- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
25 Ionawr 2023
Yn dod i rym
30 Ionawr 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 160A(3)(1) o Ddeddf Tai 1996(2) ac adran 61 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(3) a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 iddi.
Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(4).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 30 Ionawr 2023.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.1.2023, gweler rhl. 1
2. Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(5) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.1.2023, gweler rhl. 1
3. Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a)hepgorer yr “ac” yn union ar ôl paragraff (k),
(b)ar ddiwedd paragraff (l), yn lle “.” rhodder “; ac”, ac
(c)ar ôl paragraff (l) mewnosoder—
“(m)Dosbarth M – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth(6).”
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.1.2023, gweler rhl. 1
4. Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a)hepgorer yr “ac” yn union ar ôl is-baragraff (l);
(b)ar ddiwedd is-baragraff (m), yn lle “.” rhodder “; ac”, ac
(c)ar ôl is-baragraff (m) mewnosoder—
“(n)Dosbarth N – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth.”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 30.1.2023, gweler rhl. 1
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
25 Ionawr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”). Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth M”) sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.
Mae Dosbarth M yn gymwys i bersonau sy’n ddioddefwyr y fasnach mewn pobl neu gaethwasiaeth ac y rhoddwyd iddynt ganiatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig yn unol â’r Rheolau Mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77).
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth N”) sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath. Mae’r dosbarth hwn yn cyfateb i Ddosbarth M a fewnosodir gan reoliad 3.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Mewnosodwyd adran 160A gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd 2002 (p. 7); diwygiwyd is-adran 3 gan adran 146(2)(d) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a’r cofnod mewn perthynas â Deddf Tai 1996 yn Atodlen 1 i O.S. 1999/672 fel y’i darllenir yn unol ag adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
2014 dccc 7. Gweler adran 99 am y diffiniad o “rhagnodedig”.
Mae’r cyfeiriad yn adran 142(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
O.S. 2014/2603 (Cy. 257) (fel y’i harbedwyd ac y’i haddaswyd gan erthygl 5 o O.S. 2015/1272 (Cy. 88) (C. 73), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/698 (Cy. 164), O.S. 2019/1041 (Cy. 183), O.S. 2019/1149 (Cy. 199), rheoliad 76 o O.S. 2020/1309, rheoliad 26 o O.S. 2020/1372, O.S. 2021/353 (Cy. 105), O.S. 2021/1147 (Cy. 282) ac O.S. 2022/485 (Cy. 121).
Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395), fel y’i diwygiwyd. Cyflwynwyd Atodiad Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth gan y Datganiad o Newidiadau i’r Rheolau Mewnfudo: HC 719, a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 18 Hydref 2022 ac sy’n cael effaith ar 30 Ionawr 2023.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: