder—

Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion

18A.(1) Ni chaiff person gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau a bennir yn rheoliad 17 mewn neu ar gyfer ysgol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai—

(a)ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol; a

(b)bod y pennaeth yn fodlon bod y person yn meddu ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau mewn ysgol.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes ysgol i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes ysgol.

(5Yn rheoliad 19A—

(a)ailrifer y testun presennol yn baragraff (1);

(b)ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd mewnosoder—

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes addysg bellach i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes addysg bellach.

RHAN 6DIWYGIADAU I DDEDDF 2014

Diwygiadau i Ddeddf 2014

11.—(1Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 yn Atodlen 2—

(a)yn lle’r disgrifiad o “Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” rhodder—

Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1)(a)(ii) ac sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.;

(b)yn y disgrifiad o “Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” hepgorer y geiriau “, ac eithrio athro neu athrawes addysg bellach,”;

(c)mewnosoder ar ôl y cofnod ar gyfer “Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith”—

Tabl 1

Athro neu athrawes ysgol annibynnolPerson sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnolPerson sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.
Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnolPerson sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnolPerson sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.

(3Ym mharagraff 3 yn y lleoedd priodol mewnosoder—

gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;;

gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;;

mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);;

mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996.

(4Yn Nhabl 3 yn Atodlen 4, yn y lleoedd priodol yn y Tabl mewnosoder—

Gair neu ymadroddGair neu ymadrodd yn y SaesnegDarpariaeth berthnasol
Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnolIndependent special post-16 institution teacherAtodlen 2
Athro neu athrawes ysgol annibynnolIndependent school teacherAtodlen 2
Dysgu seiliedig ar waithWork based learningAtodlen 2
Gwasanaethau datblygu ieuenctidYouth development servicesAtodlen 2
Gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waithWork based learning practitioner servicesAtodlen 2
Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnolIndependent special post-16 institution learning support workerAtodlen 2
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnolIndependent school learning support workerAtodlen 2
Gweithiwr cymorth ieuenctidYouth support workerAtodlen 2
Gweithiwr ieuenctidYouth workerAtodlen 2
Sefydliad ôl-16 arbennig annibynnolIndependent special post-16 institutionAtodlen 2
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waithWork based learning practitionerAtodlen 2
Ysgol annibynnolIndependent schoolAtodlen 2

RHAN 7DIWYGIADAU I REOLIADAU 2017

Diwygiadau i reoliad 4

12.  Yn rheoliad 4 o Reoliadau 2017, ar ôl paragraff (1)(g) mewnosoder—

(h)£46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes ysgol annibynnol(13);

(i)£46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol(14);

(j)£46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol(15);

(k)£46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol(16).

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

17 Mai 2023

erthygl 9(9)

YR ATODLENCymwysterau Gweithwyr Ieuenctid

Cymwysterau gweithwyr ieuenctid: Cymru

13.—(1Mae Rhan 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2016 wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen hon.

(2Yn Nhabl 1: Cymru, yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Cymwysterau o ran CymruCorff dyfarnu
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedolPrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasolPrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Diploma ôl-raddedig mewn gweithio i blant a phobl ifanc (cymhwyso cychwynnol ym maes gwaith ieuenctid)Prifysgol De Cymru
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasolPrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol gyda blwyddyn sylfaenPrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedolPrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol gyda diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedolPrifysgol Metropolitan Caerdydd
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasolPrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Gradd ôl-raddedig mewn gweithio i blant a phobl ifanc (cymhwyso cychwynnol ym maes gwaith ieuenctid)Prifysgol De Cymru

(3Yn Nhabl 2: Lloegr—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Cymwysterau o ran LloegrCorff dyfarnu
Diploma ôl-raddedig mewn astudiaethau plentyndod, ieuenctid a theulu: llwybr gwaith ieuenctidUniversity of Bedfordshire
Diploma ôl-raddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedolBradford College
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid, arwain ac ymarferNottingham Trent University
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid, iechyd ac arweinyddiaeth gymunedolDe Montfort University
Gradd israddedig mewn astudiaethau addysg: gwaith ieuenctid a chymunedolUniversity of Hull
Gradd israddedig mewn astudiaethau cymhwysol ym maes plant a gwaith ieuenctidBishop Grosseteste University
Gradd israddedig mewn astudiaethau proffesiynol ym maes plentyndod ac ieuenctid (llwybr gwaith ieuenctid)Bishop Grosseteste University
Gradd israddedig mewn astudiaethau proffesiynol ym maes plant a gwaith ieuenctidBishop Grosseteste University
Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctidUniversity of Bolton
Gradd israddedig mewn gwaith cymunedol ac ieuenctidYork St John University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedauBirmingham City University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol (gyda llwybrau)University of Derby
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid ac ymarfer yn y gymunedUniversity of Central Lancashire
Gradd israddedig mewn gwyddor gymdeithasol, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctidGoldsmiths College, University of London
Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau plentyndod ac ieuenctid (gwaith ieuenctid)University of Sunderland
Gradd ôl-raddedig mewn arweinyddiaeth ieuenctid a chymunedolUniversity of Northampton
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid, arwain ac ymarferNottingham Trent University

(b)nod ar gyfer “Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “London Metropolitan University” yn y lle priodol;

(c)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “University of Wolverhampton” yn y lle priodol;

(d)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Bradford College” yn y lle priodol;

(e)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Newman University” ac “University of Bedfordshire” yn y lleoedd priodol;

(f)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Nottingham Trent University” ac “University of East London” yn y lleoedd priodol; a

(g)yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Liverpool Hope University” yn y lle priodol.

(4Yn Nhabl 3: yr Alban, yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Cymwysterau o ran yr AlbanCorff dyfarnu
Diploma ôl-raddedig mewn addysg gymunedolUniversity of Dundee
Diploma ôl-raddedig mewn addysg oedolion, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctidUniversity of Glasgow
Gradd israddedig mewn addysg gymunedol a datblygu cymunedolUniversity of Glasgow
Gradd israddedig mewn datblygu a dysgu cymunedolUniversity of Glasgow
Gradd israddedig mewn addysg gymunedol (gan gynnwys llwybr seiliedig ar waith)University of Dundee
Gradd israddedig mewn dysgu mewn cymunedauMoray House Institute of Education University of Edinburgh

(5Yn Nhabl 4: Gogledd Iwerddon, yn y lle priodol mewnosoder—

Cymwysterau o ran Gogledd IwerddonCorff dyfarnu
Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol)Moorlands College and Youth Link

(6Yn Nhabl 5: Cyrff dyfarnu eraill sy’n dyfarnu cymwysterau yn y Deyrnas Unedig, yn y lleoedd priodol mewnosoder—

CymwysterauCorff dyfarnu
Diploma ôl-raddedig mewn cenhadaeth a gweinidogaeth (gwaith ieuenctid a chymunedol)Institute for Children, Youth and Mission
Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth ymarferol (gwaith ieuenctid cymunedol)Institute for Children, Youth and Mission
Gradd israddedig mewn plant, pobl ifanc a theuluoeddYMCA George Williams College

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau i’r Cyngor mewn perthynas â phersonau y mae’n ofynnol iddynt gofrestru yn y gofrestr y mae’r Cyngor yn ei chynnal yn unol ag adran 9 o’r Ddeddf honno (“y Gofrestr”).

Mae’r categorïau o bersonau cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer ym mharagraff 2 o’r Atodlen honno i ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru. Yn unol â hynny, mae Rhan 6 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Tabl 1 ym mharagraff 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014 er mwyn ychwanegu’r categorïau a ganlyn o bersonau cofrestredig—

(a)athro neu athrawes ysgol annibynnol,

(b)gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol,

(c)athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol, a

(d)gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol. Ni chaniateir i’r gwasanaethau hyn gael eu darparu mewn neu ar ran ysgolion annibynnol ond gan bersonau sydd wedi eu cofrestru â’r Cyngor yn y categori athro neu athrawes ysgol annibynnol. Mae’r Rhan hon hefyd yn darparu mai dim ond personau sydd wedi eu cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol a gaiff gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol. Fodd bynnag, nid yw’r gofynion i gofrestru a nodir yn y Rhan hon yn gymwys i bersonau sy’n darparu’r gwasanaethau neu’n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau fel gwirfoddolwyr.

Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn yn pennu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol. Ni chaniateir i’r gwasanaethau hyn gael eu darparu mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol ond gan bersonau sydd wedi eu cofrestru â’r Cyngor yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol. Mae’r Rhan hon hefyd yn darparu mai dim ond personau sydd wedi eu cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol a gaiff gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol. Fodd bynnag, nid yw’r gofynion i gofrestru a nodir yn y Rhan hon yn gymwys i bersonau sy’n darparu’r gwasanaethau neu’n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau fel gwirfoddolwyr.

Mae Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 (“Gorchymyn 2016”). Rhoddir cyfeiriadau at “cyflogwr perthnasol” yn lle cyfeiriadau at “corff perthnasol” yng Ngorchymyn 2016. Ystyr cyflogwr perthnasol yw person sy’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen bersonau i ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r Rhan hon hefyd yn darparu bod person yn gymwys i gofrestru dros dro fel gweithiwr ieuenctid os yw’n gweithio tuag at ennill cymhwyster gweithiwr ieuenctid. Hefyd, mae person yn gymwys i gofrestru dros dro fel gweithiwr cymorth ieuenctid os yw’n gweithio tuag at ennill cymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid. Rhaid i berson sy’n gymwys i gofrestru dros dro fod yn gofrestredig dros dro er mwyn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran cyflogwr perthnasol (oni bai ei fod yn darparu’r gwasanaethau fel gwirfoddolwr).

Mae’r Rhan hon hefyd yn gosod dyletswyddau ar y Cyngor i lunio a chynnal rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a chymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid. Rhaid i’r Cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru, yn flynyddol, am unrhyw ddiwygiadau y dylid eu gwneud i’r rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a’r rhestr o gymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid fel y’u nodir yn Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn 2016.

Mae Rhan 5 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) mewn perthynas ag athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu. Mae’r diffiniad o “gwaith penodedig” yn rheoliad 17 o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio er mwyn gwneud yn siŵr bod pob athro neu athrawes sy’n bennaeth neu sydd â rôl arall fel uwch-arweinydd yn cael ei gwmpasu neu ei chwmpasu yn y categori athro neu athrawes ysgol. Mae’r diwygiadau hefyd yn symleiddio’r gofynion mewn perthynas â gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ac yn ei gwneud yn glir nad oes rhaid i athro neu athrawes ysgol gofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu hefyd oni bai bod y person hwnnw wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol yng Nghymru. Mae’r diwygiadau yn diwygio’r gofynion mewn perthynas â gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach i’w gwneud yn glir nad oes rhaid i athro neu athrawes addysg bellach gofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach hefyd oni bai bod y person hwnnw wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall fel gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

Mae Rhan 7 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) er mwyn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swm y ffi gofrestru sy’n daladwy gan y categorïau cofrestru newydd. Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer pob categori cofrestru wedi eu nodi yn rheoliad 4 o Reoliadau 2017. Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu swm y cymhorthdal a roddir tuag at y ffioedd cofrestru hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi swm y cymhorthdal hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 10(2)(b) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(2)

Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 12(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

(3)

Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 13(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

(4)

Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 14 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

(5)

Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 16 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

(7)

Mae’r cyfeiriad yn adran 47(2) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(13)

Fel y’i diffinnir yn y cofnod ar gyfer athro neu athrawes ysgol annibynnol yn Nhabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

(14)

Fel y’i diffinnir yn y cofnod ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol yn Nhabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

(15)

Fel y’i diffinnir yn y cofnod ar gyfer athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yn Nhabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

(16)

Fel y’i diffinnir yn y cofnod ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yn Nhabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources