- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Swyddi Barnwrol (Eistedd mewn Ymddeoliad – Swyddi Rhagnodedig a’u Disgrifiadau) (Cymru) 2023.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Tribiwnlysoedd Cymru
Gwnaed
23 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
25 Ionawr 2023
Yn dod i rym
17 Chwefror 2023
Mae Gweinidogion Cymru gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124(3) a 4(e) a 129(1)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Swyddi Barnwrol (Eistedd mewn Ymddeoliad – Swyddi Rhagnodedig a’u Disgrifiadau) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 17 Chwefror 2023.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 17.2.2023, gweler rhl. 1
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith o Banel Dyfarnu Cymru” (“legally qualified member of the Adjudication Panel for Wales”) yw person (“P”) a oedd pan y’i penodwyd i swydd ragnodedig yn bodloni’r disgrifiad a ganlyn—
roedd P yn bodloni’r amod o ran cymhwysedd ar gyfer penodiad barnwrol ar sail pum mlynedd;
roedd P yn eiriolwr neu’n gyfreithiwr yn yr Alban a chanddo bum mlynedd o wasanaeth;
roedd P yn aelod o Far Gogledd Iwerddon; neu
roedd gan P brofiad cyfreithiol a oedd yn addas ym marn Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 17.2.2023, gweler rhl. 1
3. Mae person sy’n dal neu sydd wedi dal swydd a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen (“swyddi rhagnodedig”) yn gymwys i’w benodi i’r swydd eistedd mewn ymddeoliad a restrir yn rhes gyfatebol colofn 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 17.2.2023, gweler rhl. 1
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2023
Rwyf yn cydsynio
Wyn Williams
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
19 Ionawr 2023
Rheoliad 3
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. mewn grym ar 17.2.2023, gweler rhl. 1
Colofn 1: Swydd eistedd mewn ymddeoliad | Colofn 2: Swyddi rhagnodedig |
---|---|
1. Dirprwy Gadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Cadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru Dirprwy Gadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru |
2. Aelod cyfreithiol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru Aelod cyfreithiol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru |
3. Aelod cyfreithiol o Bwyllgor Asesu Rhenti Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Pwyllgor Asesu Rhenti Cymru Is-lywydd Pwyllgor Asesu Rhenti Cymru Aelod o’r panel o bersonau a benodwyd i weithredu fel cadeirydd Pwyllgor Asesu Rhenti Cymru |
4. Aelod cyfreithiol o Dribiwnlys y Gymraeg (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg Aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith o Dribiwnlys y Gymraeg |
5. Aelod o Banel Dyfarnu Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Panel Dyfarnu Cymru Dirprwy Lywydd Panel Dyfarnu Cymru Aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith o Banel Dyfarnu Cymru |
6. Aelod o banel cadeirydd cyfreithiol Tribiwnlys Addysg Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) | Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru Dirprwy Lywydd Tribiwnlys Addysg Cymru Aelod o banel cadeirydd cyfreithiol Tribiwnlys Addysg Cymru |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124(3) a (4)(e) a 129(1)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 er mwyn rhagnodi swyddi a ddelir gan bersonau sy’n gymwys i’w penodi i swydd eistedd mewn ymddeoliad. Dim ond i swyddi eistedd mewn ymddeoliad pan mai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw’r awdurdod penodi y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.
Mae’r Tabl yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn rhestru’r swyddi barnwrol rhagnodedig y mae rhaid i berson eu dal neu fod wedi eu dal cyn ymddeol er mwyn ei benodi i’r swydd eistedd mewn ymddeoliad gyfatebol.
Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: